Skip to main content

Cyhoeddi Gweithiwr Dan Hyfforddiant y Flwyddyn yn RhCT

Mae menyw ifanc sy'n gweithio mewn maes lle mae nifer fawr o ddynion yn gweithio yn dangos yr hyn y mae modd i ferched ei wneud wrth iddi ennill gwobr yn Achlysur Dathlu Materion Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Enillodd Catherine Kesson wobr 'Gweithiwr Dan Hyfforddiant y Flwyddyn' yn y gwobrau mawreddog sydd â'r nod o gydnabod a gwobrwyo'r dalent anhygoel sy’n rhan o gynllun prentisiaethau, rhaglen i raddedigion a rhaglen Camu i'r Cyfeiriad Cywir y Cyngor sydd wedi ennill gwobrau.

Mae carfan Materion Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant y Cyngor yn recriwtio graddedigion, prentisiaid a phobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal bob blwyddyn ac mae'r rhan fwyaf o'r unigolion yma'n dod yn weithwyr llawn amser, parhaol yn dilyn cwblhau'u rhaglen.

Mae Catherine, sy'n 21 oed ac sy'n dod o ardal Maerdy, yn rhan o raglen Camu i'r Cyfeiriad Cywir. Dyma raglen swyddi dan hyfforddiant hyblyg a chefnogol i bobl ifainc sydd â phrofiad o dderbyn gofal rhwng 16 a 25 oed sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf.

Dechreuodd Catherine y rhaglen ym mis Mawrth 2023 ac roedd ganddi ofynion penodol iawn pan oedd yn chwilio am y swydd berffaith! Roedd Catherine eisiau bod allan yn y gymuned yn cwrdd â phobl bob dydd, nid mewn swyddfa. Pan ofynnwyd iddi am leoliad ym maes rheoli gwastraff, roedd hi'n edrych ymlaen at wynebu'r her ac mae hi wedi bod wrth ei bodd ers hynny.

Mae Catherine bellach yn gweithio gyda charfan Ailgylchu a Gwastraff Dinas ac mae hi wedi dangos dewrder, cryfder ac ysbryd cymunedol gwych. Mae pawb yn y garfan yn hoff iawn ohoni ac mae hi'n gweithio'n galed bob dydd. Ar gyfartaledd mae Catherine yn cerdded tua 40,000 o gamau bob dydd, sy'n gyfwerth â 16 milltir, i gasglu deunydd ailgylchu ledled y Fwrdeistref Sirol.

Yn rhan o'r rhaglen swyddi dan hyfforddiant 2 flynedd, mae Catherine yn gweithio tuag at ei Chymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) Lefel 2 mewn Rheoli Gwastraff. Byddai diwrnod arferol Catherine yn dechrau am 7am lle byddai hi'n gwirio ffolder gwaith papur a llwybrau'r diwrnod, a allai gynnwys casgliadau cewynnau neu ddeunydd ailgylchu. Wedyn, byddai hi'n ymuno â gweddill y garfan i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i gyflawni'r swydd.

Meddai Catherine: “Roeddwn i'n falch iawn o ymgymryd â’r rôl yma ac mae'n llawer o hwyl. Mae wedi fy helpu i gyfuno fy angerdd am yr amgylchedd a fy angerdd am ffitrwydd. Mae'r garfan yn wych ac mae pob diwrnod yn wahanol. Efallai bod llawer o ferched yn credu nad ydy'r swydd yma'n addas iddyn nhw, ond dewiswch herio'ch hunan a pheidiwch â'i diystyru. Mae'n waith caled, ond rydw i wrth fy modd ac yn gobeithio y byddaf i'n cyflawni'r rôl am amser hir yn y dyfodol.”

“Mae'r rôl wedi fy helpu i mewn sawl ffordd, o wella fy hyder i wella fy sgiliau rheoli amser. Mae Rhaglen Camu i'r Cyfeiriad Cywir wedi newid fy mywyd ac mae cefnogaeth y garfan a gwasanaeth Gofal y Strydoedd wedi bod yn wych. Mae'r dynion yn y depo wedi bod yn wych ac maen nhw wedi rhoi croeso cynnes i fi ac wedi fy helpu i ddysgu swyddogaethau'r rôl. Pan ges i wybod fy mod i wedi cael fy enwebu ac wedi ennill y wobr, allwn i ddim credu'r peth. Roeddwn i'n teimlo'n wych yn barod gyda'r cyfle i gwblhau'r rhaglen swyddi dan hyfforddiant. Byddwn i'n argymell y rhaglen i unrhyw un gan ei bod hi wir yn eich helpu chi i gamu i'r cyfeiriad cywir.”

Cafodd Achlysur Dathlu Carfanau Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant ei gynnal ym mis Rhagfyr 2023. Bwriad yr achlysur oedd cydnabod cyflawniadau a gwaith caled ein gweithwyr dan hyfforddiant, prentisiaid a graddedigion, yn ogystal â'u hymrwymiad i weithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf.

Meddai'r Cynghorydd Christina Leyshon, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol:

“Roeddwn i wrth fy modd i fod yn rhan o'r achlysur dathlu eleni a gweld gweithlu talentog y dyfodol. Roedd yn bleser gweld Catherine yn derbyn gwobr Gweithiwr Dan Hyfforddiant y Flwyddyn ac mae hi'n haeddu'r gydnabyddiaeth. Rydw i'n gobeithio ei gweld hi'n gweithio yn y gwasanaeth am nifer o flynyddoedd. Mae'r rhaglen rydyn ni'n ei chynnig yn Rhondda Cynon Taf yn wych, gyda 70% o'r unigolion sy'n cael eu recriwtio yn derbyn swyddi parhaol yn y Cyngor. Da iawn a llongyfarchiadau i bawb a gafodd gydnabyddiaeth yn rhan o'r achlysur.”

Mae modd gweld rhagor o wybodaeth am gyfleoedd Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant y Cyngor ar-lein, yma: www.rctcbc.gov.uk/CyflogaethAddysgaHyfforddian

Wedi ei bostio ar 08/02/24