Posted: 26/03/2021
Great places to stay in Rhondda Cynon Taf
Ymlaciwch gyda'ch teulu yn Rhondda Cynon Taf, De Cymru - lle dramatig ac unigryw.
Mae gyda ni lawer o fannau diogel a hunangynhwysol lle gallwch chi fwynhau'r awyr agored. [HS1]
Cewch eich ysbrydoli gan rai o'r lleoedd gorau - a mwyaf hynod - i aros yma yn 2021.*
Gofyn am e-lyfryn
https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Tourism/Forms/RequestaTourismBrochure.aspx
Y Sied ym Mhontypridd
Mae'r adeilad yma wedi'i addasu gan greu cartref bach clud, safle cychwyn llawer antur fawr.

Mae'n fach, ond wedi'i ffurfio'n berffaith, mae ganddo'r cyfan sydd ei angen arnoch chi i aros yn gyffyrddus, gan gynnwys cegin, man eistedd, rhyngrwyd di-wifr ac ystafell wely mesanîn.

Wedi'i leoli mewn tir agored syfrdanol, y cymdogion agosaf yw'r defaid - sy'n crwydro at y Sied i frefu “Bore Da”!
Mae'r Sied wedi'i amgylchynu gan erwau o dir fferm, uwchben Pontypridd hanesyddol, cartref Anthem Genedlaethol Cymru. Gallwch weld y deyrnged i'r cyfansoddwyr Evan a James James ym Mharc Coffa Ynysangharad. Mae yna deithiau cerdded cyffrous dros gomin Pontypridd a Llwybr Taith Taf. Mae llawer o fwytai yn y dref wedi addasu i'r sefyllfa Covid drwy gynnig gwasanaeth cludfwyd diogel, felly bydd gyda chi ddigon o ddewis.

Bethel Nook, Hirwaun.
Mae'r fflat hunangynhwysol yma'n rhan o Gapel y Bedyddwyr sydd wedi'i adfer sy'n eistedd wrth odre Bannau Brycheiniog. Mae'n lety twt a modern gyda chegin, bar brecwast, ystafell ymolchi, gwely soffa ddwbl yn y lolfa ac ardal gysgu mesanîn. Mae gan westeion hefyd fynediad i'r cowrt.

Mae'r lleodd agored o gwmpas yr un mor brydferth â thu mewn yr eiddo yma. Hirwaun yw un o'r pentrefi mwyaf gogleddol yn Rhondda Cynon Taf ac mae'n eistedd ar gyrion Bannau Brycheiniog, felly mae'r dirwedd yn syfrdanol.

Mae llawer o lwybrau cerdded a beicio yn y mannau agored cyfagos ac mae Parc Gwledig Cwm Dâr a Pharc Aberdâr gerllaw yn berffaith ar gyfer crwydro.

Blaencwm Cottage, Cwm Rhondda
Mae Blaen-cwm ar ben Cwm Rhondda, yn swatio ymhlith mynyddoedd a siapiwyd gan flynyddoedd o gloddio glo.

Mae'n eistedd yng nghysgod Pen-pych godidog, un o ddau fynydd pen bwrdd yn Ewrop.

Gallwch gerdded i fyny'r mynydd, heibio rhaeadrau mawreddog i gael golygfa syfrdanol o'r copa.

Ar un adeg roedd glöwr a'i deulu yn byw yn Blaencwm Cottage. Gallwch weld rhesi hir o dai teras ledled y Rhondda. Mae'n addas i gŵn, mae ganddo lwyth o le ac mae'n cael ei weithredu gan 'superhost' Air BnB!

Mae gan bron bob ystafell olygfa o'r mynyddoedd a'r rhaeadrau y mae modd i chi eu crwydro, gan gynnwys Pen-pych, Bwlch a mynyddoedd Clydach.

Rydych chi o fewn pellter cerdded o Stryd Fawr annibynnol orau'r DU, Treorci, lle mae'r busnesau wedi addasu i gynnig bwyd a diod gwych fel cludfwyd neu wedi'u dosbarthu.

Tŷ Ffarm yng Ngellilwch
Mae'r ffermdy enfawr yma o'r 16eg ganrif yn cynnig llety i hyd at 12 o bobl ac mae wedi'i leoli ar y bryniau o amgylch Pontypridd hanesyddol.

Mae ganddo bopeth sydd ei angen arnoch chi i gael seibiant diogel, hamddenol i ffwrdd o bopeth, gan gynnwys llwyth o le y tu allan i'r plant redeg yn wyllt ynddo, lleoedd i fwyta dan do ac yn yr awyr agored a chyffyrddiadau moethus.

Bird’s Farm a Hetty the Horsebox yn Hirwaun.
Dewiswch o ffermdy hunanarlwyo enfawr ar gyfer eich arhosiad neu, ar gyfer cyplau a theuluoedd llai, mae Hetty the Horsebox yn cynnig antur wych.

Rydych chi yng nghanol Cwm Cynon ac wrth odre Bannau Brycheiniog yn y llety yma, felly peidiwch ag anghofio'ch esgidiau cerdded, beiciau a chamerâu. Mae croeso i gŵn hefyd!
* Mae cyfyngiadau Covid cyfredol Cymru yn caniatáu i lety hunangynhwysol - gan gynnwys gwestai, hosteli a llety gwely a brecwast sydd ag ystafelloedd gwely sy'n cynnwys ystafelloedd ymolchi ac sy'n gallu cynnig bwyd yn yr ystafell/cludfwyd yn unig - agor o 27 Mawrth.
Cewch deithio ac aros mewn llety gyda'r sawl sy'n byw yn eich cartref yn unig.
Does dim hawl i bobl o'r tu allan i Gymru gadw lle mewn llety yng Nghymru.[HS1]
[HS1]Link to welsh government page