Skip to main content

Newyddion

Pob cam o waith atgyweirio Pont Droed Parc Gelligaled bellach wedi'i gwblhau

Mae'r cynllun wedi diogelu'r strwythur ar gyfer y dyfodol, a hynny er mwyn sicrhau bod modd defnyddio'r cyswllt lleol pwysig yma rhwng Coedlan Pontrhondda a Pharc Gelligaled

20 Tachwedd 2023

Gwaith gyda'r nos i wella wyneb y ffordd yng nghanol tref Aberdâr

Bydd Stryd Caerdydd ar gau rhwng ei chyffyrdd â Stryd y Masnachwr a Sgwâr Fictoria. Bydd y ffordd ar gau rhwng 7pm a hanner nos am bedair noson – o nos Lun 20 Tachwedd i nos Iau 23 Tachwedd

17 Tachwedd 2023

DAL DAU BERCHENNOG CŴN ANGHYFRIFOL

Mae DAU berchennog cŵn anghyfrifol wedi mynd 'am dro' i'r llys, gan adael yno gyda dirwyon a chostau o bron i £1,000!

16 Tachwedd 2023

Mae modd 'Gofyn am Angela' yn nhafarndai RhCT!

Wrth i dymor y Nadolig ddechrau ac wrth i ni ddechrau mynd allan i bartïon Nadolig a chymdeithasu mwy ar ôl iddi dywyllu, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn atgoffa menywod bod gyda ni i gyd ffrind yn Angela.

16 Tachwedd 2023

Pencampwr BOCSIO yn ymuno â'r FRWYDR yn erbyn GWASTRAFF!

Mae pawb yn barod i wynebu'r frwydr yn erbyn gwastraff bwyd ledled Rhondda Cynon Taf!

16 Tachwedd 2023

Cynllun sylweddol i atgyweirio wal yr afon yn Nhonypandy wedi'i gwblhau

Mae'r Cyngor wedi cwblhau cynllun atgyweirio sylweddol ar wal afon sy'n cynnal yr arglawdd oddi ar yr A4058, ger Cylchfan Heol Tylacelyn, Tonypandy

16 Tachwedd 2023

Angen cau ffyrdd yng nghanol tref Pontypridd ar ddau ddydd Sul

Bydd y contractwr, Prichard's, yn gosod cyswllt draenio ar draws y ffordd, yn rhan o'r gwaith paratoi parhaus ar safle'r hen neuadd bingo, cyn y gwaith ailddatblygu

16 Tachwedd 2023

Sefydlu, tyfu neu amrywio eich busnes gydag ystod o grantiau sydd ar gael drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU

Mae modd i fusnesau cymwys yn Rhondda Cynon Taf fanteisio ar ystod o grantiau o raglenni buddsoddi ariannol a gefnogir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

15 Tachwedd 2023

Disgyblion ysgol Glynrhedynog yn cwrdd â'r garfan sy'n adeiladu eu hysgol newydd

Mae cynnydd da wedi'i wneud yn y cyfnod cynnar o adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn yng Nglynrhedynog – ac yn ddiweddar cafodd grŵp o ddisgyblion a staff eu gwahodd i'r safle newydd i gael golwg agosach

15 Tachwedd 2023

Cau'r A4119 yn Nhonyrefail dros nos er mwyn gosod pont newydd

Mae gwaith i ailosod pont Tyn-y-bryn wedi mynd rhagddo'n llwyddiannus, a bydd y bont newydd yn cael ei chodi a'i gosod nos Wener, yn amodol ar y tywydd. Bydd rhaid cau'r A4119 rhwng cylchfannau Tretomos a Thonyrefail dros nos er mwyn...

15 Tachwedd 2023

Chwilio Newyddion