Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Lido Ponty - Lido Cenedlaethol Cymru

 
Parc Coffa Ynysangharad, Bridge Street, Pontypridd CF37 4PE

Mae Lido Ponty, sy'n adeilad rhestredig Gradd II, wedi'i adnewyddu a'i foderneiddio ar gyfer ymwelwyr yr 21ain ganrif. Mae iddo dri phwll nofio cynnes sy'n cynnig cyfleoedd gwych i deuluoedd, nofwyr selog a nofwyr cymdeithasol o bob oed a gallu.

Mae nodweddion Lido Ponty yn cynnwys cawodydd allanol a mewnol, cyfleusterau newid wedi'u gwresogi a Chanolfan fodern i ymwelwyr, sy'n adrodd hanes rhyfeddol Lido Cenedlaethol Cymru. Mae'r nodweddion sydd wedi'u hadfer yn cynnwys y gatiau troi a'r ciwbiclau pren o'r 1920au sy'n gweddu'n dda i Gaffi Glan-y-dŵr (Waterside Café) sydd newydd ei adeiladu.

Mae'r man chwarae antur newydd, Chwarae'r Lido, yn tanio dychymyg ein hymwelwyr iau wrth iddyn nhw chwarae ar y siglenni a'r llithrennau ac archwilio'r twneli. Mae'r parc â thema leol ac yn dathlu ein gorffennol diwydiannol.