Skip to main content

Newyddion

Cyfnod ymgynghori wedi dechrau mewn perthynas â dau gynnig ar gyfer gwasanaethau allweddol

Mae bellach modd i drigolion ddweud eu dweud ar gynigion ar wahân sy'n ymwneud â Gofal Plant Oriau Dydd Cyn-ysgol a Chludiant o'r Cartref i'r Ysgol. Mae'r cynigion yma'n cael eu hystyried o ganlyniad i'r pwysau ariannol sydd ar y Cyngor

28 Tachwedd 2023

Sesiwn Nofio Gŵyl San Steffan a Nofio Dydd Calan: Lido Ponty

Ar ôl blwyddyn o sesiynau nofio ben bore ym mhob tywydd, hwyl gyda'r teulu yn yr haf a'n sesiynau nofio mewn dŵr oer yn dychwelyd, mae Lido Ponty yn dod â thymor 2023 i ben gyda Sesiwn Nofio Gŵyl San Steffan.

27 Tachwedd 2023

Cynlluniau wedi'u nodi ar gyfer buddsoddiad ychwanegol yn y gwasanaeth priffyrdd

Mae'r Cabinet wedi cytuno ar fanylion rhaglen atodol ar gyfer priffyrdd, strwythurau a chynlluniau lliniaru llifogydd – i'w chynnal yn ystod gweddill 2023/24 gan ddefnyddio cyllid a ddyrannwyd i'r gwasanaeth yn ddiweddar

23 Tachwedd 2023

Cau lôn yn Stryd y Taf uchaf ddydd Sul ar gyfer gwaith ar adeilad Llys Cadwyn

Bydd craen yn cael ei osod ar Stryd y Taf uchaf yn ardal #Pontypridd ddydd Sul, y tu allan i ddatblygiad Llys Cadwyn, ar gyfer gwaith wedi'i amserlennu i do 2 Llys Cadwyn

22 Tachwedd 2023

Gwaith terfynol i osod wyneb newydd ar gyfer y groesfan newydd i gerddwyr yn Llanharan

Bydd ffordd ar gau ddydd Sul yma yn Llanharan ar gyfer gwaith gosod wyneb newydd yn ymwneud â'r groesfan newydd i gerddwyr sy'n cael ei gosod ger y siop gymunedol. Dyma fydd yr elfen olaf o'r gwaith sy'n gysylltiedig â'r cynllun

22 Tachwedd 2023

Cynllun atgyweirio pont sylweddol yn ardal Porth ar fin cael ei gwblhau

Mae cynllun atgyweirio ac adnewyddu Pont Imperial yn ardal Porth bellach yn ei gamau olaf a disgwylir iddo gael ei gwblhau'r wythnos yma – gan fanteisio ar y tywydd teg a ragwelir, i gwblhau'r gwaith terfynol i wyneb y ffordd

21 Tachwedd 2023

Partneriaeth Bwyd Rhondda Cynon Taf yn ennill Gwobr Efydd Genedlaethol Lleoedd Bwyd Cynaliadwy

Mae'n bleser gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gyhoeddi bod Partneriaeth Bwyd RhCT wedi ennill Gwobr Efydd genedlaethol fawreddog Lleoedd Bwyd Cynaliadwy.

21 Tachwedd 2023

Pwyllgor i rag-graffu ar y newidiadau arfaethedig i'r gwasanaethau oriau dydd sy'n cael eu cynnig

Bydd y Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned yn edrych ar gynigion sy'n ymwneud â'r gwasanaethau oriau dydd presennol sy'n cael eu cynnig i bobl hŷn yn Nhrecynon a Thonyrefail – cyn i Aelodau'r Cabinet drafod y mater yn ffurfiol fis nesaf

20 Tachwedd 2023

Pob cam o waith atgyweirio Pont Droed Parc Gelligaled bellach wedi'i gwblhau

Mae'r cynllun wedi diogelu'r strwythur ar gyfer y dyfodol, a hynny er mwyn sicrhau bod modd defnyddio'r cyswllt lleol pwysig yma rhwng Coedlan Pontrhondda a Pharc Gelligaled

20 Tachwedd 2023

Gwaith gyda'r nos i wella wyneb y ffordd yng nghanol tref Aberdâr

Bydd Stryd Caerdydd ar gau rhwng ei chyffyrdd â Stryd y Masnachwr a Sgwâr Fictoria. Bydd y ffordd ar gau rhwng 7pm a hanner nos am bedair noson – o nos Lun 20 Tachwedd i nos Iau 23 Tachwedd

17 Tachwedd 2023

Chwilio Newyddion