Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Landing in Rhondda Cynon Taf

 

Posted: 17/03/2021

Landing in Rhondda Cynon Taf

Mae'n ymddangos bod 2021 yn troi’n flwyddyn wych i ardal Rhondda Cynon Taf. Mae un o'r atyniadau newydd mwyaf cyffrous bellach ar agor - Zip World Tower!

Dylai Zip World Tower, ar safle eiconig Glofa'r Tŵr yn Hirwaun, a Pharc Beiciau ar gyfer Teuluoedd Disgyrchiant ym Mharc Gwledig Cwm Dâr, Aberdâr, fod ar ben rhestr ymwelwyr â'r ardal, a dyma pam:

Mae Zip World Tower yn rhoi cyfle i'r rheiny sy'n ceisio gwefr heb ei hail hedfan o gopa Mynydd Rhigos dros y dirwedd yma:

Rhigos---Aerial-4

Yn y cyfamser, mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn gartref i Barc Beiciau newydd ar gyfer Teuluoedd Disgyrchiant (a fydd yn agor yn fuan). Dyma sut olwg sydd ar eich antur awyr agored:  

Dare-Valley-Country-Park---Aerial-2

Awydd rhoi cynnig ar Phoenix yn Zip World Tower? Dyma'r wifren wib gyflymaf o'i math yn y byd.

zipworld

 Mae Parc Beiciau ar gyfer Teuluoedd Disgyrchiant gerllaw ym Mharc Gwledig Cwm Dâr yn gadael i chi ruthro i lawr llwybrau Mynydd Penrhiwllech a phrofi traciau 'lan a lawr' ar hyd y ffordd:

penrhiwllechshaneGTJones

 Dewch â'ch beic a'ch offer eich hun, neu eu llogi o ganolfan Disgyrchiant ar y safle, a mynd amdani!

bikes

Y Tower Coaster yn Zip World Tower yw'r unig un o'i fath yn Ewrop, a bydd y plant wrth eu bodd yn gwibio drwy olygfeydd gwych y goedwig.

forest coaster

Hefyd ym Mharc Gwledig Cwm Dâr, mae dau faes chwarae sy'n rhad ac am ddim i'w defnyddio!

DVCP - Play Area - August 2020 - New-19

Ar ôl yr holl antur yna, beth am fynd i Far a Bistro Cegin Glo yn Zip World Tower?

cegin glo

Ar y fwydlen ym Mharc Gwledig Cwm Dâr, mae rhagor o ddanteithion. Mae'r Black Rock Café 21 newydd yn cynnig cynnyrch o ffynonellau cynaliadwy, yn ogystal â pizza, pasta, brechdanau, ciniawau rhost a salads fel hyn.

food

Beth am dreulio'r penwythnos ym Mharc Gwledig Cwm Dâr ac aros yno? Mae llety ar y safle gydag ystafelloedd gwely ar gyfer hyd at bedwar o bobl, gan gynnwys ystafelloedd i deuluoedd ac ystafelloedd sy'n hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn. Neu dewch â'r garafán, y cartref modur neu ba bynnag lety symudol sy'n mynd â'ch bryd a defnyddio'r cyfleusterau anhygoel yma!

Caravan-Thumbnail