Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Mae Taith Prydain yn dod i Rondda Cynon Taf

 

Posted: 31/08/2023

Mae Taith Prydain yn dod i Rondda Cynon Taf

Mae ein ffyrdd mynyddig, wedi’u hamgylchynu gan olygfeydd syfrdanol, ac mae tirwedd ddramatig yn ei gwneud yn amgylchedd antur perffaith i feicwyr.

Wrth i Daith Prydain ddychwelyd i Rondda Cynon Taf a chroesawu rhai o feicwyr gorau'r byd i Fynydd y Bwlch a Mynydd Rhigos a thrwy Goedwig hynafol Llanwynno, dyma pam rydyn ni'n lle gwych i feicwyr.

Mynyddoedd

Bike Rhigos

Mae gyda ni rai o'r ffyrdd mynyddig mwyaf heriol – mae yna reswm pam defnyddiodd Geraint Thomas, y seren beicio, Fynydd Rhigos fel maes ymarfer ar gyfer y Tour De France! Mae’r daith bron yn 3.5 milltir o hyd a bydd yn mynd â chi 1,000 troedfedd i’r copa, heibio'r safle Darganfod Awyr Dywyll (perffaith ar gyfer syllu ar y sêr ar ôl diwrnod hir o feicio) gyda golygfeydd ar draws y Bannau Brycheiniog.

Mae bachdroeon y mynyddoedd yn mynd heibio'r Zip World Tower, yr unig atyniad o'r fath yn ne a chanolbarth Cymru. Mae'n gartref i'r Phoenix, y wifren wib â sedd gyflymaf yn y byd, Tower Coaster (fyddwch chi ddim yn dod o hyd i un tebyg iddi yn Ewrop), y Tower Climber enfawr, gwifrau gwib i blant, bwyty Cegin Glo, treftadaeth pyllau glo a mwy.

Mae profiad tebyg yn disgwyl amdanoch chi ym Mynydd y Bwlch. Er nad yw mor hir ac mor uchel â Mynydd Rhigos, mae gan y mynydd olygfeydd godidog ac mae cyfle i gwrdd â’r defaid lleol a chael hufen iâ neu goffi ar y copa.

Mae Mynydd y Bwlch hefyd yn cael ei adnabod fel “Mont Ventaux Prydain”, yn dilyn ymdrechion beicwyr elît i ddod o hyd i fersiwn DU o’r “Giant of Provence” sy’n cynnig yr her o allu cael ei ddringo o dair ffordd wahanol.

Teuluoedd

DVCP14

Rydyn ni'n gartref i Barc Gwledig Cwm Dâr a Disgyrchiant, Parc Beiciau ar gyfer Teuluoedd cyntaf y DU.

Mae gwasanaeth codi a llogi beiciau/offer os oes ei angen arnoch chi a llwybrau ochr mynydd o lefelau amrywiol. Mae hyd yn oed trac pwmp a chwrs beic cydbwysedd lliwgar i blant bach.

Mae Caffi Cwtsh yn cynnig ystod o fwydydd gwahanol ac mae dau gaban coffi a byrbrydau yn y parc gwledig.

Mae maes chwarae antur a maes chwarae llai i blant bach, yn ogystal â llwybrau cerdded, llynnoedd, pysgota brithyll a llawer yn rhagor.

Mae modd i chi ddod â'ch carafán, fan wersylla neu gartref modur i aros dros nos, neu aros yn y llety ar y safle. Mae'r parc wedi'i enwi'n safle Awyr Dywyll Cymru – felly mae'n berffaith ar gyfer gweld planedau, cytserau a mwy.

Mae Parc Gwledig Barry Sidings yn enfawr ac mae parcio am ddim yno. Mae llawer o le a thraciau yno i chi feicio a mynd ar eich sgwter. Ewch ar y trac pwmpio neu, ar gyfer beicwyr hŷn/mwy profiadol, mae trac BMX.

Mae’r parc yn gartref i Gaffi Barry Sidings, sydd wedi ennill gwobrau, sy’n gweini byrgyrs anhygoel, sglodion wedi’u llwytho, hufen iâ, ysgytlaeth a llawer yn rhagor.

Mae Parc Gwledig Cwm Clydach/Caffi Lakeside yn gaffi/bwyty trwyddedig gydag ystod o fwydydd a diodydd blasus ble mae modd i chi ymlacio dan do neu ar y teras sy’n edrych dros y llyn cyn neu ar ôl mynd am dro hamddenol.

