Bydd y Cabinet yn trafod cynigion i ddiwygio'r ddarpariaeth gofal preswyl bresennol yn ardal Glynrhedynog a'r Ddraenen-wen a hynny er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yn bodloni’r galw am ofal preswyl ar hyn o bryd. Mae’r gwaith yn cael ei wneud yn rhan o raglen fuddsoddi sylweddol barhaus sy’n moderneiddio gofal preswyl yn Rhondda Cynon Taf.
Bydd adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ddydd Iau, 19 Medi, yn rhannu’r newyddion diweddaraf mewn perthynas â nifer y gwelyau gofal preswyl sydd ar gael ar hyn o bryd, yn ogystal ag amlinellu’r cynnydd sydd wedi’i wneud yn rhan o brosiectau i fuddsoddi mewn cyfleusterau gofal modern, gan gynnwys datblygu cyfleuster gofal dementia newydd sbon yn ardal Glynrhedynog.
Mae'r adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gychwyn ymgynghoriad mewn perthynas â datgomisiynu Cartrefi Gofal Cae Glas a Thŷ Glynrhedynog, a hynny er mwyn ymateb i’r gostyngiad yn y galw ar gyfer cartrefi gofal ‘traddodiadol’, mae mae dros traean o’r gwelyau sydd ar gael mewn cartrefi gofal y Cyngor yn wag ar hyn o bryd. Mae mwy o drigolion nag erioed eisiau parhau i fod yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain neu yn rhan o gyfleuster byw’n annibynnol wrth iddyn nhw fynd yn hŷn.
Mae'r adroddiad yn atgyfnerthu ymrwymiad y Cyngor i fuddsoddi mewn llety gofal newydd a modern yng Nghwm Rhondda Fach ond yn argymell bod hyn yn canolbwyntio ar ofal dementia, lle mae galw cynyddol am y gwasanaethau yma. O ganlyniad, ni fyddai'r ddarpariaeth Gofal Ychwanegol yn cael ei gyflawni yn rhan o'r datblygiad yma.
Mae gwaith yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i baratoi ar gyfer datblygu safle ffatri Chubb yn ardal Glynrhedynog., Mae angen cynnal gwaith dylunio a phrofion tir cychwynnol cyn dechrau ar y prif gynllun adeiladu (gan ddibynnu ar ganiatâd cynllunio).
Mae’r adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ddydd Iau yn cydnabod nad yw Cartref Gofal Tŷ Glynrhedynog yn bodloni'r safonau modern sydd eu hangen er mwyn darparu llety gofal o ansawdd uchel. Mae nifer fach o breswylwyr wedi aros yn y cartref dros gyfnod hir ac o ganlyniad dydy’r cartref ddim yn gynaliadwy o safbwynt ariannol mwyach. Mae'r adroddiad yn argymell y dylid cynnal ymgynghoriad wyth wythnos o hyd gyda phreswylwyr, eu teuluoedd, staff a rhanddeiliaid eraill mewn perthynas â’r cynnig i ddatgomisiynu'r cartref yn barhaol unwaith y bydd llety amgen addas wedi cael ei bennu ar gyfer y preswylwyr. Mae'n nodi y byddai pob preswylydd yn cael cyfle i symud yn ôl i'r cartref gofal newydd sbon yn ardal Glynrhedynog wedi iddo agor, gan ddibynnu ar eu hanghenion sydd wedi'u hasesu a'u dymuniadau bryd hynny.
Mae'r adroddiad yn cyflwyno cynnig mewn perthynas â Chartref Gofal Cae Glas yn y Ddraenen-wen. Dyw'r cartref yma ddim yn llawn a dydy’r cartref ddim yn gweithredu mewn modd cynaliadwy o safbwynt ariannol. Mae'r adroddiad hefyd yn argymell ymgynghoriad wyth wythnos o hyd gyda phreswylwyr, eu teuluoedd, staff a rhanddeiliaid eraill mewn perthynas â’r cynnig i ddatgomisiynu'r cartref yn barhaol unwaith y bydd llety amgen addas wedi cael ei ei bennu ar gyfer y preswylwyr.
