Skip to main content

Cyllid wedi'i sicrhau er mwyn datblygu gwaith lliniaru llifogydd allweddol yn Tylorstown

Arfryn Terrace 3 - Copy

Gwaith blaenorol sydd wedi'i gwblhau yn Stryd y Parc

Mae cyllid pwysig Llywodraeth Cymru wedi'i sicrhau er mwyn bwrw ymlaen â chynllun lliniaru llifogydd sylweddol ar Deras Arfryn yn Tylorstown - gan fuddsoddi mewn mesurau diogelu pellach ar gyfer y gymuned am flynyddoedd i ddod.

Roedd y gymuned o amgylch Teras Arfryn wedi wynebu digwyddiadau llifogydd yn 2021 a 2023, ac mae'r Cyngor bellach wedi cyflawni gwaith er mwyn ceisio lleihau'r risg o lifogydd yn y dyfodol. Mae hyn wedi cynnwys gwaith y llynedd ar Stryd y Parc - er mwyn lleihau llifogydd o ganlyniad i ddŵr wyneb gan leihau'r risg i strydoedd gerllaw gan gynnwys Teras Arfryn a Theras Brynheulog o ganlyniad. Mae rhestr lawn o'r gwaith lleol sydd wedi'i gyflawni gan y Cyngor wedi'i gynnwys ar waelod y diweddariad yma.

Mae prif Gynllun Lliniaru Llifogydd Teras Arfryn yn cael ei ddatblygu a bydd y gwaith yn mynd rhagddo yn y dyfodol. Bydd yn cynnwys cyfres o fesurau sy'n cynnwys gwaith gwella cwlferi traddodiaddol yn y gymuned, gan wella capasiti strwythurau cilfach/mewnfa ar hyd ochr y bryn. Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys cyflwyno nodweddion rheoli risg llifogydd naturiol yn rhan o ddalgylch uchaf yr ardal - er enghraifft yn rhan o'r dirwedd uwchlaw'r gymuned.

Mae'r Cyngor bellach wedi derbyn £200,000 o gyllid trwy Raglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru yn gyfraniad tuag at gyflawni'r Achos Busnes Llawn a'r cam dylunio manwl ar gyfer y cynllun yn y dyfodol.

Bydd y cyllid yn galluogi i'r Cyngor gyflawni gwaith allweddol dros y 18 mis nesaf - gan gynnwys cwblhau'r cam dylunio technegol. Bydd hyn yn golygu bod dewis â ffefrir oedd wedi'i nodi yn natblygiad Achos Cyfiawnhau Busnes y Cyngor yn cael ei gwblhau. Y camau cyntaf fydd penodi ymgynghorwyr allanol ar gyfer y cynllun, a dechrau ar y gwaith arolygu cychwynnol. 

Mae modd i drigolion dderbyn y newyddion diweddaraf mewn perthynas â'r cynllun drwy fwrw golwg ar dudalen benodol ar wefan y Cyngor yma. Bydd ymgysylltiad cyhoeddus yn cael ei gynnal yn rhan o ddatblygiad y cam dylunio manwl.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Mae'r Cyngor yn parhau i groesawu cymorth cyllid pwysig gan Lywodraeth Cymru er mwyn datblygu a darparu mesurau lliniaru llifogydd lleol wedi'u targedu. Cafodd cymorth gwerth mwy na £4.48 miliwn  ei sicrhau yn rhan o sawl rhaglen cyllid yn 2024/25 - sy'n cael ei ddefnyddio ar y cyd â chyllid cyfatebol y Cyngor drwy gydol y flwyddyn.

"Rwy'n falch bod y Cyngor wedi derbyn cyllid gwerth £200,000 er mwyn datblygu Cynllun Lliniaru Llifogydd Teras Arfryn yn Tylorstown, fydd yn bwrw ymlaen i'r cam dylunio technegol. Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad y mis diwethaf am gefnogaeth bwysig ar gyfer Cynllun Lliniaru Llifogydd Pentre - er mwyn darparu'r Achos Busnes Llawn a gwaith dylunio allweddol. Mae'r ddau gynllun yn cynrychioli buddsoddiad lleol sylweddol, ac mae paratoadau ar waith er mwyn eu darparu yn ystod blwyddyn ariannol yn y dyfodol.

"Bydd y cyllid sydd newydd ei sicrhau ar gyfer Teras Arfryn yn galluogi ymgynghorwyr i gael eu penodi a dechrau gwaith arolygu ar gyfer y prif gynllun lliniaru llifogydd sydd wedi'i gynllunio ar gyfer yr ardal. Bydd hyn yn adeiladu ar waith pwysig i briffordd sydd wedi'i gwblhau ar Stryd y Parc yn ystod Hydref a Gaeaf y llynedd er mwyn mynd i'r afael â phroblem llifogydd dŵr wyneb. Bydd y Cyngor yn diweddaru ei dudalen we benodol ar gyfer y cynllun yn rheolaidd, er mwyn sicrhau bod trigolion yn derbyn y newyddion diweddaraf."

Mae'r gwaith canlynol wedi cael ei gynnal ar ac o amgylch Teras Arfryn ers y digwyddiadau llifogydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf: 

  • Arolygu oddeutu 1 cilomedr o gyrsiau dŵr cyffredin a seilwaith draenio dŵr wyneb. Mae hyn wedi'i fapio a'i adolygu, gan arwain at waith glanhau ac atgyweirio wedi'u targedu. 
  • Cwblhau Achos Busnes Amlinellol Strategol ar gyfer cymuned Tylorstown. Mae hyn wedi nodi'r achos am newid, a rhestr fer o ddewisiadau er mwyn lliniaru llifogydd yn y gymuned. 
  • Cwblhau Achos Busnes Cyfiawnhau Busnes ar gyfer cymuned Tylorstown. Mae hyn wedi bwrw ymlaen â chanfyddiadau'r Achos Busnes Amlinellol, ac o ganlyniad mae'n cael ei ddefnyddio er mwyn sicrhau'r cyllid sydd wedi'i gadarnhau yn ddiweddar ar gyfer yr Achos Busnes Llawn a cham dylunio manwl.  
  • Cwblhau gwaith pellach yn ystod blwyddyn ariannol 2023/24. Roedd y prosiect yma'n cynnwys gwelliannau i'r blaenfuriau a thyllau archwilio, leinio strwythurol a gwella rhwydweithiau cwlfer, gwelliannau i'r sianeli agored ac i'r cilfachau/mewnfeydd. 
  • Cwblhau prosiect gwrthsefyll llifogydd eiddo dros dro ar gyfer yr eiddo sydd wedi'u nodi yn rhai sy'n wynebu risg uchel o lifogydd. Roedd y prosiect yn cynnwys benthyg offer allweddol megis gatiau llifogydd, tyllau aer ac aqua sacs er mwyn lliniaru effeithiau digwyddiadau storm pellach yn y gymuned wrth i'r Cynllun Lliniaru Llifogydd ehangach gael ei ddatblygu.
  • Gosod unedau telemetreg o bell ychwanegol mewn lleoliadau allweddol yn y gymuned. Mae'r gwaith yma wedi darparu unedau TCC a synwyryddion dŵr er mwyn cynorthwyo gwaith monitro llif dŵr a chroniad malurion. Mae hyn yn cynorthwyo â gwaith cynnal a chadw a gweithgareddau ymateb yn ystod digwyddiadau storm. 
Wedi ei bostio ar 17/09/24