Skip to main content

Lleisiwch eich barn am y llety gofal newydd arfaethedig yn Aberpennar

Darran Road, Mountain Ash - Copy

Mae amser yn weddill i chi gymryd rhan yn ymgynghoriad Linc Cymru ar gyfer datblygiad arfaethedig yn Aberpennar fyddai'n darparu llety gofal newydd ar gyfer pobl hŷn.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i foderneiddio llety gofal ar gyfer pobl hŷn, gan gynnwys buddsoddiad gwerth miliynau i gynyddu'r ddarpariaeth tai gofal ychwanegol yn y Fwrdeistref Sirol mewn partneriaeth â Linc Cymru. Yn rhan o'r ymrwymiad yma, mae Linc Cymru yn bwrw ymlaen â chynigion sylweddol i ddatblygu llety gofal newydd ar safle tir llwyd gwag oddi ar Heol y Darren yn Aberpennar.

Byddai modd i'r datblygiad gynnwys adeilad tri llawr sy'n cynnwys 25 fflat gofal ychwanegol a 15 gwely gofal preswyl ar gyfer pobl sydd â dementia. Byddai'n cynnwys amrywiaeth o gyfleusterau megis lolfa, ystafelloedd bwyta, ystafell ddydd, salon trin gwallt ac ystafell synhwyraidd. Yn ychwanegol, byddai modd cynnwys 8 byngalo 'Byw'n Hŷn' yn y safle ehangach. Mae hyn i'w weld mewn argraff arlunydd sydd wedi'i gynnwys.

Byddai mynediad i gerddwyr a cherbydau i'r safle yn cael ei wella, gyda maes parcio i 34 o gerbydau yn cael ei ddarparu. Byddai gwelliannau bioamrywiaeth yn cael eu gwneud drwy gydol y datblygiad, gan gynnwys nodweddion draenio trefol cynaliadwy.

Mae Linc Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd mewn perthynas â'r datblygiad arfaethedig, sy'n dod i ben ddydd Mawrth, 28 Mai. Dyma gyfle i'r cyhoedd ddysgu rhagor a lleisio'u barn ar y cynlluniau arfaethedig er mwyn helpu Linc Cymru i lywio'r cynlluniau ymhellach cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol.

Mae modd bwrw golwg ar wefan yr ymgynghoriad yma. Mae'n nodi gwybodaeth fanwl am y datblygiad arfaethedig, gan gynnwys darluniau, ffurflenni cais cynllunio drafft, datganiad dylunio a mynediad, ac adroddiad ecoleg.

Mae modd i aelodau'r cyhoedd leisio eu barn gan ddefnyddio blwch sydd ar waelod y wefan. Fel arall, mae modd cysylltu drwy e-bostio pac@turleysc.com neu bostio llythyr at Y Garfan Ymgynghori, d/o Turley, 18 Maes Windsor, Caerdydd CF10 3BY.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Rwy'n erfyn ar drigolion i ddysgu rhagor am y datblygiad arfaethedig cyffrous yma fyddai'n darparu llety gofal newydd ar gyfer Aberpennar, yn rhan o fuddsoddiad gwerth miliynau i foderneiddio lletyau gofal ar gyfer pobl hŷn yn unol â'r hynny gafodd ei gytuno gan y Cyngor y llynedd.

"Mae'r cynnig, sy'n cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â Linc Cymru, yn cynnwys 25 fflat gofal ychwanegol fyddai'n cyfrannu ymhellach at ein nod o gynyddu'r ddarpariaeth tai arbenigol yma yn Rhondda Cynon Taf. Mae gofal ychwanegol yn darparu cymorth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i fodloni anghenion y preswylwyr, gan eu helpu nhw i fyw yn annibynnol mor hir â phosibl – mae ein cynlluniau cyfredol yn Nhonysguboriau, Aberaman a'r Graig yn boblogaidd iawn yn eu cymunedau. Ym mis Chwefror eleni, ailddechreuodd gwaith adeiladu ar ein pedwerydd cynllun gofal ychwanegol, fydd yn darparu 60 o fflatiau gofal ychwanegol ar hen safle Cartref Gofal Dan y Mynydd yn ardal Porth. 

"Mae Linc Cymru yn bwriadu cyflwyno cais cynllunio yn y dyfodol ar gyfer y datblygiad arfaethedig yn Aberpennar, ac mae'r ymgynghoriad parhaus yn gyfle i'r gymuned gael mynediad at wybodaeth fanwl am yr hynny sydd wedi'i gynllunio, ac i leisio eu barn. Bydd yr holl adborth sy'n cael ei dderbyn cyn y terfyn amser ar 28 Mai yn cael ei ystyried, i helpu i lywio cais cynllunio terfynol Linc Cymru."

Wedi ei bostio ar 22/05/24