Skip to main content

Ail gam y gwaith ar ysgol yn ardal Beddau yn cwblhau buddsoddiad mawr

Bryn Celynnog grid - Copy

Mae'r buddsoddiad mawr yn Ysgol Gyfun Bryn Celynnog nawr wedi'i gwblhau, a hynny ar ôl agor cyfleuster parcio newydd i staff. Mae hyn yn dilyn gwaith i foderneiddio'r ystafelloedd dosbarth a'r cyfleusterau chwaraeon yn ystod y flwyddyn academaidd yma.

Mae disgyblion a staff yn yr ysgol yn ardal Beddau yn mwynhau'r ystafelloedd dosbarth newydd a'r cyfleusterau awyr agored a gafodd eu darparu yn ystod cam cyntaf y prosiect erbyn mis Tachwedd 2023 - wedi'u hariannu gan y Cyngor a Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, yn rhan o fuddsoddiad gwerth £79.6m ar gyfer ardal Pontypridd.

Roedd cam un wedi cynnwys darparu ystafelloedd dosbarth pwrpasol ar gyfer myfyrwyr y chweched dosbarth, a chyfleusterau modern eraill ar gyfer disgyblion pob grŵp oedran. Mae'r rhain yn cynnwys mannau ar gyfer gwersi celf a mathemateg, naw ystafell TGCh, campfa, ystafell ffitrwydd, a stiwdio ddawns. Cafodd ardal casglu a gollwng well ar gyfer bysys ei hadeiladu hefyd.

Mae contractwr y Cyngor, ISG, wedi bod yn gweithio ar gam dau yn y misoedd diwethaf, a chafodd ei gwblhau yn ystod mis Mai 2024.

Cafodd yr hen adeilad mathemateg, a oedd mewn cyflwr gwael ac nad oedd ei angen bellach yn dilyn y buddsoddiad cam un, ei ddymchwel. Mae'r ardal wedi'i defnyddio i greu meysydd parcio ychwanegol i staff ar y safle (llun ar y chwith), ynghyd â gwaith tirlunio cysylltiedig. Mae'r maes parcio hefyd yn cynnwys mannau gwefru cerbydau trydan, lleoedd rhannu car penodol, a lleoedd parcio hygyrch.

Mae'r ysgol yn ardal Beddau wedi dechrau defnyddio'r cyfleusterau yma'n ddiweddar, gan nodi diwedd gwaith sylweddol yn sgil buddsoddiad gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru - gyda dim ond mân waith yn parhau ar draws y datblygiad ehangach.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a'r Gymraeg: "Y buddsoddiad yma ar gyfer Ysgol Gyfun Bryn Celynnog yw'r prosiect cyntaf sydd wedi'i gwblhau yn rhan o'n buddsoddiad ehangach gwerth £79.6m ar gyfer ardal Pontypridd - fydd hefyd yn darparu ysgolion newydd sbon ar gyfer Y Ddraenen-wen, Cilfynydd a Rhydfelen, fydd yn agor mewn pryd ar gyfer y flwyddyn academaidd ym mis Medi.

"Rydyn ni'n parhau i groesawu cymorth ariannol mawr gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cyfleusterau addysg newydd sbon mewn rhagor o gymunedau yn Rhondda Cynon Taf. O dan y Model Buddsoddi Cydfuddiannol, fe wnaethon ni hefyd agor adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref ym mis Ebrill 2024. Bydd prosiectau tebyg yn dilyn, gan gynnwys Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi yn hwyrach yn yr haf eleni ac Ysgol Gynradd Pont-y-clun yn 2025. Bydd Ysgol Gynradd Llyn y Forwyn yn ardal Glynrhedynog hefyd yn derbyn ysgol newydd sbon.

"Es i i ymweld â staff a disgyblion Ysgol Gyfun Bryn Celynnog ar ôl i’w hystafelloedd dosbarth a’u cyfleusterau chwaraeon newydd gael eu hagor ym mis Tachwedd 2023 – ac roedd yn wych clywed gan y bobl ifainc a oedd yn mwynhau treulio amser yn eu hamgylchedd dysgu newydd ac yn siarad yn gyffrous am eu hysgol. Mae'r buddsoddiad hefyd wedi cynyddu nifer o leoedd yr ysgol, tra bydd yr adeiladau newydd yn gweithredu ar sail Carbon Sero Net.

"Rwy'n falch bod ail gam y prosiect wedi'i gwblhau, gyda'r ysgol nawr yn gallu defnyddio'r cyfleusterau parcio newydd i staff. Gyda’r rhan fwyaf o waith y ddau gam wedi'i gwblhau, mae buddsoddiad y Cyngor a Llywodraeth Cymru wedi cael ei ddarparu er lles sawl cenhedlaeth o ddisgyblion sydd i ddod."

Wedi ei bostio ar 30/05/24