Skip to main content

Dirwy i yrrwr tacsi didrwydded ym Mhontypridd

Mae gyrrwr tacsi didrwydded, a oedd yn ceisio cael ei hurio yn anghyfreithlon ym Mhontypridd, wedi cael dirwy a chostau gwerth £775.

Canfuwyd bod Mr Liam Downes o Bentre’r Eglwys yn gweithredu fel gyrrwr tacsi heb drwydded ym Mwrdeistref Rhondda Cynon Taf.

Ar ddydd Sul 13 Awst 2023 yn oriau mân y bore, roedd Mr Downes wedi parcio ger Gorsaf Drenau Pontypridd gan aros i'r cyhoedd adael y tafarndai a'r clybiau cyfagos. Aeth swyddog trwyddedu at Mr Downes ac fe gytunodd ef i fynd â nhw i fan gollwng am ffi.

Ddydd Mercher 8 Mai 2024 yn Llys Ynadon Merthyr Tudful, plediodd Mr Liam Downes o Bentre’r Eglwys yn euog i’r drosedd o geisio cael ei hurio. Cafodd ddirwy a gorchymyn i dalu costau o £775.

Meddai llefarydd ar ran yr adran drwyddedu yn Rhondda Cynon Taf,

“Mae diogelwch a hyder y cyhoedd wrth ddefnyddio tacsis rheoledig a thrwyddedig yn hollbwysig. Mae gyrwyr a cherbydau trwyddedig yn destun gwiriadau trwyadl i sicrhau eu bod yn bodloni’r safonau sydd yn eu lle i amddiffyn anghenion a diogelwch y cyhoedd. Byddwn ni’n ymdrin yn gadarn â gyrwyr didrwydded sy’n tanseilio’r ymddiriedaeth yma er mwyn cynnal hyder y cyhoedd a sicrhau diogelwch y cyhoedd.”

Mae’r tacsis Cerbyd Hacni sydd wedi'u trwyddedu yn Rhondda Cynon Taf yn ddu eu lliw ac mae gyda nhw blât sydd wedi'i ddarparu gan y Cyngor ar y cefn sy'n dangos uchafswm nifer y teithwyr, ac arwyddion drws ar bob ochr i'r drysau blaen. Caiff bathodyn ei roi i yrwyr sydd wedi'u trwyddedu gan y Cyngor hefyd, ac mae'n rhaid iddyn nhw ei ddangos i gwsmeriaid pan fydd gofyn gwneud hynny.

Rydyn ni’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am yrwyr tacsi didrwydded neu gerbydau didrwydded sy’n gweithredu yn Rhondda Cynon Taf i gysylltu â Charfan Trwyddedu’r Cyngor.”

I roi gwybod am yrrwr tacsi didrwydded, cysylltwch â’r garfan trwyddedu drwy e-bost adran.trwyddedau@rctcbc.gov.ukneu drwy ffonio 01443 425001.

Wedi ei bostio ar 31/05/2024