Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Daith Pyllau Glo Cymru

 

Posted: 14/05/2021

Daith Pyllau Glo Cymru

Mae teithiau tanddaearol arbennig yr Aur Du yn dechrau eto yr wythnos nesaf. Rydyn ni wedi ein cyffroi'n lân!

Rhondda Heritage Park - External Chimney Stack - Winding Gear-4

Mae modd i chi gadw'ch lle ar Daith Pyllau Glo Cymru erbyn hyn a byddwn ni'n croesawu ein hymwelwyr cyntaf ddydd Mawrth, 18 Mai.

Efallai y bydd pethau ychydig yn wahanol ers i chi ymweld â ni ddiwethaf, gan fod rhaid i ni eich cadw chi a'n gweithwyr yn ddiogel, ond bydd y profiad yr un mor wefreiddiol.

RHP -  underground - miner - miners lamp - visitor-26-25 - Copy

Dewch i gyfarfod y dynion aeth i weithio'n y pyllau glo pan oedden nhw ond yn fechgyn. Byddwch chi i gyd yn cael helmed i'w gwisgo cyn mynd yn ôl mewn amser ar daith danddaearol. Bydd ein tywyswyr yn rhannu straeon personol, trist a doniol gyda chi trwy gydol y daith.

miners

Dewch i brofi taith rithwir, DRAM! Profiad sinematig lle rydych chi'n reidio'r dram olaf o lo at wyneb y pwll - daliwch eich gafael yn dynn!

The Dram - WME - for social media

Dewch i gwrdd â'r glöwr ifanc 12 oed, Joe, a fydd yn rhannu ei brofiadau gyda chi am ei ddiwrnod cyntaf erioed dan ddaear. Ac ydy, mae ei stori yn seiliedig ar wir straeon y cannoedd o fechgyn ifainc aeth i weithio yn y pyllau glo.

Collier Boy

Mae Taith Pyllau Glo Cymru wedi'i lleoli ar safle hen Lofa Lewis Merthyr, pwll glo enfawr a gludodd filoedd o dunelli o lo i Gaerdydd - cyn iddo gael ei gludo i bedwar ban byd.

Cafodd glo o'r pwll ei ddefnyddio i danio'r Titanic. Yn sgil y mwyngloddio helaeth oedd yn digwydd yng Nghwm Rhondda daeth y chwyldro diwydiannol i'r fei gan ysbrydoli mawrion hanes Prydain, Isambard Kingdom Brunel a George Stephenson.

Dysgwch ragor am yr effeith fawr gawson ni ar y byd yn ein harddangosfa, sydd hefyd yn gyfle i weld a chlywed hanesion o'n cymunedau mwyngloddio.

WME - Exhibition - New Area-5

Mae'r Caffe Bracchi ar y safle yn deyrnged i'r ymfudwyr o'r Eidal a heidiodd i Gwm Rhondda i weithio yn y pyllau glo, gan ddod â siopau coffi a hufen iâ gyda nhw - mae rhai o'r siopau yma dal ar agor heddiw.

WME - Cafe March 2019-43

Mae ystod flasus o fyrbrydau a diodydd poeth ac oer i'w cael yno ac mae modd i chi eu bwyta y tu mewn (o 18 Mai), neu brynu'r danteithion a'u mwynhau oddi ar y safle. Mae’r dewis o gacennau yn anhygoel!

WME - Cafe March 2019-3

Mae Taith Pyllau Glo Cymru hefyd yn gartref i Craft of Hearts, sefydliad sydd â'i bryd ar ddod â'r gymuned ynghyd trwy ddull creadigol.

Mae'n baradwys i grefftwyr ac mae ystod enfawr o eitemau ar werth yno. Mae dosbarthiadau a sesiynau'n cael eu cynnal ar y safle hefyd.

craftofhearts

Mae Taith Pyllau Glo Cymru yn ailagor ddydd Mawrth, 18 Mai a bydd ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn wedi hynny. Bydd un daith yn cael ei chynnal bob awr rhwng 10am a 3pm a dim ond lle i un teulu neu deulu estynedig fydd ar bob taith. Rhaid bod dau berson ar bob taith, a hyd at wyth o bobl.

Trefnwch eich taith yma