Skip to main content

Buddsoddiad pellach ym meysydd blaenoriaeth y Cyngor i'w drafod

Investment priorities - Copy

Gallai'r Cabinet gytuno ar fuddsoddiad ychwanegol wedi'i dargedu gwerth £6.95 miliwn ar gyfer blaenoriaethau'r Cyngor, a hynny ar ben rhaglen gyfalaf eleni, megis cynnal a chadw ffyrdd, atgyweirio strwythurau, lliniaru llifogydd, parciau a mannau gwyrdd, a Choridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan.

Mae adroddiad cyfarfod y Cabinet ddydd Iau, 19 Medi yn cynnwys manylion am fuddsoddiad cyfalaf untro arfaethedig ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol (2024/25), a byddai'n amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor llawn. Mae'r Cyngor wedi trafod y math yma o fuddsoddiad, ar ben ei raglen gyfalaf flynyddol, sawl gwaith ers 2015. Gallai'r cynigion diweddaraf ychwanegu at y buddsoddiad gwerth £181 miliwn sydd wedi’i wneud fel hyn dros y naw mlynedd ddiwethaf.

Yn adroddiad y Cabinet ar gyfer y cyfarfod ddydd Iau, mae swyddogion wedi amlinellu bod modd defnyddio'r gronfa Buddsoddi/Seilwaith wrth gefn sydd gan y Cyngor i ariannu’r buddsoddiad arfaethedig gwerth £6.95 miliwn yn llawn. Dyma gronfa wrth gefn benodol sydd wedi'i chlustnodi i ariannu'r gost o gynnal a chadw seilwaith a’i wella ledled y Fwrdeistref Sirol. Bydd y Cabinet yn trafod argymhellion i ddyrannu’r buddsoddiad ychwanegol ar draws y meysydd canlynol:

  • Priffyrdd a Ffyrdd - £2.5 miliwn
  • Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan - £1 miliwn
  • Strwythurau - £2.25 miliwn
  • Gwneud Defnydd Gwell / Datblygiadau Traffig - £250,000
  • Gwaith Lliniaru Llifogydd - £250,000
  • Gwelliannau Gofal y Strydoedd - £25,000
  • Parciau a Mannau Gwyrdd - £400,000
  • Atgyweirio Cysgodfannau Bysiau - £50,000
  • Grantiau Ynni Cyfleusterau Cymunedol - £75,000 
  • Carfanau Gwyrdd - £150,000

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Mae swyddogion wedi nodi a chynnig buddsoddiad pellach gwerth £6.95 miliwn ym meysydd blaenoriaeth y Cyngor, yn unol â’r Cynllun Corfforaethol. Os bydd yr Aelodau’n cytuno â'r cynnig, bydd y cyllid yn cael ei gynnwys yn rhan o’n rhaglen gyfalaf barhaus ar gyfer 2024/25.

“O ganlyniad i’r cyllid ychwanegol yma, cyfanswm ein hadnoddau ychwanegol, sydd wedi’u buddsoddi ar ben dyraniadau arferol ein rhaglen gyfalaf ers mis Hydref 2015, fyddai tua £188 miliwn. Gwerth y dyraniad diweddaraf oedd £19.29 miliwn, ar ôl cytuno arno ym mis Mawrth 2024 ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol. Roedd yn targedu meysydd blaenoriaeth allweddol yn ogystal â chynlluniau penodol megis Fferm Solar Coed-elái, gwaith atgyweirio Ffordd Mynydd Rhigos, a gwella maes chwarae yn y Ddraenen-wen.

“Byddai’r cynigion diweddaraf yn dyrannu £2.5 miliwn ychwanegol ar gyfer cynnal a chadw ffyrdd wrth i ni barhau â’n dull ariannu carlam, sydd wedi lleihau’r ganran o’n rhwydwaith priffyrdd y mae angen ei atgyweirio dros nifer o flynyddoedd. Mae llawer iawn o waith hefyd yn cael ei gynnal i atgyweirio strwythurau allweddol sy'n cynnal y rhwydwaith, a byddai dyraniad arfaethedig gwerth £2.25 miliwn yn y maes yma'n helpu ein hymdrech i gynnal a chadw 1,500 o waliau, pontydd a chwlferi ledled y Fwrdeistref Sirol.

“Mae cyllid pwysig gwerth £1 miliwn hefyd wedi’i gynnig ar gyfer Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan. Yn gynharach eleni fe wnaethon ni gyhoeddi bod y cynllun, a gafodd ei ohirio o dan yr Adolygiad Ffyrdd, wedi’i ailgynllunio yn dilyn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru, a hynny er mwyn gwreiddio trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn y cynllun. Byddai'r cyllid newydd yn cefnogi'r cynllun i barhau drwy'r camau dylunio a chynllunio. 

“Cynigir cyllid pellach hefyd i gefnogi cynlluniau draenio a lliniaru llifogydd ar raddfa fach, darparu biniau newydd mewn mannau cyhoeddus, mynd i’r afael â thagfeydd mewn ardaloedd prysur o’n rhwydwaith priffyrdd, adnewyddu pafiliynau chwaraeon, gwella meysydd chwaraeon, atgyweirio seilwaith parciau, cynnal a chadw cysgodfannau bysiau, a pharhau â’r gwaith i fynd i’r afael â gordyfiant wedi’i dargedu a materion cysylltiedig yn ein cymunedau.

“Rydyn ni mewn cyfnod ariannol heriol iawn i gynghorau lleol, ond mae ein  rheolaeth ariannol gadarn wedi ein galluogi i nodi buddsoddiad cyfalaf ychwanegol, sylweddol i gefnogi meysydd blaenoriaeth ein Cyngor. Bydd yr Aelodau yn trafod yr argymhellion ddydd Iau er mwyn eu rhoi ar waith eleni."

Wedi ei bostio ar 17/09/24