Skip to main content

Adroddiad cynnydd ar adnewyddu adeilad hanesyddol y Miwni ym Mhontypridd

Muni gallery

Mae'r Cyngor wedi rhannu diweddariad ynglŷn ag adnewyddiad Canolfan Gelfyddydau’r Miwni - gyda chynnydd arbennig yn mynd rhagddo i greu hwb modern ar gyfer y celfyddydau ac achlysuron, tra'n gwella a diogelu nodweddion gwreiddiol yr adeilad ar yr un pryd.

Dechreuodd y gwaith adnewyddu, sydd werth miliynau o bunnoedd, yn 2023 er mwyn adfywio'r tirnod arbennig ym Mhontypridd.  Mae'r Miwni yn Adeilad Rhestredig Gradd II mewn arddull gothig sydd yng nghanol y dref. Cafodd ei adeiladu'n wreiddiol fel Capel Wesleaidd yn 1895.  Yn fwy diweddar, daeth yn hwb cydnabyddedig a gwerthfawr ar gyfer y celfyddydau a cherddoriaeth.

Yn 2019, cyhoeddodd y Cyngor ac Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen gynlluniau uchelgeisiol i ailddatblygu'r Miwni i fod yn lleoliad celfyddydol cwbl hygyrch, gan drwsio ac adnewyddu nodweddion gothig yr adeilad. Yn 2021, cafodd cyllid gwerth £5.3 miliwn  ei sicrhau gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ar gyfer y prosiect.

Bydd 'Y Miwni' yn cael ei weithredu gan Ymddiriedolaeth Awen, ac yn cynnig rhaglen amrywiol a hygyrch o gerddoriaeth byw, comedi ac achlysuron sinema.  Bydd gan y lleoliad gyfleusterau bar ar ddau lawr i gefnogi'r economi hamdden a diwylliant gyda’r nos, tra bod yr awditoriwm yn cael ei hadnewyddu ac ardaloedd y cyntedd, y mesanîn a’r bar yn cael eu hailfodelu. Bydd lifftiau, toiledau, ystafelloedd newid a chyfleuster newid hefyd yn cael eu gosod yn yr adeilad.

Yn ei adroddiad cynnydd ar ddiwedd mis Mai 2024, mae’r Cyngor yn falch o gyhoeddi bod cynnydd arbennig o dda yn cael ei wneud tuag at gwblhau’r rhaglen gwaith, gyda disgwyl i'r prosiect cael ei gwblhau yr haf yma, yn unol â’r cynllun.

Yn ôl cyhoeddiadau blaenorol, bydd 'Y Miwni' yn safle allweddol er mwyn cefnogi achlysuron ehangach yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2024, sydd yn cael ei chynnal ym Mharc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd rhwng 3 a 10 Awst. Bydd y lleoliad wedyn yn agor yn ffurfiol yn hwyrach eleni er mwyn croesawu’r cyhoedd i fwynhau’r celfyddydau ac achlysuron.

Ers cychwyn y gwaith ar y safle ym mis Medi 2023, mae contractwr y Cyngor, Knox, wedi gweithio'n agos gyda'r Cyngor ac Ymddiriedolaeth Awen er mwyn cyflawni sawl carreg filltir allweddol. Yn allanol, mae'r rhain yn cynnwys trwsio'r gwaith carreg, glanhau'r adeilad yn drylwyr, adeiladu to newydd, mewnosod paneli solar solar ffotofoltäig ar y to, creu agoriadau newydd i'r bar ar y llawr gwaelod ac ailosod ffenestri.

Cliciwch yma i weld fersiwn fawr o'r map uchod

Yn fewnol, mae'r cerrig milltir yn cynnwys gorffen nenfwd yr awditoriwm, gwaith lefel uchel yn yr awditoriwm gan gynnwys gwasanaethau mecanyddol a thrydanol, mewnosod galeri newydd yn yr awditoriwm, ffurfio mesanîn yn ardal y bar, creu siafft lifft, a mewnosod uned ymdrin ag aer ar gyfer awyru mecanyddol.

Bydd rhai o'r camau sy'n cael eu cwblhau gan y contractwyr yn ystod yr wythnosau nesaf yn cynnwys gosod y llawr yn yr awditoriwm, mewnosod eisteddle ôl-dynadwy, a gosod nodweddion ardal y bar a'r gegin.   

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu: "Roeddwn i'n hynod falch i ymweld â Chanolfan Celfyddydau’r Miwni yn gynharach y mis yma i weld y cynnydd sydd wedi bod o ran yr ailddatblygiad a'r gwaith sydd wedi'i gyflawni tuag at adnewyddu'r adeilad hanesyddol hyd yn hyn, sydd yn gwbl arbennig.  Rwy'n hyderus bydd y Miwni’n ailsefydlu ei hun yn ganolfan ar gyfer achlysuron y mae modd i Bontypridd a Rhondda Cynon Taf fod yn falch ohoni. Alla’ i ddim aros i'r cyhoedd weld y tu mewn i'r adeilad unwaith y bydd wedi'i gwblhau.

“Rydyn ni'n parhau i weithio'n agos gydag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen ynglŷn â'i gweithgarwch ar y safle, gan fanteisio ar ei chyfoeth o brofiad o ran rhedeg cyfleusterau diwylliannol yn ogystal â sefydlu dyfodol cynaliadwy iddyn nhw. Bydd 'Y Miwni' yn cael ei defnyddio am y tro cyntaf ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru, sydd yn dod i Bontypridd fis Awst! Bydd y Cyngor yn rhannu gwybodaeth bellach unwaith y bydd y trefniadau wedi'u cadarnhau.”

Mae Prosiect Ailddatblygu Canolfan Celfyddydau’r Miwni wedi’i gefnogi gan gyllid gwerth £5.2 miliwn, a gafodd ei sicrhau gan y Cyngor yn dilyn rownd gychwynnol Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ar ddiwedd 2021.

Wedi ei bostio ar 30/05/2024