Skip to main content

Uwchraddio draeniau yn y Porth i wella'u gallu i wrthsefyll llifogydd

Porth drainage scheme - Copy

Dyma'ch rhybuddio y bydd gwaith uwchraddio draeniau yn mynd rhagddo mewn sawl lleoliad yn ardal Porth dros y bythefnos nesaf.

Bydd y cynllun i wella'r isadeiledd lleol yn dechrau ddydd Sul, 11 Chwefror. Ariennir hyn gan gyllid Grant Gwaith Graddfa Fach Llywodraeth Cymru.

Bydd y gwaith yn cynnwys ail-leinio rhan o bibell sy'n rhedeg o dan y llwybr troed â grisiau sy'n arwain at Heol Ynys-hir. Bydd angen cau un lôn ar Heol Ynys-hir, a chaiff hyn ei reoli gan ddefnyddio goleuadau traffig dwy ffordd.

Bydd twll archwilio yn y briffordd yn cael ei amnewid ym Maes Gynor a Heol Graig - sy'n golygu bod angen cau rhan fechan o'r briffordd rhwng y ddwy ffordd. Bydd pob llwybr troed yn dal i fod ar agor, a bydd modd cael mynediad i bob eiddo.

Yn ogystal â hynny, bydd twll archwilio claddedig yn cael ei godi yn Stryd y De - a bydd gwaith i lanhau rhan o'r cwrs dŵr. Bydd dwy ran o'r ffordd gerbydau yn cael ei neilltuo i alluogi'r gwaith, ond fydd hyn ddim yn effeithio ar lif y traffig yn y lleoliad.

Bydd carfan Gofal y Strydoedd Rhondda Cynon Taf yn gyfrifol am gyflawni'r gwaith ar y safle. Bydd arwyddion yn cael eu gosod ymlaen llaw i roi gwybod i'r gymuned leol am y gwaith.

Diolch ymlaen llaw i breswylwyr am eu cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 09/02/24