Skip to main content

Ymchwiliadau pellach i Lwybr Cynon ym Mhen-y-waun

Cynon Trail closure at Penywaun - Copy

Neges i hysbysu trigolion y bydd Llwybr Cynon, Penywaun, ar gau am dri diwrnod, er mwyn cynnal tyllau prawf a fydd yn llywio cynllun adfer tirlithriad yn y dyfodol.

Bydd y llwybr cyffredin yn cau o ddydd Mawrth 28 Mai am oddeutu tri diwrnod - i alluogi gwaith ymchwilio tu cefn i Erw Las, lle'r oedd tirlithriad bach yn y gorffennol.

Bydd angen cau Llwybr Cynon i sicrhau diogelwch – o gyswllt Erw Las i bwynt ym mhen gorllewinol Fferm Gamlyn Isaf (lle mae ffens ac arwydd cau eisoes wedi'u gosod).

Bydd modd dilyn llwybr arall i gerddwyr gyferbyn â'r bont droed ar lan yr afon sy'n cysylltu Llwybr Cynon â Lôn Las. Mae'r llwybr yma'n arwain at stad breswyl sydd wedyn yn cyfeirio cerddwyr/beicwyr yn ôl i Lwybr Cynon trwy gyswllt Erw Las.

Dylai beicwyr ddod oddi ar y beic a defnyddio'r llwybr dargyfeirio i gerddwyr.

Mae'r gwaith ymchwilio yma'n cael ei gyflawni gan ddefnyddio cyllid a sicrhawyd gan y Cyngor o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru. Cafodd y cam cyntaf o dyllau prawf ei gwblhau'n llwyddiannus ym mis Mawrth 2024.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned leol am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 22/05/2024