Skip to main content

Gwaith gosod wyneb newydd ar gae hoci Ysgol Afon Wen yn dechrau

Hockey pitch 3

Mae gwaith wedi dechrau i wella'r cae hoci presennol yn Ysgol Afon Wen, sef Ysgol Uwchradd y Ddraenen-wen yn flaenorol, er mwyn i'r ysgol a'r gymuned ei ddefnyddio. Mae'r Cyngor wedi derbyn 38% o gyllid tuag at y prosiect gan Grŵp Cydweithredol Chwaraeon ar Gaeau, wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru a'i weinyddu gan Chwaraeon Cymru, mewn cydweithrediad â Hoci Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac Undeb Rygbi Cymru.

Bydd y prosiect gosod wyneb newydd, gydag ychydig o waith i wella a chryfhau'r ffensys, yn cynnwys eisteddleoedd newydd i eilyddion a hyfforddwyr a goliau hoci newydd. Bydd yn gae ar gyfer hoci yn bennaf ond bydd modd i grwpiau chwaraeon eraill ei logi hefyd. Bydd modd i ysgolion a'r gymuned ehangach ddefnyddio'r cyfleuster.

Mae'r cae yn cael ei ddefnyddio llawer gan y gymuned yn barod ac mae'r ysgol yn ei ddefnyddio bob dydd. Bydd disgyblion iau hefyd yn elwa ar y cyfleuster yma gan y bydd Ysgol Afon Wen yn dod yn ysgol pob oed i ddisgyblion 3-16 oed ym mis Medi.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: “Mae'r cyfleuster hoci'n boblogaidd iawn yn barod, a bydd y prosiect yma'n darparu lle modern i’n clybiau hoci lleol, ysgolion, cymunedau a grwpiau chwaraeon eraill ei fwynhau. Rydyn ni'n ddiolchgar i Grŵp Cydweithredol Chwaraeon ar Gaeau, wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru, am ei fuddsoddiad yn y rhan bwysig yma o'r gymuned.”

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg: “Mae'r prosiect yma'n amserol wrth i Ysgol Uwchradd y Ddraenen-wen ddatblygu'n Ysgol Afon Wen i ddisgyblion 3-16 oed ym mis Medi. Gyda rhagor o ddisgyblion i ddefnyddio'r cae, bydd chwaraewyr hoci talentog lleol yn datblygu a bydd chwaraeon eraill yn y gymuned ehangach hefyd yn elwa ar y prosiect yma wedi'i ariannu'n rhannol gan Grŵp Cydweithredol Chwaraeon ar Gaeau Llywodraeth Cymru.”

Meddai Joe Gage, Cyfarwyddwr Datblygiad a Chyfranogiad Hoci Cymru: "Rydyn ni wrth ein boddau i weld y prosiect llwyddiannus trwy Grŵp Cydweithredol Chwaraeon ar Gaeau yn yr ysgol yn dwyn ffrwyth. Mae'r datblygiad newydd yma'n cryfhau cyfleoedd hoci yn RhCT ac yn sicrhau bod hoci yn hygyrch i bobl o bob oedran a demograffeg ei fwynhau. Gyda chymorth parhaus Clwb Hoci Cwm Rhondda, Clwb Hoci Llan Valleys a Chlwb Hoci Caerffili a RhCT, rydyn ni'n edrych ymlaen at weld twf hoci yn ein cymunedau, gan greu amgylchedd ffyniannus ar gyfer chwaraewyr presennol a chwaraewyr y dyfodol."

Yn ystod y cyfnod y bydd y cae hoci ar gau dros dro, bydd modd llogi'r cae astroturf yn Ysgol Gymuned Tonyrefail. Mae ceisiadau llogi gan y gymuned yn cael eu rheoli gan y Gwasanaethau Hamdden a dylech chi anfon unrhyw ymholiadau i ArchebuCaeChwaraeon@rctcbc.gov.uk.

Wedi ei bostio ar 10/09/24