Rolau Arwain mewn Ysgolion

Mae Addysg yn un o brif flaenoriaethau'r awdurdod lleol. Mae Cynllun Strategol y Gyfarwyddiaeth Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant ar gyfer 2022-2025 yn nodi cyfeiriad ein Cyfarwyddiaeth am y 3 blynedd nesaf, gan amlinellu ein cenhadaeth, ein gweledigaeth a'n huchelgais ar gyfer ein hysgolion yn Rhondda Cynon Taf.

Ein cenhadaeth yw "sicrhau tegwch a rhagoriaeth mewn Addysg a gwell lles i bawb."

Ein gweledigaeth yw "Ysbrydoli a bod yn gefn i arweinyddiaeth ac ymarfer proffesiynol rhagorol, fel bod pob dysgwyr yn Rhondda Cynon Taf yn gwneud cynnydd da ac yn tyfu'n unigolyn uchelgeisiol, galluog, creadigol ac sy'n wybodus yn foesegol."

Rydyn ni'n ymdrechu i sicrhau bod pob disgybl yn y Fwrdeistref Sirol yn cael mynediad i ysgolion rhagorol a phrofiadau addysgol cadarnhaol a chyfoethog sy'n eu galluogi i gyflawni'r deilliannau addysgol gorau posibl yn unol â'u gallu. 

Rydyn ni wedi sefydlu partneriaethau cadarn rhwng yr awdurdod lleol, ein lleoliadau nas cynhelir, ysgolion ac unedau atgyfeirio dysgwyr trwy gydol y pandemig a'r cyfnod adfer. Mae'r partneriaethau yma'n gadarn gyda phob un yn rhannu'r un brwdfrydedd a'r un nod, sef sicrhau bod pob dysgwyr yn cael mynediad i brofiadau dysgu ac addysgu o'r ansawdd uchaf, fel bod modd iddyn nhw wneud cynnydd a thyfu i fod yn ddysgwyr gydol oes. Er mwyn cyflawni ein gweledigaeth, rydyn ni angen arweinyddiaeth arbennig ac ymarfer proffesiynol ar bob lefel yn y system. 

Mae'r awdurdod lleol yn buddsoddi'n drwm yn ein hysgolion. Mae ein Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu uchelgeisiol yn adeiladu’n llwyddiannus ar waith blaenorol i sicrhau bod ein dysgwyr yn ffynnu mewn amgylcheddau dysgu hygyrch ac ysgogol, a fydd yn eu paratoi ar gyfer bywyd mewn cymdeithas sy’n datblygu’n gyflym yn ddigidol ac sydd â chysylltiadau digidol. Mae ein rhaglen B and B gyfredol bron yn £300 miliwn ac mae’n un o’r rhaglenni buddsoddi mewn ysgolion mwyaf uchelgeisiol, os nad y buddsoddiad mwyaf uchelgeisiol, yng Nghymru.

Mae’r dirwedd addysgol yng Nghymru yn newid ac mae'n cyflwyno heriau wrth i ni fynd i’r afael ag effaith y pandemig, yr argyfwng costau byw a diwygiadau mawr i'r cwricwlwm a materion anghenion dysgu ychwanegol. Mae ein gweithlu’n cael ei werthfawrogi’n fawr ac yn cael ei ysgogi i gefnogi ein disgyblion i oresgyn rhwystrau i ddysgu ac ymgysylltu fel bod gyda nhw'r cyfle gorau i gyflawni llwyddiant academaidd. Mae gan ysgolion berthynas wych gyda'r awdurdod lleol ac maen nhw'n cael eu cefnogi'n dda er mwyn sicrhau gwelliannau i'r ysgol. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n ymdrechu i sicrhau ein bod ni'n creu diwylliant effeithiol o degwch a rhagoriaeth mewn addysg a disgwyliadau uchel i bawb. Mae datblygu polisïau ac arferion addysgegol effeithiol sy’n cefnogi dilyniant a datblygiad pob dysgwyr, gan gynnwys y rhai mwyaf agored i niwed, wedi bod yn ganolog i hyn. 

Datblygu arweinyddiaeth

Mae gyda ni ddiwylliant cryf o fuddsoddi yn natblygiad proffesiynol ein staff ac rydyn ni wedi ymrwymo i ‘dyfu ein harweinwyr ein hunain’. Amlygwyd ein rhaglenni arweinyddiaeth arloesol gan Estyn yn ein harolygiad ym mis Ionawr 2023 fel arfer orau a chawson ni ein gwahodd i ysgrifennu astudiaeth achos ar ein gwaith yn y maes yma, sydd ar gael ar wefan Estyn. Bwrw golwg ar Adroddiad arolygiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 2023.

