Staff Arlwyo Ysgolion Cyngor Rhondda Cynon Taf

Mae ein carfanau yn y Gwasanaethau Arlwyo yn hanfodol i weithrediad dyddiol ysgolion ledled y Fwrdeistref ac yn cynnwys amrywiaeth o rolau, sydd wedi'u rhestru isod.

Rydyn ni'n ymdrechu i ddarparu gwasanaeth cyfeillgar a chroesawgar, wrth ddarparu prydau iach wedi'u gwneud gan ddefnyddio cynnyrch ffres a lleol, ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn Rhondda Cynon Taf.

Mae ymuno â'n carfanau arlwyo ysgolion yn gyfle delfrydol i rywun sy'n chwilio am rôl leol sy'n rhoi boddhad. Dewch yn rhan o garfan sy'n ymroddedig i gefnogi lles, twf a datblygiad plant a phobl ifainc yn ein cymunedau a'u gwylio'n tyfu.

Mae ein rolau'n cynnwys:

  • Cynorthwyydd yr Ystafell Fwyta
  • Uwch Gynorthwyydd yr Ystafell Fwyta
  • Cynorthwyydd Cegin Cyffredinol – Clwb Brecwast
  • Cynorthwyydd Cegin Cyffredinol
  • Cogydd Cynorthwyol
  • Cogydd
  • Prif Gogydd
  • Rheolwr Gwasanaethau Arlwyo

Mae oriau gwaith yn seiliedig ar weithio o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod y tymor yn unig, ac maen nhw'n amrywio yn ôl y rôl a'r safle. Er enghraifft, mae angen Staff Clwb Brecwast cyn 9.00am, tra bod angen Cynorthwywyr Cegin Cyffredinol ganol bore/amser cinio. Rydyn ni hefyd yn anelu at eich lleoli yn eich ysgol agosaf er mwyn sicrhau nad yw cludiant yn broblem. Byddwch chi'n cael cefnogaeth lawn i gwblhau hyfforddiant Diogelwch Bwyd/Iechyd a Diogelwch a lle bo angen, byddwch chi'n cael gwisg.

Ochr yn ochr â swyddi oriau gwaith contract, mae gyda ni hefyd rolau achlysurol ar gael sy'n eich galluogi chi i fwynhau hyblygrwydd gwaith achlysurol gyda buddion cyflogaeth y Cyngor, a amlinellir isod.

Buddion Gweithio i Wasanaethau Arlwyo yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf

Gweithiwch i Wasanaethau Arlwyo Rhondda Cynon Taf a derbyn y buddion canlynol:

  • Manteisio ar ein cynllun pensiwn hynod gystadleuol
  • 26 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata) yn codi i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth Telir y lwfans gwyliau blynyddol yn rhan o'ch cyflog gan y bydd angen gweithwyr am 38/39 wythnos o'r flwyddyn yn dibynnu ar y rôl.
  • Cynlluniau buddion a gostyngiadau staff, gan gynnwys prydau allan, contractau ffonau symudol a cherbydau, cynllun beicio i'r gwaith.
  • Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n gynhwysol sy'n caniatáu hyblygrwydd pan fo angen 
  • Cymorth a chyngor rhad ac am ddim  gan gynnwys gwasanaeth cwnsela, cadw golwg ar iechyd, gwasanaeth nyrsio a ffisiotherapi
  • Cyfleoedd dysgu a datblygu yn ymwneud â'r rôl

Llwybrau i Rolau, Hyfforddiant a Dilyniant Arlwyo

Mae cyfleoedd o fewn y Gwasanaethau Arlwyo ar gyfer datblygiad a dilyniant personol. Rydyn ni'n darparu hyfforddiant llawn ac yn cynnig rhaglen cam-i-fyny i ennill mwy o brofiad. Er enghraifft, os hoffai Cynorthwyydd Cegin Cyffredinol ddod yn Gogydd Cynorthwyol; gellir darparu hyfforddiant yn y swydd, ynghyd ag unrhyw gyrsiau hyfforddi perthnasol sydd eu hangen i gyflawni'r rôl. Rydyn ni'n gweithio’n agos gyda Choleg y Cymoedd ac yn cynnig cymwysterau NVQ mewn Lletygarwch ac Arlwyo.

Y nodweddion sydd eu hangen i fod yn llwyddiannus mewn rôl Arlwyo yw ymroddiad a dibynadwyedd, sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da, gwybodaeth am brosesau diogelwch a hylendid bwyd a'r gallu i weithio mewn carfan brysur.

Cynllun Prentisiaeth

Mae cyfleoedd i ymuno â’r garfan arlwyo canolog fel prentis i ddarparu cymorth gweinyddol i garfanau arlwyo a hyfforddi’r ysgol, gan ymgymryd â rôl amrywiol a diddorol. Cael gwybod rhagor am Gynllun Prentisiaeth y Cyngor. 

Manylion Cyswllt

Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau neu os hoffech chi gael gwybod rhagor am ein rolau neu eich addasrwydd ar gyfer gyrfa yn y Gwasanaethau Arlwyo, cysylltwch â ni drwy:

E-bost: gwasanaethauarlwyo@rctcbc.gov.uk 

Rhif ffôn: 01443 281141

I gael gwybod a yw eich rôl berffaith yn aros amdanoch chi, chwiliwch am swyddi gwag yn ein hysgolion.