Rolau Addysgu a Llwybrau i Addysgu

Fel awdurdod lleol, ein pwrpas craidd yw sicrhau bod gan bob disgybl yn Rhondda Cynon Taf fynediad at ysgolion rhagorol a phrofiadau addysgol cadarnhaol a chyfoethog, sy'n eu galluogi nhw i gyflawni'r deilliannau gorau posibl yn unol â'u gallu. 

Ein cenhadaeth yw: 'Cyflawni tegwch a rhagoriaeth mewn addysg a lles gwell i bawb'.  Mae ein Cynllun Strategol yma ar gyfer 2022-2025 yn nodi'r cyfeiriad ar gyfer Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant am y 3 blynedd nesaf, gan amlinellu ei chenhadaeth, ei gweledigaeth a'i huchelgais ar gyfer ein hysgolion yn Rhondda Cynon Taf.

Rydyn ni'n falch o safon uchel y ddarpariaeth addysg sydd ar gael yn ein hysgolion a'r perthnasoedd rhagorol sy'n bodoli ar draws y system addysg leol. Mae gyda ni 115 o ysgolion:

  • 77 Ysgol Gynradd cyfrwng Saesneg
  • 13 Ysgol Gynradd cyfrwng Cymraeg
  • 2 Ysgol Gynradd dwy iaith
  • 3 Ysgol Gydol Oes cyfrwng Saesneg  
  • 2 Ysgol Gydol Oes cyfrwng Cymraeg
  • 10 Ysgol Uwchradd cyfrwng Saesneg
  • 2 Ysgol Uwchradd cyfrwng Cymraeg
  • 4 Ysgol Arbennig, a  
  • 2 Uned Cyfeirio Disgyblion 

I adeiladu ar y deilliannau cadarnhaol a gyflawnwyd yn ein hysgolion, rydyn ni angen pobl eithriadol i gefnogi ac ysbrydoli ein dysgwyr i gyflawni eu huchelgeisiau a'u dyheadau. Os hoffech chi elwa ar wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau ein plant a'n pobl ifainc, eu teuluoedd a'u cymunedau, yna hoffen ni glywed gennych chi. Yn gyfnewid am hyn, byddwch chi'n derbyn cefnogaeth ardderchog, cyfleoedd dilyniant a nifer o fuddion staff gan Gyngor blaengar ac arloesol.  

Os ydych chi'n athro newydd sydd eisiau dechrau eich cyfnod sefydlu fel athro newydd sydd newydd gymhwyso yma yng Nghymru, yna dewch i weithio yn un o'n 115 o ysgolion yn Rhondda Cynon Taf. Mae traddodiad cryf o weithio clwstwr yn ein hawdurdod lleol a chefnogaeth bersonol a phroffesiynol ardderchog i ddatblygu er mwyn bod yr athro gorau y gallwch chi fod. Mae cyfleoedd di-ben-draw i gefnogi staff cymorth weithio mewn lleoliadau gofal plant, yn y feithrinfa, mewn ysgolion prif ffrwd ac ysgolion arbennig. 

Mae ein hysgolion a gweithwyr addysg proffesiynol yn cael eu cefnogi'n dda gan yr awdurdod lleol a'r gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol, Consortiwm Canolbarth y De (CSC). Mae gwaith partneriaeth effeithiol yn sail i bob agwedd ar ein gwaith ar draws y sector, ac mae hyn yn cynnwys plant a phobl ifainc, rhieni, y gweithlu addysgol, yr awdurdod lleol a Chonsortiwm Canolbarth y De, er mwyn sicrhau bod y pedwar diben yn cael eu hyrwyddo ym mhob agwedd ar fywyd ysgol y sir. Gan weithio'n agos gyda'r partneriaethau athrawon addysg gynnar, rydyn ni'n sicrhau bod y broses bontio o fod yn hyfforddai i fod yn athro sydd newydd gymhwyso yn gefnogol, yn effeithiol ac yn darparu profiadau gwerthfawr ac addysgiadol i bawb.

Cyfleoedd datblygu a gyrfaol

Mae ysgolion Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd datblygu, dilyniant gyrfa a chydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith i'w gweithwyr. Mae datblygiad proffesiynol yn parhau trwy gydol eich gyrfa addysgu gan fod llawer o wahanol elfennau yn ymwneud â chyflwyno addysg yn ein hysgolion, felly bydd digon o gyfleoedd i chi ymgymryd â chyfrifoldebau newydd, wrth ehangu eich set sgiliau a mwynhau heriau a phrofiadau newydd.

