Swyddi eraill yn ein hysgolion a'n Gwasanaeth Addysg

Mae llawer o swyddi cyffrous a gwobrwyol eraill nad ydyn nhw'n ymwneud ag addysgu mewn ysgolion lle mae modd i chi helpu i greu amgylchedd dysgu diogel i alluogi disgyblion i gyflawni eu gorau.

Mae angen pobl wych arnon ni i sicrhau ein bod ni'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n disgyblion a’u helpu i gyflawni eu potensial llawn.

Mae swyddi eraill mewn ysgolion yn cynnwys Clerc yr Ysgol, Rheolwr y Swyddfa, Rheolwr Busnes a rolau Gweinyddol cyffredinol. Mae rheoli eiddo hefyd yn bwysig ac mae gyda ni rolau megis Rheolwr Safle, Gofalwr a Glanhawr Ysgol.  

Mae yna swyddi hefyd o fewn y Gwasanaeth Addysg; megis bod yn rhan o Wasanaethau Cynhwysiant, Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles, Cymorth i Lywodraethwyr, Gwasanaeth Materion Trawsnewid a Systemau Data, Ysgolion yr 21ain Ganrif, Carfanau Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar; sydd oll yn cefnogi disgyblion ac ysgolion i gyflawni eu nodau.

I gael gwybod pa swyddi sydd gyda ni ar gael, cliciwch ar y botwm chwilio am swydd isod.

I gael gwybod a yw eich rôl berffaith yn aros amdanoch chi, chwiliwch am swyddi gwag yn ein hysgolio.