Skip to main content

Dathlu ailagor lleoliad hanesyddol y Muni

Muni - grid

Mae Pontypridd wedi nodi ailagor y Muni gydag achlysur o amrywiaeth eang nos Sadwrn oedd yn dathlu ystod o ddoniau cerddorol lleol, gan agor y llen ar ddyfodol cyffrous y lleoliad.

Cafodd achlysur 'Ponty LIVE!' ei gynnal ar 14 Medi gan groesawu cerddorion lleol i brif lwyfan yr awditoriwm, wrth i'r Muni gynnal ei achlysur swyddogol cyntaf ers i'r Cyngor ac Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen gynnal gwaith ailddatblygu gwerth £6 miliwn. Cafodd y lleoliad ei ddefnyddio yn un o safleoedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym mis Awst 2024, ac mae bellach wedi ailagor yn gyfan gwbl am y tro cyntaf mewn dros bum mlynedd, a hynny dan reolaeth Awen.

Cafodd yr adeilad hanesyddol o'r 1890au ei adeiladu'n wreiddiol yn Gapel Wesleaidd cyn dod yn lleoliad rhanbarthol poblogaidd ar gyfer y celfyddydau a cherddoriaeth. Mae wedi'i adnewyddu'n sylweddol dros y misoedd diwethaf, gan gynnwys tu allan yr adeilad ynghyd â'r awditoriwm, ardal y bar, y cyntedd, y lledlawr a'r ystafelloedd ategol. Mae nodweddion Gothig gwreiddiol yr adeilad rhestredig wedi'u hadfer a'u harddangos yn falch yn rhan o'r gwaith ailddatblygu.

Cafodd achlysur dydd Sadwrn ei arwain gan Vern Griffiths o Bontypridd, wrth i'r awditoriwm llawn fwynhau cerddoriaeth byw gan berfformwyr amatur a phroffesiynol – corau, perfformwyr di-gyfeiliant, cantorion sioe gerdd a chanwr-gyfansoddwyr. Cafwyd perfformiadau gan The People The Poet, Hazel & Grey, SOW Acapella, Bethan Nia, Tom Jenkins, Jamie B Sings, Project Prosper, Côr Cymunedol Pontypridd, Choirs for Good, Cwmni Theatr Pontypridd a Chôr Meibion Pontypridd.

Roedd nifer o Aelodau o Gabinet y Cyngor wedi mynychu achlysur ailagor Y Muni i gefnogi Y Muni ac Awen – gan gynnwys Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Maureen Webber, y Cynghorydd Ann Crimmings, a’r Cynghorydd Tina Leyshon (sydd i'w gweld yn y llun gyda Phrif Weithredwr Awen, Richard Hughes).

Roedd ailddatblygiad y Muni wedi cael ei gwblhau gan ddefnyddio cyllid gwerth dros £5.3 miliwn o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, yn ogystal â chyfraniadau gan y Cyngor, Awen a Llywodraeth Cymru sy'n golygu mai £6 miliwn oedd cyfanswm y buddsoddiad.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Datblygu a Ffyniant: "Mae ailddatblygiad syfrdanol y Muni wedi adfywio'r tirnod yma ym Mhontypridd, ac roedd yn hyfryd cael gweld yr adeilad yn dod yn ôl i ddefnydd yn lleoliad i gynnal achlysuron byw. Rydyn ni'n falch iawn o sut mae nodweddion hanesyddol yr adeilad Gothig wedi cael eu hadfer a'u gwella. Mae cyfleusterau modern wedi cael eu gosod drwy'r adeilad – yn benodol yn ardaloedd yr awditoriwm, y bar a'r lledlawr.

"Y Muni yw'r prosiect adfywio diweddaraf i gael ei ddarparu yng nghanol tref Pontypridd – ynghyd â Llys Cadwyn, YMa, Cwrt yr Orsaf a hen safle'r Neuadd Bingo. Mae amserlen achlysuron amrywiol wedi'i gynllunio yn y Muni dros y misoedd nesaf. Bydden i'n annog trigolion sydd â diddordeb i alw heibio i brofi lleoliad mwyaf newydd Pontypridd yn un o adeiladau hynaf, mwyaf trawiadol y dref."

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: "Am noson wych yn llawn adloniant lleol er mwyn ailagor y Muni i'r cyhoedd yn swyddogol ym Mhontypridd! Mae'r prosiect ailddatblygu sylweddol wedi creu lleoliad gwych ar gyfer cerddoriaeth byw ac achlysuron sinema, ac wedi ailsefydlu'r tirnod poblogaidd yn hwb rhanbarthol ar gyfer y celfyddydau a diwylliant. Hoffai'r Cabinet cyfan ddiolch i bawb oedd ynghlwm â gwneud 'Ponty LIVE!' yn llwyddiant, yn enwedig y perfformwyr gwych a'r cyhoedd am alw heibio.

"Hoffwn i hefyd gydnabod gwaith ein partner, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen. Mae eu hymroddiad wedi sicrhau bod popeth yn ei le ar gyfer ailagor y Muni – ar gyfer yr Eisteddfod y mis diwethaf a'i dymor agoriadol prysur. Mae gydag Awen arbenigedd o ran cynnal lleoliadau hanesyddol o'r math yma mewn modd cynaliadwy, ac mae wedi sicrhau bod gyda'r Muni ddyfodol cyffrous a llewyrchus."

Meddai Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen: "Roedden ni'n teimlo ei fod yn bwysig i'r achlysur cyntaf oedd yn cael ei gynnal yn y Muni, dan ein harweinyddiaeth mewn partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf, fod yn adlewyrchiad a dathliad gwirioneddol o dalent amatur a phroffesiynol lleol. Mae'r Muni yn lleoliad cymunedol sy'n golygu llawer i nifer o bobl ac roeddwn i mor falch i weld y gynulleidfa yn mwynhau perfformiadau'r noson yn y lleoliad yma sydd wedi'i adnewyddu mewn modd hardd. Mae hefyd yn gyfle i ddiolch i'r Cyngor yn ffurfiol am eu partneriaeth â'r dull cydweithredol o ran gwireddu'r weledigaeth ar gyfer y lleoliad yma sy'n bwysig i'r rhanbarth."

‘Ponty LIVE!’ oedd achlysur agoriadol tymor agoriadol cyffrous y Muni, sy'n cynnwys rhaglen llawn cerddoriaeth, comedi ac achlysuron sinema. Mae gyda'r lleoliad le ar gyfer 300 o bobl yn eistedd neu 400 yn sefyll, yn ogystal â lle ar gyfer 120 o bobl mewn achlysuron arddull cabaret. I gael gwybod be' sy mlaen, ac i brynu tocynnau ar gyfer achlysuron, ewch i wefan swyddogol y Muni: www.y-muni.co.uk.

Wedi ei bostio ar 16/09/2024