Skip to main content

Cludo llwythi anghyffredin trwy Bontypridd i fferm wynt

roads two

Dyma roi gwybod i drigolion a defnyddwyr ffyrdd ym Mhontypridd y bydd nifer o lwythi anghyffredin yn cael eu cludo drwy'r ardal dros yr wythnosau nesaf, i gyrraedd Fferm Wynt Llwyncelyn. Bydd hyn yn cael ei reoli gan yr heddlu gyda ‘chau ffordd dros gyfnodau treigl’ bob tro, gan ddechrau o’r wythnos nesaf.

Mae Quantum Traffic Management wedi cyflwyno’r cais am y mesurau traffig ffordd gofynnol, ar ran Mar-train Heavy Haulage Ltd.

Mae'r cyflenwad cyntaf wedi'i drefnu ar gyfer nos  Lun 16 Medi, gyda phedwar cyflenwad yn cyrraedd ar y dyddiad yma. Cynllun presennol yr ymgeisydd yw bod 20 llwyth arall yn cyrraedd ar draws sawl dyddiad arall, a fydd yn cael eu hamserlennu’n gyfnodol hyd at ac yn cynnwys wythnos gyntaf Hydref 2024.

Bydd y llwyth anghyffredin yn cael ei drefnu gan yr heddlu o'r A470 i Gylchfan Sainsbury's ac A4058 Broadway, gan barhau ar draws pont Heol Sardis (teithio yn erbyn y system unffordd) ac ymlaen i waelod Bryn y Graig-wen.

Bydd y trefniant ‘cau ffordd dreigl’ yn cwmpasu'r Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm yr A4058, Ffordd y Nant, Heol Sardis (Ffordd y Nant i Stryd y Felin), System Gylchu Heol Sardis, Stryd y Felin (Heol Sardis i Ffordd Rhondda), Ffordd Rhondda (Stryd y Felin i Ffordd Graigwen), Ffordd Graigwen, a Ffordd Pen-y-Wal tuag at Lanwynno am bellter 2.55 cilomedr.

Mae’r llwybr i’w weld ar y map ar wefan y Cyngor. Mae disgwyl y bydd angen cau ffordd dreigl am 15 munud ar gyfer pob cyflenwad - yr amser teithio o'r A470 i Fryn y Graig-wen.

Fydd dim llwybr amgen ar gael oherwydd natur y trefniant 'cau ffordd dreigl'. Bydd mynediad ar gael i gerddwyr a cherbydau'r gwasanaethau brys. Mae'r contractwr wedi rhoi gwybod bydd modd i feicwyr ddefnyddio rhan o'r ffordd sydd ar gau, ond dylid bod yn ofalus.

Bydd yr ymgeisydd hefyd angen gorchymyn gwahardd aros ar Ffordd Graigwen, i atal parcio, oherwydd maint y cerbydau fydd yn mynd drwodd. Bydd trigolion sy'n cael eu heffeithio yn derbyn llythyr yn egluro'r trefniadau ymhellach.

Rydyn ni'n cynghori trigolion i anfon unrhyw ymholiadau at Quantum Traffic Management ar ran Mar-train Heavy Haulage Ltd – drwy ffonio  07961 951873 neu drwy e-bostio ClareB@Cenin.co.uk.

Wedi ei bostio ar 12/09/24