Rolau Cynorthwywyr Addysgu

Mae cynorthwywyr addysgu yn cynorthwyo gyda'r dysgu ac addysgu, a hynny dan gyfarwyddyd athro cymwysedig. Maen nhw'n gweithio yn ein hysgolion, sy'n cynnwys ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, ysgolion pop-oed, ysgolion arbennig, ysgolion cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg, ac unedau cyfeirio disgyblion.

Dyma swydd werth chweil sy’n dod â boddhad mawr. Mae gyda chynorthwywyr addysgu rôl allweddol yn ein hysgolion, gan gefnogi dysgu ac addysgu disgyblion dan eu gofal. Maen nhw'n helpu i gymell, annog a chefnogi disgyblion i gyflawni eu potensial. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, maen nhw'n cael eu cefnogi yn eu rôl ac mae gyda nhw fynediad at gyfleoedd dysgu a datblygu amrywiol trwy ein Consortiwm Canolbarth y De a Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant y Cyngor

Mae gyda ni rolau Cynorthwyydd Addysgu amrywiol, o Lefel 1 i 4. Mae lefel 4 yn gyfwerth â Chynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch. Mae gyda ni hefyd rolau Cynorthwywyr Addysgu Arbenigol.  Mae modd i rolau Cynorthwywyr Addysgu fod â lefelau gwahanol o gyfrifoldeb ac arbenigedd, a chaiff hyn ei adlewyrchu yn y cyflog a gynigir. Gall rolau tebyg hefyd fod â theitlau swyddi gwahanol, megis Anogwr Dysgu Academaidd, Hyfforddwr Codi Safonau, Hyfforddwr Cefnogi Ymddygiad, Hyfforddwr Cynnydd. Darllenwch y disgrifiad swydd neu cysylltwch â'r ysgol i gael gwybod rhagor.

I gael gwybod rhagor am wahanol rolau Cynorthwywyr Addysgu, cliciwch ar yr opsiynau isod:

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1

Fel arfer, mae staff yn gweithio dan gyfarwyddyd uniongyrchol staff addysgu/staff uwch, fel arfer yn yr ystafell ddosbarth gyda'r athro/athrawes, i gefnogi mynediad at ddysgu i ddisgyblion a darparu cefnogaeth gyffredinol i'r athro/athrawes wrth reoli disgyblion a'r ystafell ddosbarth.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2

Gweithio dan gyfarwyddyd/arweiniad staff addysgu/staff uwch i ymgymryd â rhaglenni gwaith/gofal/cefnogi, er mwyn hwyluso mynediad at ddysgu i ddisgyblion a darparu cefnogaeth i’r athro/athrawes wrth reoli disgyblion. Mae modd gwneud y gwaith yn yr ystafell ddosbarth neu y tu allan i'r brif ardal ddysgu.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3

Gweithio o dan arweiniad staff addysgu/uwch ac o fewn system oruchwylio y cytunwyd arni, i roi rhaglenni gwaith y cytunwyd arnyn nhw gydag unigolion/grwpiau ar waith, yn yr ystafell ddosbarth neu'r tu allan iddi. Gallai hyn gynnwys y rheiny sydd angen gwybodaeth fanwl ac arbenigol mewn meysydd penodol, a bydd yn cynnwys cynorthwyo'r Athro yn y cylch cynllunio cyfan a rheoli/paratoi adnoddau. Ar achlysuron, yn ystod absenoldeb tymor byr athrawon, efallai bydd staff hefyd yn goruchwylio dosbarthiadau. Y prif ffocws fydd cynnal trefn dda a chadw disgyblion ar dasg. Bydd angen i oruchwylwyr sy’n cyflenwi ymateb i gwestiynau a chynorthwyo disgyblion yn gyffredinol i ymgymryd â gweithgareddau sydd wedi’u gosod.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 4 (yn gyfwerth â Chynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch)

Mae gan Gynorthwywyr Addysgu sydd wedi ennill cymhwyster lefel 4 neu statws Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch gyfrifoldebau cynyddol. Mae modd i hyn gynnwys fod yn gyfrifol am ddosbarthiadau cyfan, arwain ar ymyriadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), rhannu gwybodaeth a phrofiad â chyd-weithwyr eraill. Maen nhw'n defnyddio eu harbenigedd i ddarparu'r cyfleoedd dysgu gorau i ddisgyblion. Yn aml, mae modd i rolau gynnwys meysydd arbenigedd penodol yn natblygiad dysgu a lles dysgwyr.