Rydyn ni'n ofalus iawn wrth nodi a meithrin potensial mewn gweithwyr ac rydyn ni'n buddsoddi yn natblygiad ein gweithlu. Mae gyda staff sy’n dymuno cael swyddi rheoli fynediad at amrywiaeth o gyfleoedd dysgu strwythuredig gan gynnwys ystod eang o raglenni arweinyddiaeth, gan gynnwys ein Rhaglen i Ddarpar Arweinwyr.

Ers 2005, mae llawer o staff Addysgol wedi cymryd rhan yn ein rhaglenni arweinyddiaeth a'n prosiectau traws-gyfarwyddiaeth, sy'n cynnwys datblygu sgiliau hyfforddi a mentora ac ymgysylltu mewn prosiectau ymchwil ar y cyd.

Rhaglen i Ddarpar Arweinwyr

I ddatblygu a chefnogi ein staff i drosglwyddo i fod yn benaethiaid a'n uwch arweinwyr, mae’r awdurdod lleol yn darparu Rhaglen i Ddarpar Arweinwyr hynod effeithiol. Mae hyn wedi'i fodelu ar raglen uwch arweinyddiaeth sydd wedi'i hen sefydlu ar gyfer staff y Cyngor, ac mae'n seiliedig ar ymchwil ac yn canolbwyntio'n glir ar arweinyddiaeth ar waith. Mae'r rhaglen yma wedi helpu i gyflymu datblygiad personol a phroffesiynol, a thwf arweinwyr y dyfodol ar gyfer ysgolion yn Rhondda Cynon Taf.

Mae'r awdurdod lleol yn cefnogi datblygiad darpar arweinwyr ysgol yn dda. Maen nhw'n sicrhau bod yr arweinwyr canol ac uwch yn cael cynnig ystod eang o gyfleoedd i ddatblygu a gwella eu sgiliau arwain. Mae Rhaglen i Ddarpar Arweinwyr yr awdurdod lleol yn gryfder arbennig. Mae’r rhaglenni yma'n cael eu cynllunio a’u gwerthuso'n effeithiol i fodloni disgwyliadau ac anghenion darpar arweinwyr a chânt eu haddasu’n rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i’r diben, gyda dysgu a datblygu wedi’u cysylltu’n uniongyrchol â blaenoriaethau’r awdurdod lleol a blaenoriaethau Cenedlaethol.

Mae Rhaglen i Ddarpar Arweinwyr Rhondda Cynon Taf yn unigryw yn y modd y caiff ei dylunio a'i chyflwyno. Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio mewn ymateb i anghenion penodol y garfan ac yn seiliedig ar flaenoriaethau lleol a chenedlaethol. Mae wedi bod yn arbennig o lwyddiannus wrth hyrwyddo twf personol a phroffesiynol y rheiny a gymerodd ran. Mae wedi cefnogi’n effeithiol nid yn unig arweinwyr sydd newydd eu penodi, ond hefyd cynllunio olyniaeth uwch arweinwyr ym mhob ysgol yn Rhondda Cynon Taf am y degawd diwethaf.

Rhaglenni i Raddedigion a Phrentisiaethau

Mae'r awdurdod lleol hefyd yn gwneud defnydd cryf o raglenni prentisiaeth a graddedigion i ddatblygu gweithlu medrus iawn. Er enghraifft, mae'r Rhaglen i Raddedigion hynod lwyddiannus yn darparu lleoliad gwaith dwy flynedd a chyfleoedd strwythuredig i ddatblygu sgiliau rheoli mewn sefydliad deinamig ac amrywiol, ynghyd â Chymhwyster Lefel 4 Rheoli Prosiect.

Mae llawer o gyn-brentisiaid, graddedigion a hyfforddeion yn mynd rhagddynt i sicrhau rolau parhaol a swyddi arwain gyda'r awdurdod lleol.

Mae'r awdurdod lleol yn blaenoriaethu datblygiad proffesiynol lles staff awdurdodau lleol a staff ysgolion. Mae modd i chi gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd datblygu drwy glicio ar yr adran berthnasol ar ein tudalen we Gweithio mewn Ysgolion.

I gael gwybod a yw eich rôl berffaith yn aros amdanoch chi, chwiliwch am swyddi gwag yn ein hysgolion.