Skip to main content

Gwaith gwella 100 o safleoedd bysiau ledled Cwm Cynon wedi'i gwblhau

Bus stops grid - Copy

Mae'r Cyngor wedi cwblhau rhaglen fuddsoddi sylweddol yn ddiweddar sy'n golygu bod dros 100 o safleoedd bysiau lleol ledled Cwm Cynon wedi'u gwella, a hynny trwy ddefnyddio cyllid wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru.

Cafodd cyllid gwerth tua £200,000 ei sicrhau o'r Gronfa Trafnidiaeth Leol yn 2023/24 ar gyfer y rhaglen, gan ganolbwyntio ar wella safleoedd bysiau yn Aberdâr a'i chymunedau cyfagos – gan gynnwys Aberpennar, Cwm-bach, Aber-nant, Trecynon, Llwydcoed, Cwmdâr, Gadlys, Pen-y-waun a Rhigos. Cafodd cyfanswm o 105 o safleoedd bysiau eu gwella, gan gynnwys Gorsaf Fysiau Aberdâr.

Cafodd y rhaglen ei darparu dros dri cham – darparu 25 o gysgodfannau, 93 o arwyddion a 43 o bolion newydd, a gosod cyrbau uchel newydd mewn 19 lleoliad. Cafodd arwyddion 'Dim aros' eu gosod mewn 25 lleoliad a chafodd marciau ffordd eu hadnewyddu mewn 26 lleoliad. Roedd gwaith ychwanegol yn cynnwys paentio tri chysgodfan, cynnal gwaith arall ger naw cysgodfan, ac ychwanegu dau gysgodfan arall at y rhaglen wreiddiol.

Mae'r lluniau'n dangos peth o'r gwaith sydd wedi'i gwblhau mewn tri lleoliad – Stryd Clive, Trecynon (llun ar y chwith), ger Ysgol Gynradd Penderyn (llun uchaf ar y dde) a'r tu allan i'r Maes Chwaraeon ar Ffordd Merthyr, Llwydcoed (llun isaf ar y dde).

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Mae'r gwaith gwella safleoedd bysiau yma yng Nghwm Cynon yn cynrychioli buddsoddiad gwerth tua £217,000 mewn cyfleusterau lleol, gan ddefnyddio cyllid pwysig gan Lywodraeth Cymru ac arian cyfatebol y Cyngor. Cafodd rhyw fath o waith gwella ei gynnal ar dros 100 o safleoedd bysiau yn rhan o'r rhaglen.

“Mae llawer o'r gwaith wedi cynnwys gwella cysgodfannau bysiau neu osod rhai newydd, a hynny er mwyn darparu mannau aros gwell i ddefnyddwyr bysiau. Roedd gwaith arall yn cynnwys canolbwyntio ar fannau safleoedd bysiau i sicrhau eu bod nhw'n parhau i fod yn hygyrch i bawb. Mae'r buddsoddiad yma'n dilyn ein Cynllun Gwella Coridor Bysiau Strategol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roedd y cynllun wedi gwella cyfleusterau aros rhwng Porth, Tonyrefail a Gilfach-goch, ac o Abercynon i Aberaman.

“Bwriad ein buddsoddiad yn y maes yma yw annog rhagor o bobl i ddefnyddio bysiau ar gyfer eu teithiau bob dydd yn lle gyrru, a hynny er mwyn diogelu'r amgylchedd a lleihau tagfeydd. Rydyn ni hefyd wedi cyflwyno cyfnodau lle roedd teithiau bysiau'n rhatach yn ystod y flwyddyn ddiwethaf – gan gynnwys gwyliau hanner tymor mis Chwefror eleni. Byddwn ni'n parhau i edrych am gyfleoedd i wneud hyn eto lle bydd cyllid ar gael.”

Wedi ei bostio ar 29/05/24