Bydd Cynorthwyydd Addysgu ar y lefel yma'n aml yn ategu gwaith proffesiynol athrawon drwy gymryd cyfrifoldeb am weithgareddau dysgu cytûn yn unol â system oruchwylio gytûn yr athro. Gall hyn gynnwys cynllunio, paratoi a chyflwyno gweithgareddau dysgu ar gyfer unigolion/grwpiau neu ar gyfer dosbarthiadau cyfan yn y tymor byr. Gall hefyd gynnwys monitro disgyblion ac asesu, cofnodi ac adrodd ar gyflawniad a datblygiad disgyblion. Yn gyfrifol am reoli a datblygu maes/meysydd arbenigol yn yr ysgol a/neu reoli cynorthwywyr addysgu eraill gan gynnwys dyrannu a monitro'u gwaith, eu harfarnu a'u hyfforddi.

Cynorthwywyr Addysgu a Chynorthwywyr Cynnal Dysgu Arbenigol

Bydd Cynorthwywyr Addysgu Arbenigol yn aml yn gweithio mewn lleoliadau arbenigol i gefnogi anghenion disgyblion ag anghenion mwy cymhleth. Bydd y rolau’n cynnwys arbenigedd manylach a hyfforddiant arbenigol yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol y disgybl, gweithio gydag unigolion, grwpiau bach a dosbarthiadau cyfan i arwain dysgu ac addysgu heb fod Athro yn bresennol. ​

Sut i ddod yn Gynorthwyydd Addysgu

Os oes gyda chi'r profiad a'r rhinweddau angenrheidiol i ddod yn Gynorthwyydd Addysgu, efallai na fydd angen cymhwyster ffurfiol arnoch chi i weithio fel Cynorthwyydd Addysgu mewn ysgol. Os yw ysgolion yn edrych ar gymhwyster neu arbenigedd penodol, caiff hyn ei nodi yn yr hysbysiad swydd neu'r disgrifiad swydd.

Mae sgiliau nodweddiadol rydyn ni'n edrych amdanyn nhw'n cynnwys:

  • Amynedd
  • Hyblygrwydd
  • Cydnerthedd
  • Sgiliau llythrennedd a rhifedd da
  • Ymrwymiad a brwdfrydedd tuag at weithio gyda phlant i'w helpu nhw i ddysgu a chyflawni
  • Tystiolaeth o feithrin perthnasoedd gweithio da gyda phlant ac oedolion (er enghraifft, gallai profiad o hyn gynnwys gwaith gwirfoddol, nid oes angen iddo ddod o gyflogaeth â thâl). 
  • Sgiliau cyfathrebu da

Os mai chi yw'r person cywir, rydyn ni'n cynnig hyfforddiant gyda'r opsiwn i ennill cymhwyster wrth i chi gyflawni eich rôl. Mae cymorth ar gael drwy'r ysgol, Cyngor Rhondda Cynon Taf a Chonsortiwm Canolbarth y De (CSC). Gweler yr adran nesaf ar gyfleoedd dysgu proffesiynol am ragor o wybodaeth. 

Os oeddech chi am ennill cymhwyster Cynorthwyydd Addysgu yn annibynnol, efallai y byddwch chi'n gymwys i gael hyfforddiant. Gallech chi gysylltu â darparwyr hyfforddiant addas megis Hen Felin Training sydd wedi'i leoli yn Rhondda Cynon Taf, neu Goleg y Cymoedd. Os ydych chi dal yn yr ysgol, siaradwch â'ch Arweinydd Gyrfaoedd am ba bynciau a chymwysterau y gallai fod eu hangen arnoch chi. 

Efallai y bydd modd i chi hefyd wirfoddoli yn ein hysgolion i gefnogi disgyblion a chael profiad gwerthfawr i ddod yn Gynorthwyydd Addysgu. Mae modd i chi gysylltu â'r ysgol yn uniongyrchol i gael gwybod am gyfleoedd gwirfoddoli.

