Skip to main content

Teithiau bws am brisiau gostyngol am gael eu hail-gyflwyno yn ystod gwyliau'r hanner tymor

£1 bus fare CYM

Bydd teithiau bws am brisiau gostyngol yn cael eu hail-gyflwyno am y trydydd tro yn 2023/24 dros gyfnod gwyliau'r hanner tymor yr wythnos nesaf (12-18 Chwefror). Pris tocyn un ffordd ar gyfer pob taith sy'n cychwyn neu'n dod i ben yn Rhondda Cynon Taf fydd £1.

Mae'r Cyngor yn falch o gyhoeddi'r mesur yma er mwyn helpu i leihau rhwystrau economaidd sydd efallai'n rhwystro pobl rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Cafodd cyfnodau tebyg o deithiau bws am brisiau gostyngol eu cyflwyno dros chwe wythnos gwyliau'r haf, a dros fis Rhagfyr cyfan yn 2023. Cafodd y cynllun ei ddarparu diolch i gyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU gafodd ei sicrhau gan y Cyngor. Cafodd cyfnod o deithiau bws am ddim ei gyflwyno yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf ym mis Mawrth 2023.

Mae cyhoeddiad heddiw wedi cadarnhau bydd Cynllun Uchafswm o £1 am Docyn Bws Un Ffordd yn cael ei ail-gyflwyno ledled Rhondda Cynon Taf yr wythnos nesaf – o ddydd Llun, 12 Chwefror tan ddydd Sul, 18 Chwefror 2024.

Bydd y cynnig yr un fath â'r hyn a roddwyd ar waith yn flaenorol, gan gwmpasu'r holl wasanaethau bws sydd wedi'u trefnu, sy'n dechrau ac yn gorffen o fewn ffiniau'r Fwrdeistref Sirol. Bydd y Cynllun Uchafswm o £1 am Docyn Bws Un Ffordd yn berthnasol ni waeth pwy yw’r gweithredwr bws a heb unrhyw gyfyngiadau amser – felly bydd ar gael o’r gwasanaeth cyntaf i’r olaf bob dydd. Mae'n ofynnol i ddeiliaid cerdyn teithio rhatach sganio eu cerdyn yn ôl yr arfer.

Ni fydd pob taith sy'n cychwyn neu'n gorffen y tu allan i Rondda Cynon Taf yn cael ei chynnwys yn y cynnig yma, a bydd defnyddwyr bysiau yn gorfod talu'r ffi lawn arferol.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Mae cyfnodau blaenorol o deithiau bws rhatach wedi bod yn boblogaidd iawn gyda defnyddwyr bws, gyda chwmnïau bysiau lleol yn nodi bod niferoedd cynyddol o gwsmeriaid yn defnyddio'r bysiau. O ganlyniad, rwy'n falch o gyhoeddi bydd y Cynllun Uchafswm o £1 am Docyn Bws Un Ffordd yn cael ei ail-gyflwyno o'r wythnos nesaf dros gyfnod gwyliau'r hanner tymor, rhwng 12 ac 18 Chwefror.

"Mae gyda theithiau bws am bris gostyngol lawer o fuddion, gan gynnwys mynd i'r afael â rhwystrau economaidd sy'n atal pobl rhag mynd ar y bws - yn enwedig yn ystod cyfnod lle mae costau byw yn parhau yn uchel iawn. Mae'r cynllun hefyd yn ceisio annog rhagor o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer eu teithiau bob dydd yn hytrach na gyrru, fydd yn lleihau traffig ar ein ffyrdd yn ogystal ag amddiffyn yr amgylchedd.

"Mae cynnig yr wythnos nesaf yn cynrychioli'r pedwerydd achlysur lle mae'r Cyngor wedi dyrannu cyllid sydd wedi'i sicrhau gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU er mwyn lleihau prisiau tocynnau bws ar gyfer trigolion lleol. Mae'r Cyngor wedi sicrhau £1.1 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol, ac £1.2 miliwn bellach ar gyfer 2024/25, fydd yn ein galluogi i barhau i nodi cyfleoedd i gyflwyno mesurau tebyg yn y dyfodol."

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gan Lywodraeth y DU, wedi'i dyrannu i Awdurdodau Lleol i helpu i gyflwyno mentrau a fydd yn lleihau costau byw i drigolion. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy fesurau sy'n gwella effeithlonrwydd ynni, ac yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd a newid yn yr hinsawdd.

Wedi ei bostio ar 09/02/24