Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Hwb Twristiaeth

 

Posted: 11/08/2021

Hwb Twristiaeth

Mae busnesau, sefydliadau ac unigolion sydd wedi ymrwymo i ddatblygu Rhondda Cynon Taf yn gyrchfan i ymwelwyr yn cael eu cefnogi gan Hwb Twristiaeth newydd pwysig.

Cafodd yr Hwb ei lansio gan garfan Croeso Rhondda Cynon Taf, sef Carfan Twristiaeth y Cyngor, er mwyn dod â phartneriaid o ystod eang o sectorau, diddordebau ac arbenigeddau ynghyd i ddatblygu potensial enfawr y Fwrdeistref Sirol a chodi ei broffil fel lle cyffrous i ymweld ag e, lle da i grwydro a lle braf i aros.

Mae twristiaeth yn cyfrannu tua £179 miliwn tuag at economi Rhondda Cynon Taf ac mae'n ddiwydiant hanfodol. Mae busnesau a sefydliadau o bob maint - o westai a darparwyr atyniadau i fentrau arlwyo bach - yn dibynnu ar ymwelwyr sy'n dod i’r ardal a'r arian maen nhw'n ei wario yma.

Cafodd yr Hwb ei greu i alluogi pawb sy'n dibynnu ar dwristiaeth - neu sy'n dymuno datblygu eu cynnig twristiaeth - i ddod at ei gilydd mewn dull a rhwydwaith cyfunol.

Bydd y Strategaeth Twristiaeth Rhondda Cynon Taf newydd yn sail i waith a chyfeiriad yr Hwb.

Mae modd i aelodau sicrhau eu bod nhw'n cael yr wybodaeth bwysig ddiweddaraf am y sector a newyddion am y diwydiant twristiaeth ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. Bydd gwybodaeth am gyllid, cymorth gydag adnoddau marchnata a chyfle i weithio gyda'n gilydd i wireddu’r weledigaeth o wneud Rhondda Cynon Taf yn gyrchfan sy’n denu ymwelwyr. 

Bydd modd i bawb gyfrannu i’r sgwrs er mwyn gallu rhannu syniadau a bydd trafodaeth agored ar faterion o ddiddordeb i bawb a chyfle i rannu pryderon y mae modd i  Garfan Twristiaeth Rhondda Cynon Taf eu huwchgyfeirio trwy ei phartneriaethau â Chroeso Cymru, Ymweld â De Cymru, Parc Rhanbarthol y Cymoedd a rhagor.

Mae aelodaeth am ddim ac yn agored i unrhyw unigolyn, busnes, cynrychiolydd cwmni neu ddarparwr sydd â diddordeb arbennig mewn twristiaeth, ac sydd ag ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth gyda'r nod o gynyddu potensial twristiaeth Rhondda Cynon Taf.

 

Er enghraifft:

 

  • Gweithredwyr atyniadau
  • Darparwyr Llety
  • Y rhai sy'n cynnig bwyd neu ddiod (p'un a yw hynny i'w fwyta ar y safle neu'n fwyd i fynd)
  • Trefnwyr teithiau
  • Cynrychiolwyr masnach manwerthu
  • Cynrychiolwyr o’r gymuned neu unigolion sydd am ddatblygu neu ddarparu cynnig neu fusnes newydd – e.e. cerdded, lles, treftadaeth, manwerthu, arlwyo neu lety.

(Dydy'r rhestr yma ddim yn gynhwysfawr ac mae modd i'r bobl hynny sydd am ddysgu rhagor gysylltu â Charfan Twristiaeth Croeso Rhondda Cynon Taf)

Gwnewch gais i ymuno â'r Hwb (mae aelodaeth am ddim)

Cysylltwch â Charfan Twristiaeth Croeso Rhondda Cynon Taf i gael rhagor o wybodaeth