Dysgu a Chyfleoedd Proffesiynol

Pan fyddwch chi'n gyflogedig, byddwch chi'n cael eich cefnogi trwy gydol eich gyrfa gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf. Mae ystod o gyfleoedd dysgu a datblygu proffesiynol ar gael i chi. Dysgwch ragor gan Gonsortiwm Canolbarth y De. Gallai rôl Cynorthwyydd Addysgu hefyd fod yn gam tuag at rolau eraill ym myd addysg, megis Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch neu Athro cymwysedig. 

Cynorthwywyr Addysgu - Consortiwm Canolbarth y De (cscjes.org.uk)

P'un a ydych chi'n newydd i'r rôl, wedi bod yn y rôl am ychydig o flynyddoedd, neu â phrofiad sylweddol, bydd pob cynorthwyydd addysgu yn darganfod rhywbeth sy'n berthnasol i'w sefyllfa unigol.

 Mae cyfleoedd datblygu ar gael ar gyfer:

  • Cynorthwywyr Addysgu sydd newydd eu penodi 
  • Cynorthwywyr Addysgu sy'n Ymarfer (ar gyfer cynorthwywyr addysgu gyda dros 2 flynedd o brofiad)

Mae modd i gynorthwywyr addysgu hefyd gael mynediad at hyfforddiant a mentora a gweithio tuag at y cyfleoedd canlynol:

  • Cynorthwywyr Addysgu Arbenigol
  • Rolau o fewn Consortiwm Canolbarth y De e.e. hwyluso dysgu proffesiynol cynorthwywyr addysgu, aseswr Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch
  • Darpar Gynorthwyydd Addysgu (Lefel 4)/ Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch

Y Gymraeg

Os ydych chi eisoes yn cael eich cyflogi gennym ni ac eisiau dysgu Cymraeg neu adnewyddu eich sgiliau presennol, byddwn ni'n eich cefnogi chi gyda hyn. Mae modd i chi hefyd gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd datblygu ar wefannau Consortiwm Canolbarth y De a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Ysgolion cyfrwng Cymraeg

Cael gwybod rhagor pe hoffech chi weithio mewn ysgol cyfrwng Cymraeg.

Fel awdurdod lleol, rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu ein darpariaeth Gymraeg ymhellach ac rydyn ni'n gweithio gyda phartneriaid i gynyddu nifer yr Athrawon, Cynorthwywyr Addysgu ac Arweinwyr yn y sector cyfrwng Cymraeg.

Ysgolion Arbennig

Ar hyn o bryd mae gyda Rhondda Cynon Taf bedair ysgol arbennig a dwy Uned Cyfeirio Disgyblion (cynradd ac uwchradd), ac mae pob un ohonyn nhw'n gweithio’n effeithiol ac ar y cyd â’r Gwasanaethau Mynediad a Chynhwysiant er mwyn sicrhau bod plant sydd â’r Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) mwyaf arwyddocaol a chymhleth yn cael mynediad at gyfleoedd addysgu a dysgu eithriadol.

Rydyn ni'n ceisio recriwtio staff sydd ag egni, creadigrwydd ac angerdd dros addysgu a dysgu i ddod yn rhan o’n Cymuned Anghenion Dysgu Ychwanegol ac rydyn ni'n awyddus i recriwtio’r ymgeiswyr gorau ar gyfer y rôl ac i gefnogi staff i ddatblygu a ffynnu yn eu rôl.

Buddion eraill

A chithau'n gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf, rydych chi hefyd yn cael buddion eraill, megis:

  • Cefnogaeth iechyd a lles gyda mynediad at ein Huned Iechyd a Lles Galwedigaethol ein hunain, lle cynigir cyngor a chefnogaeth megis gwasanaethau Cwnsela, Nyrsys a Ffisiotherapydd
  • Gostyngiadau Ffordd o Fyw trwy ein cerdyn prisiau gostyngol Vectis, y mae modd ei ddefnyddio i arbed arian ar nwyddau, gwyliau, bwyta allan a llawer yn rhagor gan rai o frandiau mwyaf y DU!
  • Aelodaeth gampfa am bris gostyngol ar gyfer canolfannau hamdden sy'n eiddo i Gyngor Rhondda Cynon Taf
  • Cymorth llesiant ariannol, megis cyngor a benthyciadau a ddidynnwyd o gyflog os ydych chi'n gymwys
  • Cynllun Pensiwn
I gael gwybod a yw eich rôl berffaith yn aros amdanoch chi, chwiliwch am swyddi gwag yn ein hysgolion.