Os caiff ei gytuno, byddai adborth o'r prosesau ymgynghori mewn perthynas â’r cynigion ar gyfer Cartref Gofal Tŷ Glynrhedynog a Chartref Gofal Cae Glas yn cael ei gasglu a'i gyflwyno yn rhan o adroddiad i'r Cabinet er mwyn ei ystyried yn rhan o unrhyw benderfyniad terfynol.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb i sicrhau bod ei wasanaethau gofal i oedolion yn ddigonol, o ansawdd da ac yn gynaliadwy. O ganlyniad, rhaid i ni adolygu'r ddarpariaeth yn barhaus er mwyn sicrhau bod y gofal a’r cymorth rydyn ni’n eu darparu yn parhau i fodloni anghenion pobl hŷn, a hynny wrth ymateb i newid yn y galw a heriau ariannol sylweddol yn y sector cyhoeddus. Ar hyn o bryd, mae dros traean o'r gwelyau gofal preswyl sydd ar gael yng nghartrefi gofal y Cyngor yn wag. Does dim modd i ni adael i hyn barhau neu ddirywio ymhellach.
"Mae'r galw yn symud i ffwrdd o 'gartrefi gofal' traddodiadol tuag at ofal seibiant, gofal cymhleth a chyfleusterau byw’n annibynnol â chymorth - ac mae ein hymrwymiad i foderneiddio ein darpariaeth yn adlewyrchu hyn. Rydyn ni wedi darparu llety Gofal Ychwanegol poblogaidd yn Aberaman a'r Graig, mae ein trydydd cynllun yn cael ei adeiladu yn ardal Porth ar hyn o bryd. Mae hyn ar ben y buddsoddiad gwerth £60 miliwn y cytunwyd arno i ddarparu gwelyau Gofal Ychwanegol a Gofal Dementia Preswyl yn ardal Glynrhedynog ac Aberpennar, a llety newydd ar gyfer oedolion gydag anableddau dysgu yn ardal Pentre'r Eglwys, mae’r gwaith yn rhan o’r cynlluniau yma eisoes wedi dechrau.
"Ddydd Iau, bydd modd i’r Cabinet gytuno i ddiwygio'r cynllun arfaethedig ar gyfer ardal Glynrhedynog i gynnwys cartref gofal dementia preswyl newydd sbon, yn dilyn argymhelliad gan swyddogion sy'n gweithio gyda'n partner tai. Mae'n bwysig nodi bod y Cyngor yn parhau i ymrwymo'n llawn i ddatblygu llety newydd yng Nghwm Rhondda Fach. Dylid nodi hefyd bod cynnydd wedi'i wneud yn rhan o’r cynllun ar hen safle ffatri ‘Chubb’ yn dilyn penodi partner dylunio a chynnal profion tir cychwynnol.
"Mae swyddogion wedi argymell cynigion pwysig hefyd mewn perthynas â Chartrefi Gofal presennol y Cyngor yn ardal Glynrhedynog a'r Ddraenen-wen - a hynny er mwyn ymateb i’r newid yn y galw, ac o ran sicrhau cynaliadwyedd ariannol y cartrefi. Rydyn ni'n effro iawn i’r ffaith bod ystyried newidiadau o'r math yma yn fater anodd a sensitif. Os bydd Aelodau yn cytuno i ddechrau ymgynghoriad mewn perthynas â'r newidiadau, byddwn ni'n cynnal 'cyfnod gwrando' er mwyn sicrhau bod defnyddwyr y gwasanaeth, eu teuluoedd, staff a rhanddeiliaid eraill yn cael cyfle i ddweud eu dweud yn llawn, er mwyn llywio penderfyniad terfynol yn y dyfodol."
Byddai preswylwyr a'u teuluoedd yn derbyn cymorth er mwyn sicrhau bod modd iddyn nhw gymryd rhan yn yr ymgynghoriad yn llawn ac i sicrhau eu bod nhw’n deall goblygiadau'r newidiadau arfaethedig a sut y byddai hynny'n effeithio arnyn nhw. Byddai’r broses yn ymgysylltu â staff a rhanddeiliaid eraill hefyd. Bydd y Cyngor yn ystyried cyfleoedd i adleoli staff yn unol â'r prosesau sydd eisoes wedi’u sefydlu, a hynny oherwydd effaith bosibl y cynigion ar staff.
Byddai lleihau nifer y gwelyau gwag yn Nghartrefi Gofal Preswyl i Oedolion y Cyngor drwy gyflwyno’r newidiadau arfaethedig yn cynhyrchu arbediad refeniw amcangyfrifedig gwerth oddeutu £2 filiwn y flwyddyn, gan barhau i ddarparu gwelyau gofal sy'n bodloni'r galw.
Wedi ei bostio ar 12/09/2024