Gofal Cymdeithasol a Gwaith Cymdeithasol

Ni fu erioed amser gwell i ystyried rôl ym maes Gofal Cymdeithasol. Gan fod gwasanaethau’n edrych i’r dyfodol ac yn datblygu yn dilyn y Pandemig, pan wnaethon ni barhau i ddarparu gwasanaethau rhagorol.

Mae rhoi cymorth i eraill drwy weithio ym maes gofal cymdeithasol yn gallu gwneud gwahaniaeth cadarnhaol iawn i fywydau llawer o bobl. Os hoffech chi ddilyn gyrfa mewn gwaith cymdeithasol neu waith gofal, mae llawer o gyfleoedd yma yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf. O weithio fel cynorthwyydd gofal yn un o'n cartrefi gofal preswyl i weithio fel gweithiwr cymdeithasol, neu arwain a datblygu gwasanaethau, byddwch chi'n gallu darparu cymorth i grŵp penodol o bobl, yn oedolion o unrhyw oedran, neu blant a'u teuluoedd, a fydd yn elwa o'ch profiad, gwybodaeth a sgiliau.

Sut beth yw gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol?

Mae modd i chi ddisgwyl gyrfa werth chweil; ni fydd dau ddiwrnod yr un fath wrth i chi ganolbwyntio ar helpu unigolion a'ch cymuned gyfan. Mae modd i chi weithio mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys cartrefi gofal, cartrefi pobl, canolfannau cymunedol, llochesi i'r digartref a llawer mwy. Byddwch chi'n cael y cyfle i feithrin perthynas â defnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd a gweithio tuag at gyflawni’r newidiadau sydd o bwys iddyn nhw. Byddwch chi bob amser yn gweithio ochr yn ochr â rhwydwaith o weithwyr proffesiynol eraill fel gweithwyr iechyd proffesiynol, arbenigwyr mewn camddefnyddio sylweddau, a therapyddion, athrawon, yr Heddlu a chynhalwyr.

Rydyn ni'n anelu at ofalu amdanoch chi fel unigolyn hefyd. Mae rhwydwaith cryf a chefnogol yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf lle mae modd i chi ddisgwyl goruchwyliaeth ragorol i sicrhau eich bod chi'n teimlo eich bod chi'n cael eich gwerthfawrogi, yn meddu ar y sgiliau cywir, yn rhan o dîm ac yn gyfforddus yn eich rôl.

Swyddi ym maes Gofal Cymdeithasol gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf

Yma yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf, rydyn ni'n cynnig ystod eang iawn o swyddi ym maes gofal cymdeithasol. Mae rhai swyddi yn gofyn am gymwysterau a phrofiad penodol, bydd eraill yn tynnu ar eich gwerthoedd a'ch cymhelliant unigol i gynnig y gofal a'r cymorth gorau i bobl. Byddwn yn darparu ystod gynhwysfawr o hyfforddiant i chi fel bod modd i chi gael cyflog a dysgu ar yr un pryd.

Dyma rai enghreifftiau o swyddi ym maes gofal cymdeithasol.

  • Rolau Proffesiynol Rheoledig (Gweithiwr Cymdeithasol a Therapydd Galwedigaethol)

A chithau'n weithiwr proffesiynol rheoledig, bydd angen i chi gofrestru â chorff a reoleiddir. Bydd angen cymhwyster perthnasol arnoch chi i wneud cais am y swyddi yma.

  • Rolau gofal uniongyrchol (gweithiwr gweithgareddau, gweithiwr gofal, gweithiwr adsefydlu ac ati)
  • Swyddi rheoli (arweinydd carfan, goruchwyliwr neu reolwr)
  • Swyddi Ategol (cogydd neu gynorthwy-ydd cegin, gofalwr tŷ, gyrrwr)

Pam dewis gyrfa ym maes Gofal Cymdeithasol gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf?

Yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf, mae gennyn ni nifer o gyfleoedd i chi ddatblygu eich gyrfa ym maes gofal cymdeithasol.

