Skip to main content

Opsiynau trefniadaeth ysgolion mewn ymateb i leoedd gwag rhagamcanol

Cyn bo hir bydd y Cabinet yn ystyried cynigion trefniadaeth ysgolion yng nghymunedau Tonyrefail a Thrallwng. Bydd hyn yn gwella deilliannau addysg ac yn sicrhau bod ysgolion lleol yn gynaliadwy ac yn y sefyllfa orau i ddarparu addysg o ansawdd uchel.

Caiff y cynigion eu trafod mewn dau adroddiad ar wahân a fydd yn cael eu cyflwyno yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Llun, 23 Medi. Maent wedi'u cyflwyno i sicrhau bod y Cyngor yn parhau i gyflawni ei ddyletswydd statudol o ran diwallu anghenion addysgol cymunedau trwy ei drefniadaeth ysgolion. Mae hefyd gan yr Awdurdod Lleol gyfrifoldeb pwysig i wneud y defnydd gorau o arian cyhoeddus.

Ddydd Llun, gallai’r Cabinet gytuno i ymgynghori’n ffurfiol â’r rhanddeiliaid perthnasol ynghylch pob cynnig mewn ymgynghoriadau trefniadaeth ysgolion statudol ar wahân. Byddai'r ymgynghoriadau'n cael eu cynnal rhwng 30 Medi ac 15 Tachwedd, 2024. Byddai'r adborth a ddaw i law yn llywio penderfyniadau terfynol yr Aelodau ar bob cynnig yn y dyfodol.

Trefniadaeth Statudol Ysgolion – Y cynnig mewn perthynas â Thonyrefail

Y cynnig yw y bydd Ysgol Gynradd Tref-y-Rhyg yn cau ac y bydd disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Gymuned Tonyrefail erbyn mis Medi 2025. Bydd hyn yn golygu bydd angen ymestyn dalgylch Ysgol Gymuned Tonyrefail.

Mae lle i 157 o ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Tref-y-Rhyg, ac rydyn ni'n rhagweld y bydd niferoedd y disgyblion yn gostwng yn raddol yn y dyfodol. Mae data yn yr adroddiad yn nodi bod 82 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol, sy'n golygu bod bron i 48% o leoedd gwag ar hyn o bryd. Rydyn ni'n rhagweld dim ond 54 disgyblion fydd yn mynychu erbyn 2028/29 (65.6% o leoedd gwag).

Cafodd yr adeilad ei adeiladu tua 1899, a dangosodd arolwg cyflwr eiddo yn 2022 ei fod wedi'i raddio'n 'C' o ran cyflwr a 'D' o ran addasrwydd ('A' yw'r sgôr uchaf a 'D' yw'r sgôr isaf). Mae angen gwaith atgyweirio neu adnewyddu sylweddol ar yr adeilad, ac mae gwaith cynnal a chadw gwerth £381,040 i'w wneud. Dyw'r swm ddim yn cynnwys y cyllid ychwanegol sydd ei angen i’r ysgol gyrraedd safon Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Yn ogystal, dyw ardaloedd awyr agored cyfyngedig yr ysgol ddim yn addas i staff gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru trwy ddysgu yn yr awyr agored. Mae’r safle wedi'i raddio’n ‘D’ o ran hygyrchedd, a dyw e ddim yn cydymffurfio’n llawn â Deddf Cydraddoldeb 2010.

Ysgol 3-19 yw Ysgol Gymuned Tonyrefail gyda lle i 385 o ddisgyblion yn y cyfnod cynradd. Cafodd fuddsoddiad mawr gwerth £44miliwn yn 2020, a ddarparodd addysg o’r radd flaenaf a chyfleusterau chwaraeon. Hon hefyd yw'r ysgol sy'n darparu addysg uwchradd ar gyfer dalgylch Ysgol Gynradd Tref-y-Rhyg.

Mae adroddiad y Cabinet ddydd Llun yn nodi ein bod yn rhagweld bydd gan yr ysgol 7.5% o leoedd gwag erbyn 2028/29, a bydd cynnydd arfaethedig o ran capasiti yn y cyfnod cynradd (o 30 i 415) yn cynyddu nifer y lleoedd ysgol sydd ar gael ymhellach. Mae’r adroddiad yn cadarnhau bydd lle yn Ysgol Gymuned Tonyrefail ar gyfer holl ddisgyblion Ysgol Gynradd Tref-y-Rhyg ym mis Medi 2025.

Trefniadaeth Statudol Ysgolion – Y cynnig mewn perthynas â Thrallwng

Y cynnig yw cau Ysgol Babanod Trallwng ac yna drosglwyddo disgyblion i'r ysgol gerllaw, sef Ysgol Gynradd Coedpenmaen, sydd ychydig dros 400m i ffwrdd, erbyn mis Medi 2025 fan bellaf.

Mae lle i 105 o ddisgyblion yn ‘Ysgol Babanod Trallwng’, o flwyddyn Derbyn i Flwyddyn 2. Mae niferoedd disgyblion wedi gostwng yn sylweddol, gyda dim ond 50 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol yn 2023/24. Yn 2019/20, roedd yno 75 o ddisgyblion ond dim ond 30 oedd yn byw yn nalgylch yr ysgol. Rydyn ni'n rhagweld dim ond 48 o ddisgyblion fydd yn mynychu'r ysgol yn 2028/29, a bydd 54.3% o leoedd gwag.

