Amrywiaeth a Chynhwysiant
A chithau'n weithiwr, gallwch chi ddisgwyl ymrwymiad gan yr Uwch Garfan Rheoli i ddarparu cyfleoedd cyfartal i bawb, lle mae pob aelod o staff yn teimlo eu bod nhw'n cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu cyflawni eu llawn botensial. Mae hyn yn cynnwys:
- Uwch Hyrwyddwr Amrywiaeth yr Uwch Garfan Rheoli sy'n hyrwyddo diwylliant cynhwysol mewn modd rhagweithiol.
- Ymagwedd dim goddefgarwch tuag at aflonyddu a gwahaniaethu.
- Y cyfle i fod yn aelod o rwydwaith staff sy'n darparu cymorth cyfoedion ac sy’n cyfrannu at newid sefydliadol o ran materion diwylliant.
Darllenwch ragor am ein hymrwymiad yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol (ar gael ym mis Ebrill 2024).
Mae gan ein Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant gynllun gweithredu Gwrth-hiliaeth ei hun, ac mae gan weithwyr sy'n gweithio mewn ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf fynediad at amrywiaeth o adnoddau er mwyn sicrhau bod dull Gwrth-hiliaeth yn cael ei hymgorffori yn rhan o ddiwylliant yr ysgol a'r cwricwlwm.