Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Zip World Tower

 
Zip World Tower, Treherbert Road, Hirwaun, CF44 9UF
Telephone-Icon 01685 706666

Mae Zip World Tower yn agor yn Rhondda Cynon Taf eleni, gan gynnig un o'r profiadau antur gorau yng Nghymru.

Wedi'i adeiladu ar hen safle eiconig Glofa'r Tŵr, mae Zip World Tower yn gwneud yn fawr o dirweddau trawiadol Cwm Rhondda a Chwm Cynon.

Os ydych chi'n chwilio am wefr, dyma gyfle i wibio cannoedd o fetrau yn yr awyr dros fannau agored syfrdanol, gan ddechrau o ben Mynydd Rhigos ar 'Phoenix', gwifren wib gyflymaf y byd ar eich eistedd.

Ewch ar daith ffigar-êt Tower Coaster wrth iddo droi a throelli i lawr y bryn – ddewch chi ddim o hyd i un arall tebyg iddo yn Ewrop felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ymweld yn fuan.

Bydd plant sy'n dwlu ar antur wrth eu boddau â'r 'Tower Flyer', profiad llinell wibio gyda thri pharth. Ar y 'Tower Flyer', mae modd gwibio ochr yn ochr â rhywun arall!

Yn ogystal â dau brofiad anhygoel, gwefreiddiol, mae gan Zip World Tower gaffi Cegin Glo hefyd. Mae'n cynnig golygfeydd anhygoel o'r ardal o'i amgylch ac o'r haul yn machlud. Bydd y caffi'n gwerthu rhai o fwydydd a diodydd gorau'r ardal leol.

Bydd pwysigrwydd diwydiannol y safle hefyd yn cael ei ddathlu. Glofa'r Tŵr oedd y pwll glo brig olaf i gau yng Nghymru. Mae brwydrau'r dynion a weithiodd yno a’u hymdrechion i gadw’r pwll ar agor bellach yn destun sioe gerdd hyd yn oed.

Bydd pethau cofiadwy yn ymwneud â mwyngloddio ac arteffactau hanesyddol eraill i'w gweld drwyddi draw.

 

 

Map goes here