Cafodd adeilad yr ysgol radd ‘C’ o ran cyflwr a ‘C’ o ran addasrwydd (‘A’ yw'r sgôr uchaf a ‘D’ yw’r sgôr isaf) yn yr arolwg diweddaraf yn 2022, a dyw'r safle ddim yn cydymffurfio’n llawn â Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae gwaith cynnal a chadw gwerth £227,760 i'w wneud. Dyw'r swm ddim yn cynnwys y cyllid ychwanegol sydd ei angen i’r ysgol gyrraedd safon Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Ysgol 3-11 oed yw Ysgol Gynradd Coedpenmaen a dyma'r ysgol ddalgylch ar gyfer Ysgol Babanod Trallwng pan fydd disgyblion yn cyrraedd Blwyddyn 3. Mae gan yr ysgol le ar gyfer 269 o ddisgyblion oedran ysgol statudol, ac mae 242 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol ar hyn o bryd (2023/24). Rydyn ni'n rhagweld bydd y nifer yn gostwng i 222 o ddisgyblion yn 2028/29.

Yn ôl adroddiad y Cabinet ddydd Llun, pe bai'r cynnig yn mynd rhagddo, byddai dal lleoedd gwag yn Ysgol Gynradd Coedpenmaen ar ddechrau blwyddyn academaidd 2025/26, a byddai lle ar gyfer holl ddisgyblion Ysgol Babanod Trallwng.

Yn ogystal â hyn, byddai'r Cyngor yn buddsoddi mewn gwaith gwella pwysig i gyfleusterau presennol Ysgol Gynradd Coedpenmaen. Byddai hyn yn cynnwys gwella adeiladau'r ysgol, a hefyd gwella ei mannau chwarae awyr agored.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a'r Gymraeg: “Bydd y Cabinet yn ystyried y cynigion pwysig yma ddydd Llun. Maen nhw wedi’u cyflwyno fel bod modd inni roi’r addysg orau i bobl ifainc yn Nhonyrefail a Thrallwng, a hynny mewn ffordd gynaliadwy. Mae swyddogion wedi nodi'r opsiynau'n llawn ac os cânt eu cytuno bydd yna broses ymgynghori helaeth yn ddiweddarach eleni.

“Mae’r cynigion yn ymateb yn uniongyrchol i’r gostyngiad rydyn ni'n ei ragweld yn nifer disgyblion Ysgol Gynradd Tref-y-Rhyg ac Ysgol Babanod Trallwng yn y blynyddoedd i ddod. Byddai hyn yn effeithio ar hyfywedd ariannol pob ysgol a phrofiad addysg disgyblion. Mae angen gwaith atgyweirio neu gynnal a chadw sylweddol ar y ddau safle ysgol hefyd, ac mae hefyd angen cyllid ychwanegol ar ben hynny fel eu bod o safon Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Mae hyn i gyd yng nghyd-destun cyfnod ariannol anodd, parhaus ar draws Llywodraeth Leol.

“Mae i'r cynigion nifer o fanteision i ddisgyblion. Byddai modd iddyn nhw ddysgu mewn amgylcheddau mwy gyda chyfleusterau gwell, gan eu galluogi i gymdeithasu â nifer fwy o gyfoedion o’r un oedran. Hefyd, mae Ysgol Gymuned Tonyrefail ac Ysgol Gynradd Coedpenmaen eisoes yn ysgolion dalgylch ar gyfer cyfnodau nesaf addysg disgyblion, mewn perthynas â'r ddwy ysgol y cynigir eu cau. Byddai’r cynigion hefyd yn arwain at barhad dysgu gwell, o ystyried y byddai disgyblion yn mynychu un safle yn unig am flynyddoedd i ddod.

“Mae gan Ysgol Gymuned Tonyrefail gyfleusterau gwych gan ei bod wedi elwa o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yn y blynyddoedd diwethaf. Byddai’r cynigion felly'n rhoi cyfle i hyd yn oed rhagor o ddisgyblion elwa o’r rhain. Yn rhan o'r cynigion ar gyfer Trallwng y mae ymrwymiad gan y Cyngor i fuddsoddi yn safle Ysgol Gynradd Coedpenmaen, er budd disgyblion newydd a phresennol yr ysgol.

“Rydyn ni’n gwybod bydd gan nifer o bobl farn gref ar gynigion o'r math, sef newid trefniadau addysg, gan fod rhieni, gwarcheidwaid, disgyblion a thrigolion yn angerddol dros ben dros eu hysgolion lleol sy’n gwasanaethu eu cymunedau. Os bydd y Cabinet yn cytuno ar yr ymgynghoriadau ddydd Llun, bydd y Cyngor yn dilyn y prosesau ymgynghori statudol sefydledig. Bydd hyn yn rhoi cyfle i drigolion ddweud eu dweud er mwyn llywio unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol.”

Wedi ei bostio ar 16/09/2024