Skip to main content

Cerbydau oddi ar y ffordd yn difrodi tomenni

Untitled design (10)

Dyma ofyn i'r cyhoedd roi gwybod am gerbydau oddi ar y ffordd sy'n difrodi mesurau diogelwch sydd ar waith ar ein tomenni yn Rhondda Cynon Taf. Rydyn ni'n annog defnyddwyr cerbydau oddi ar y ffordd i ailystyried gyrru ar y tomenni oherwydd y peryglon y mae'r difrod yn eu hachosi i gymunedau lleol.

Mae cerbydau oddi ar y ffordd yn achosi difrod i'r systemau draenio sy'n hanfodol ar gyfer diogelwch tomenni, ac sy'n cael eu cynnal a'u cadw gan Garfan Diogelwch Tomenni RhCT sy'n gweithio'n ddiddiwedd i gynnal diogelwch tomenni ledled RhCT. Mae difrod i'r systemau draenio ac arwyneb y tomenni nid yn unig yn arwain at batrymau draenio afreolus, ond mae hefyd yn rhwystro draeniad ffurfiol presennol gan achosi gorlifo, ansefydlogrwydd a thirlithriadau o bosibl. Mae hyn yn peri risgiau i gymunedau a seilwaith cyfagos ac yn arwain at gostau cynnal a chadw sylweddol i'w hatgyweirio.

Bydd Carfan Diogelwch Tomenni RhCT yn gosod arwyddion ar y safleoedd sydd â'r nifer fwyaf o broblemau i atal pobl rhag gyrru oddi ar y ffordd ac i atgoffa pobl o'r perygl mae tomenni sydd wedi'u difrodi'n ei achosi i gymunedau a bywyd gwyllt.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: "Oherwydd rhesymau diogelwch mae gan lawer o domenni seilwaith draenio arnyn nhw sy'n sicrhau bod dŵr yn cael ei gasglu a'i symud i ffwrdd o gorff y domen i systemau draenio neu gyrsiau dŵr oddi ar y safle. Serch hynny, gall cerbydau oddi ar y ffordd ddifrodi'r seilwaith draenio hanfodol yma.

"Mae seilwaith draenio gweithredol yn allweddol i helpu i gynnal sefydlogrwydd tomenni. Mae cynnal a chadw'r seilwaith yma'n cymryd llawer o amser ac yn ddrud. Ar hyn o bryd mae'r Garfan Tomenni yn nodi ac yn blaenoriaethu’r tomenni a’r seilwaith sydd fwyaf mewn perygl ac yn gwneud gwaith cynnal a chadw yn unol â hynny, o ystyried y gyllideb grant gyfyngedig a’r contractwyr sydd ar gael.”

 Gofynnwn i chi roi gwybod am unrhyw achosion posibl rydych chi'n eu gweld gan fod pob adroddiad yn helpu Heddlu De Cymru i ddyrannu adnoddau i fynd i'r afael â phatrymau pobl yn defnyddio tomenni penodol. Os ydych chi'n gweld cerbydau oddi ar y ffordd yn gyrru’n anghyfreithlon ac yn difrodi’r tomenni, mae modd i chi roi gwybod i Heddlu De Cymru drwy:

  • swp101@south-wales.police.uk
  • Neu ffonio 101

Mae'r wybodaeth sy'n cael ei chasglu o adroddiadau gan y cyhoedd yn helpu i fynd i'r afael â phroblemau gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd trwy roi gwybod i Weithrediadau Cerbydau Oddi ar y Ffordd, a gynhelir gan Heddlu De Cymru, sydd â'r adnoddau i fynd i'r afael â phroblemau o ran niwsans gan gerbydau oddi ar y ffordd. Os oes unigolion yn cael eu nodi, mae modd i'r garfan yn RhCT gymryd camau yn erbyn unrhyw berson sy'n cyflawni trosedd trwy'r ddeddfwriaeth gorfodi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.

Meddai Gareth Prosser, Rheolwr Diogelwch Cymunedau Heddlu De Cymru: “Mae gyrru beiciau oddi ar y ffordd mewn modd peryglus nid yn unig yn broblem ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond mae hefyd yn peryglu diogelwch y cyhoedd sy’n defnyddio’r tir at ddibenion cyfreithlon.

“Gall beicio'n anghyfreithlon achosi problemau amgylcheddol mawr gyda draeniad y tir sy’n newid y cwrs dŵr gan achosi i’r tomenni ddod yn ansefydlog a allai gael effaith yn y dyfodol.

“Gall beiciau oddi ar y ffordd ddinistrio coed newydd sydd wedi’u plannu hefyd. 

“Dros y blynyddoedd, mae llawer o domenni wedi gordyfu â llystyfiant ac maen nhw'n gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt, gan gynnwys adar, pryfed ac ymlusgiaid. Serch hynny, mae natur serth ac weithiau ansefydlog y tomenni'n eu gwneud yn amgylchedd a allai fod yn beryglus.

“Rydyn ni'n gweithio’n agos gydag asiantaethau partner i roi terfyn ar yr ymddygiad yma ac atal defnyddwyr yn ystod misoedd yr haf.”

Mae angen cymaint o wybodaeth â phosibl ar Heddlu De Cymru i ddelio â digwyddiadau ac mae'n gofyn i chi gynnwys yr wybodaeth ganlynol, os ydych chi'n ei gwybod:

  • Manylion y person sy'n rhoi gwybod am y digwyddiad
  • Dyddiad, amser a disgrifiad o'r digwyddiad
  • Math o gerbyd(au)
    • Car, beic modur, beic cwad ac ati
    • Rhif cofrestru llawn neu ran ohono
    • Gwneuthurwr
    • Lliw'r model
    • Nodweddion adnabyddadwy
    • Manylion defnyddiwr y cerbyd (os ydych chi'n gwybod)
    • Unrhyw dystiolaeth ar ffurf fideo, sain neu ffotograff
    • A ydy'r math yma o ddigwyddiad wedi digwydd o’r blaen (gyda manylion y digwyddiad blaenorol os yn berthnasol)
    • Gwybodaeth am sut mae'r digwyddiad yn effeithio arnoch chi
Wedi ei bostio ar 28/05/2024