Skip to main content

Newyddion

Bydd meysydd parcio yng Nghanol Tref Aberdâr yn aros ar agor yn ystod y gwaith ar y cyflenwad nwy

Dyma roi gwybod i drigolion bod y meysydd parcio ger y Stryd Las yng Nghanol Tref Aberdâr yn aros ar agor yn ystod y gwaith amnewid y cyflenwad nwy sydd ar y gweill gan Wales & West Utilities

06 Mehefin 2024

Dirwy i yrrwr tacsi didrwydded ym Mhontypridd

Mae gyrrwr tacsi didrwydded, a oedd yn ceisio cael ei hurio yn anghyfreithlon ym Mhontypridd, wedi cael dirwy a chostau gwerth £775.

31 Mai 2024

Ail gam y gwaith ar ysgol yn ardal Beddau yn cwblhau buddsoddiad mawr

Mae'r buddsoddiad mawr yn Ysgol Gyfun Bryn Celynnog nawr wedi'i gwblhau, a hynny ar ôl agor cyfleuster parcio newydd i staff. Mae hyn yn dilyn gwaith i foderneiddio'r ystafelloedd dosbarth a'r cyfleusterau chwaraeon yn ystod y flwyddyn...

30 Mai 2024

Adroddiad cynnydd ar adnewyddu adeilad hanesyddol y Miwni ym Mhontypridd

Mae'r Cyngor wedi rhannu diweddariad ynglŷn ag adnewyddiad Canolfan Gelfyddydau'r Miwni - gyda chynnydd arbennig yn mynd rhagddo i greu hwb modern ar gyfer y celfyddydau ac achlysuron, tra'n gwella a diogelu nodweddion gwreiddiol yr...

30 Mai 2024

Gwaith gwella 100 o safleoedd bysiau ledled Cwm Cynon wedi'i gwblhau

Mae'r Cyngor wedi cwblhau rhaglen fuddsoddi sylweddol yn ddiweddar sy'n golygu bod dros 100 o safleoedd bysiau lleol ledled Cwm Cynon wedi'u gwella, a hynny trwy ddefnyddio cyllid wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru

29 Mai 2024

Cerbydau oddi ar y ffordd yn difrodi tomenni

Dyma ofyn i'r cyhoedd roi gwybod am gerbydau oddi ar y ffordd sy'n difrodi mesurau diogelwch sydd ar waith ar ein tomenni yn Rhondda Cynon Taf. Rydyn ni'n annog defnyddwyr cerbydau oddi ar y ffordd i ailystyried gyrru ar y tomenni.

28 Mai 2024

Gŵyl Banc Mai gwybodaeth am wasanaethau'r Cyngor

Bydd y Cyngor ar gau o 5pm ddydd Gwener, Mai 24 ac yn agor am 8:30am ddydd Mawrth, Mai 28 – mae hyn yn berthnasol i BOB gwasanaeth mawr heblaw am argyfyngau y tu allan i oriau.

23 Mai 2024

Lleisiwch eich barn am y llety gofal newydd arfaethedig yn Aberpennar

Byddai modd i'r datblygiad gynnwys adeilad tri llawr sy'n cynnwys 25 fflat gofal ychwanegol a 15 gwely gofal preswyl ar gyfer pobl sydd â dementia. Yn ychwanegol, byddai modd cynnwys 8 byngalo 'Byw'n Hŷn' yn y safle ehangach

22 Mai 2024

Ymchwiliadau pellach i Lwybr Cynon ym Mhen-y-waun

Neges i hysbysu trigolion y bydd Llwybr Cynon, Penywaun, ar gau am dri diwrnod, er mwyn cynnal tyllau prawf a fydd yn llywio cynllun adfer tirlithriad yn y dyfodol

22 Mai 2024

Grŵp yn ymgymryd â her ddringo 200 milltir er mwyn cefnogi pobl ifainc mewn gofal

Mae carfanau maethu awdurdodau lleol Maethu Cymru yn ymgymryd â her anhygoel i ddathlu'r gwahaniaeth y mae maethu yn ei wneud i bobl ifainc yng Nghymru.

22 Mai 2024

Chwilio Newyddion