Skip to main content

Cyfleuster meithrin newydd ar gyfer ysgol ym mhentref Beddau'n rhan o gynllun gofal plant newydd

YGG Castellau grid - Copy

Mae dwy ystafell ddosbarth wedi cael eu hailwampio yn Ysgol Gynradd Gymraeg Castellau er mwyn creu uned Dosbarth Meithrin a Derbyn modern. Dyma ran gyntaf prosiect sydd ar waith at ddibenion gweithredu cyfleuster gofal plant Cymraeg lleol o'r ysgol yn ddiweddarach y tymor yma. 

Fe fydd yr ysgol Gymraeg yma ym mhentref Beddau'n cael budd yr uned Dosbarth Meithrin a Derbyn newydd o ddechrau blwyddyn academaidd 2024/25, sef y mis Medi yma. Mae hyn yn dilyn ailwampio dwy ystafell ddosbarth oedd yn bodoli eisoes dros yr haf, er mwyn creu man penodedig ar gyfer disgyblion ieuengaf yr ysgol. Yn yr uned newydd mae ardal sydd wedi cael cryn welliannau ac ynddi gyfleusterau modern, sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Mae'r gwaith sydd wedi'i wneud hyn yn hyn yn gam cyntaf buddsoddiad ehangach gwerth £1.5miliwn ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Mae'r sylw nawr yn troi at baratoi adeilad yr ysgol ar gyfer croesawu lleoliad gofal plant Cymraeg parhaol a phenodol, sef Cylch Meithrin Beddau.  Bydd y man lle'r oedd y dosbarth meithrin yn arfer bod yn dod yn rhan o'r cyfleuster newydd llawn-amser; bydd rhannau eraill y cyfleuster yn cael eu creu yn sgil gwaith ail-fodelu mannau eraill ac estyniad un llawr i adeilad yr ysgol.

Mae Ysgol Gynradd Cymraeg Castellau yn cynnig Meithrinfa rhan amser ar hyn o bryd mewn partneriaeth â'r Cylch Meithrin drwy gyfrwng gwasanaeth gofal plant, cofleidiol (wrap-around), bob prynhawn. Y bwriad o ran symud y gwasanaethau i un lleoliad ac ynddo ragor o le, yw annog y plant i deimlo’n rhan o'r ysgol erbyn y byddan nhw'n cyrraedd yr oedran statudol ar gyfer mynychu’r ysgol.

Mae disgwyl i'r gwaith ar yr estyniad sy'n ystafell ddosbarth newydd ddod i ben erbyn gwyliau hanner tymor yr Hydref. Bydd hyn yn caniatáu i Gylch Meithrin Beddau ei ddefnyddio o'r adeg honno ymlaen. Yn y man newydd bydd ystafelloedd cwbl hygyrch, toiledau wedi'u hailwampio ac ardaloedd chwarae allanol fydd wedi cael cryn welliannau. Mae'r estyniad wedi'i ddylunio i gynnwys ffynonellau ynni adnewyddadwy fel ynni'r haul a'r gwynt, a hefyd systemau cronni dŵr glaw.

Mae dwy elfen y cynllun yma – yr uned Dosbarth Meithrin a Derbyn newydd a'r man newydd ar gyfer gofal plant – yn bosib diolch i fuddsoddiad sylweddol o £1.5miliwn drwy Grant Cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar, Llywodraeth Cymru.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a'r Gymraeg: "Mae'r uned Dosbarth Meithrin a Derbyn sydd wedi'i chreu yn Ysgol Gynradd Gymraeg Castellau yn uwchraddiad ardderchog i ystafelloedd dosbarth blaenorol yr ysgol. Mae'n cydymffurfio â safonau modern yr unfed ganrif ar hugain rydyn ni'n parhau i'w rhoi ar waith ledled y Fwrdeistref Sirol trwy gyfrwng ein Rhaglen Moderneiddio Ysgolion a phrosiectau ar y cyd yn rhan o ystod Llywodraeth Cymru o raglenni buddsoddi.

"Rydw i'n hynod falch bod y cyfleuster newydd ym mhentref Beddau wedi ei gwblhau'n brydlon ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd newydd, gyda'r gwaith yn mynd rhagddo drwy gydol yr haf er mwyn creu'r amgylchedd dysgu ysgogiadol yma ar gyfer rhai o'n disgyblion ieuengaf.

"Mae'r gwaith ar baratoi lle ar gyfer Cylch Meithrin Beddau yn mynd rhagddo nawr, sef creu estyniad ar yr ysgol a chwblhau gweddill y gwaith ailfodelu er mwyn sefydlu'r cyfleuster gofal plant penodedig i'w ddefnyddio o fis Hydref ymlaen. Mae prosiectau buddsoddi sydd wedi'u targedu, fel y rhain, sydd at ddibenion cynnig rhagor o fynediad i feithrinfeydd Cymraeg, yn cydymffurfio â'r saith deilliant yn ein Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg uchelgeisiol dros 10 mlynedd.

"Mae gyda'r Cyngor hanes ardderchog o fuddsoddi mewn addysg Gymraeg. Cafodd cyfleusterau newydd at ddibenion creu rhagor o gapasiti yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr ac Ysgol Rhydywaun eu cwblhau yn 2022 er mwyn ateb y galw lleol roedden ni wedi'i nodi. Rydyn ni hefyd wrthi’n adeiladu ysgol newydd sbon ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn. Mae ysgol gynradd Gymraeg newydd o'r radd flaenaf – Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf – yn agor y mis Medi yma hefyd ac ynddi gyfleusterau ardderchog.

"Mae buddsoddiadau eraill diweddar wedi bod ym Maes y Blynyddoedd Cynnar, Cyfrwng Cymraeg. Mae ail-leoli'r cyfleuster sy'n bodoli eisoes yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn yn adeilad newydd yr ysgol yn rhan o'r gwaith yma – ynghyd â'r datblygiad cyffrous yn Ysgol Gynradd Gymraeg Castellau. Â'r garreg filltir gyntaf wedi'i chyrraedd ar y prosiect yma, rwy'n edrych ymlaen at weld yr elfen gofal plant yn datblygu yn yr wythnosau sydd i ddod.”

Wedi ei bostio ar 11/09/2024