Mae llwybrau beicio/cerdded rhwng y llynnoedd gwaelod a’r llyn uchaf gyda safle Cofeb y Cambrian rhwng y ddau. I'r beiciwr mwy profiadol, mae hyd yn oed traciau sy'n mynd i fyny dros y mynydd i ymuno â chopa mynydd y Bwlch.

Mae modd llogi beiciau anabl ochr yn ochr i'w defnyddio ar y traciau o gwmpas y llyn, sydd wedi'u lledu'n arbennig ar gyfer y beiciau yma.

 

Wedi'i gysylltu'n dda

River Taff - Trees - Cows - Walkers - Cyclist-13

Mae'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn croesi Rhondda Cynon Taf ac mae Taith Taf yn rhedeg yn syth drwy'r fwrdeistref sirol ac yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd beicio.

Rydyn ni hefyd yn gartref i lwybrau Mawreddog Morgannwg, gan gynnwys y Gefnffordd heriol, Brynna i Daf-elái, lle byddwch chi'n dechrau mewn coetir cysgodol sy’n agor allan i dirweddau gwyrdd a Mynydd Coedbychan, dros y copa i adfeilion hynafol Eglwys Sant Pedr, sydd wedi bod yn gysylltiedig ers tro â'r Brenin Arthur.

 

Hanes a Chwedlau

ynysangharadWarMemorial3jpg

Mae llawer o'n llwybrau beicio yn eich tywys chi drwy hanes Cymru. Mae Llwybr Taith Taf yn rhedeg o Gaerdydd i Aberhonddu ac yn mynd trwy Barc Coffa Ynysangharad, y man lle cafodd yr Anthem Genedlaethol enwog ei hysgrifennu a'i chyfansoddi.

Mae'r parc yn gartref i Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, adferiad syfrdanol o lido Art Deco a agorodd am y tro cyntaf ym 1927.

Mae bellach yn atyniad i bawb, gyda thri phwll awyr agored wedi’u gwresogi, cwrs rhwystrau â theganau gwynt ac achlysuron tymhorol megis nofio dŵr oer, Nofio Gŵyl San Steffan a Nofio Dydd Calan. Dyma lle bu Syr Tom Jones yn nofio ar un adeg.

Defnyddiwch Lwybr Taith Taf i fynd i'r gogledd allan o Bontypridd, heibio i safle hen lofa Lady Windsor, un o gannoedd o byllau glo yr oedden ni'n arfer eu defnyddio i bweru'r byd. Rydyn ni'n hynod o falch o'n gorffennol glofaol a diwydiannol ac mae modd i chi ddarganfod rhagor yn Nhaith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda yn Nhrehafod, Cwm Rhondda.

Crwydrwch Goedwig Llanwynno gyda'i draciau heriol a serth. Darganfyddwch y rhaeadr a'r gronfa ddŵr. Gwrandewch ar chwedl Guto Nyth Brân, a gafodd ei gladdu yn Eglwys Sant Gwynno yn y chweched ganrif, a oedd unwaith y dyn cyflymaf yn y byd ac a ysbrydolodd Rasys Nos Galan.

Mae'r rasys yn cael eu cynnal yn Aberpennar bob Nos Galan, gan ddenu rhedwyr o bob rhan o'r DU.

 

Llety

st albans bike

Mae gyda ni ystod o opsiynau llety gyda digon o le, ac yn bwysicach fyth, cyfleusterau storio a golchi beiciau. Yn ogystal â hyn, maen nhw'n agos at lefydd gwych i fwyta fel bod modd i chi ymlacio a llenwi'ch boliau ar ôl diwrnod llawn a phrysur.

Mae Eglwys Sant Alban yn Nhreherbert yn wych ar gyfer grwpiau mwy ac mae â chyfleuster storio beiciau. Mae hefyd yn agos at Stryd Fawr Treorci, sydd wedi ennill gwobrau megis y wobr ‘Stryd Fawr Orau’ yn y DU’, sydd ag amrywiaeth o leoedd i fwyta ac yfed, gan gynnwys ei barlwr hufen iâ a micro-fragdy ei hun.

Os yw'n well gyda chi rywbeth ychydig yn fwy diarffordd, yna mae Tŷ Ffarm a Hafod Ganol, ar gyrion Pontypridd, yn cynnig llawer o le i chi a'ch beic, yn ogystal â golygfeydd godidog a chyfle i ymlacio.