A wyddech chi fod modd i chi ddechrau eich gyrfa ym maes gofal cymdeithasol heb unrhyw gymwysterau ffurfiol, oherwydd yn Rhondda Cynon Taf mae modd i chi ennill arian wrth ddysgu? Rydyn ni'n cynnig:

  • Cwrs sefydlu cynhwysfawr a fydd yn rhoi'r hyder i chi gyflawni eich rôl;
  • Amrywiaeth o gyrsiau Iechyd a Diogelwch sy'n bodloni safonau Pasbort Cymru Gyfan;
  • Dewislen helaeth o hyfforddiant parhaus a fydd yn eich cynorthwyo wrth barhau â'ch datblygiad proffesiynol a datblygu eich gyrfa yn RhCT;
  • Mynediad at gymwysterau sy'n ofynnol ar gyfer rhai rolau ac a fydd yn arwain at allu i ymuno â chofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru;
  • Cyfleoedd sy'n cefnogi anghenion arbenigol er enghraifft: dementia, anabledd dysgu, iechyd meddwl;
  • Cymorth i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a chael eich ffioedd wedi’u talu;
  • Cymorth i ddiwallu’ch anghenion gyrfa fel unigolyn;
  • Mae’r Uned Iechyd Galwedigaethol yn cynnig ystod o wasanaethau iechyd megis ffisiotherapi, cwnsela cyfrinachol a mentrau iechyd cyffredinol fel y pigiad ffliw, cymorth iechyd meddwl a rhagor. 

Mae llawer o fanteision eraill hefyd o weithio i Gyngor RhCT, gweler ein tudalen buddion staff am ragor o wybodaeth. 

Nawdd Mewnol a Chyfleoedd Datblygu i Weithwyr Cymdeithasol:

Rydyn ni'n credu’n gryf mewn ‘tyfu ein gweithwyr cymdeithasol ein hunain’.  Rydyn ni'n cynnig rhaglen noddi cymhwysterau gwaith cymdeithasol hynod ddeniadol a chystadleuol. Mae hyn ar gael i'n staff mewnol. Mae angen profiad perthnasol, ynghyd â chymeradwyaeth rheolwr llinell a rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion mynediad y brifysgol er mwyn cael eu hystyried.

Rydyn ni hefyd yn cynnig trefniadau a fydd yn cefnogi gweithwyr cymdeithasol cymwys yn eu datblygiad proffesiynol:

  • Rhaglen gynhwysfawr ‘Blwyddyn Gyntaf o Ymarfer’ sy’n cefnogi gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso;
  • Ar ôl cwblhau eich Blwyddyn Gyntaf o Ymarfer yn llwyddiannus, byddwch chi'n cael eich cofrestru ar ein rhaglen atgyfnerthu orfodol;
  • Mae amrywiaeth o raglenni ôl-gymhwysol noddedig ar gael ar gyfer Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus, megis: Ymarfer Galluogi/Goruchwylio Myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol, Cymhwyster Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP), mae'r rhaglen Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus hefyd yn cael ei datblygu ymhellach a bydd yn cynnig rhagor o gyfleoedd maes o law;
  • Ar gyfer gweithwyr cymdeithasol profiadol sydd am symud ymlaen i fod yn rheolwyr, mae cyfleoedd i gofrestru ar y Rhaglen Datblygu Rheolwyr Carfan;
  • Mae cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus wedi'u teilwra'n arbennig ar gael ar gyfer gweithwyr mewn rolau arbenigol er mwyn gwella eu gwybodaeth gyfredol a'u datblygu ymhellach.

Mae ein holl gyrsiau wedi'u hardystio gan eich galluogi chi i ennill cymwysterau a chyflawni datblygiad proffesiynol.

Edrychwch ar wefan Gofalwn Cymru am ragor o wybodaeth am y sector gofal cymdeithasol. 

Gwasanaethau i Blant RhCT

Bwriwch olwg ar ein gwerthoedd a'n pwrpas ynghyd â manylion am y carfanau sy'n rhan o'n gwasanaeth

Gwasanaethau Plant 

Gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion yng Nghyngor RhCT

Mae yna rywbeth i bawb ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion.

Mwy o wybodaeth