Mae modd i Gonsortiwm Canolbarth y De hefyd eich helpu chi gyda:

  • Cefnogaeth o Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) a dod yn Athro sydd Newydd Gymhwyso (ANG), i ddatblygiad gyrfa ar bob cam, gan gynnwys arweinyddiaeth ganol ac uwch, swydd prifathro a thu hwnt.
  • Cynnig dysgu proffesiynol helaeth i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am feysydd diwygio allweddol, megis y Cwricwlwm newydd i Gymru, i ddatblygu eich ymarfer a gwella eich rhagolygon gyrfa yn y dyfodol.
  • Cyfleoedd i gydweithio a rhannu arfer da ag ymarferwyr eraill ledled yr ardal, a hynny'n rhan o'n system ysgol hunan-wella, sef yr Her Canol De Cymru
  • Dysgu proffesiynol i gefnogi eich datblygiad a’ch sgiliau Cymraeg eich hun

Dod yn Athro Cymwysedig

I ddod yn athro ysgol ac addysgu mewn ysgol a gynhelir yn Rhondda Cynon Taf, rhaid i chi feddu ar Statws Athro Cymwysedig addysg gynradd neu uwchradd. Mae hyn yn golygu cwblhau rhaglen Addysg Gychwynnol i Athrawon. 

Mae ystod o ffyrdd i ddechrau eich gyrfa addysgu a bydd Addysgwyr Cymru yn eich helpu chi i archwilio sut beth yw addysgu a pha lwybrau sydd ar gael. Mae modd i chi hefyd gysylltu â nhw am ragor o wybodaeth drwy e-bostio gwybodaeth@addysgwyr.cymru . Nodwch fod y gofynion mynediad wedi’u gostwng yn ddiweddar i radd C mewn Saesneg, Cymraeg a Mathemateg er mwyn galluogi mwy o bobl i ymuno â’r proffesiwn addysgu. 

Mae gwahanol lwybrau hyfforddi i fodloni eich gofynion, gan gynnwys opsiynau amser llawn, rhan amser ac opsiynau â chyflog. Efallai y byddwch chi hefyd yn gymwys i gael cymorth ariannol i astudio, megis grant. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefannau Addysgwyr Cymru a Llywodraeth Cymru.

Unwaith i chi ennill eich Cymhwyster Statws Cymwysedig, bydd angen i chi gwblhau cyfnod sefydlu. Mae gan Lywodraeth Cymru ran benodol ar sianel YouTube Addysg Cymru ar gyfer ymgyrch Addysgu Cymru, sy’n darparu rhagor o wybodaeth.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch eich ymholiad at:  Cyfarwyddwr.Addysg@rctcbc.gov.uk

Y Gymraeg

Os ydych chi eisoes yn cael eich cyflogi gennym ni ac eisiau dysgu Cymraeg neu adnewyddu eich sgiliau presennol, byddwn ni'n eich cefnogi chi gyda hyn. Mae modd i chi hefyd gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd datblygu ar wefannau Consortiwm Canolbarth y De a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Ysgolion cyfrwng Cymraeg

Cael gwybod rhagor pe hoffech chi weithio mewn ysgol cyfrwng Cymraeg.

Fel awdurdod lleol, rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu ein darpariaeth Gymraeg ymhellach ac rydyn ni'n gweithio gyda phartneriaid i gynyddu nifer yr Athrawon, Cynorthwywyr Addysgu ac Arweinwyr yn y sector cyfrwng Cymraeg.

Ysgolion Arbennig

Ar hyn o bryd mae gyda Rhondda Cynon Taf bedair ysgol arbennig a dwy Uned Cyfeirio Disgyblion (cynradd ac uwchradd), ac mae pob un ohonyn nhw'n gweithio’n effeithiol ac ar y cyd â’r Gwasanaethau Mynediad a Chynhwysiant er mwyn sicrhau bod plant sydd â’r Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) mwyaf arwyddocaol a chymhleth yn cael mynediad at gyfleoedd addysgu a dysgu eithriadol.

Rydyn ni'n ceisio recriwtio staff sydd ag egni, creadigrwydd ac angerdd dros addysgu a dysgu i ddod yn rhan o’n Cymuned Anghenion Dysgu Ychwanegol ac rydyn ni'n awyddus i recriwtio’r ymgeiswyr gorau ar gyfer y rôl ac i gefnogi staff i ddatblygu a ffynnu yn eu rôl.

Buddion eraill

A chithau'n gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf, rydych chi hefyd yn cael buddion eraill, megis:

  • Cefnogaeth iechyd a lles gyda mynediad at ein Huned Iechyd a Lles Galwedigaethol ein hunain, lle cynigir cyngor a chefnogaeth megis gwasanaethau Cwnsela, Nyrsys a Ffisiotherapydd
  • Gostyngiadau Ffordd o Fyw trwy ein cerdyn prisiau gostyngol Vectis, y mae modd ei ddefnyddio i arbed arian ar nwyddau, gwyliau, bwyta allan a llawer yn rhagor gan rai o frandiau mwyaf y DU!
  • Aelodaeth gampfa am bris gostyngol ar gyfer canolfannau hamdden sy'n eiddo i Gyngor Rhondda Cynon Taf
  • Cymorth llesiant ariannol, megis cyngor a benthyciadau a ddidynnwyd o gyflog os ydych chi'n gymwys
  • Cynllun Pensiwn
I gael gwybod a yw eich rôl berffaith yn aros amdanoch chi, chwiliwch am swyddi gwag yn ein hysgolion.