Ysgolion Cyfrwng Cymraeg ledled Rhondda Cynon Taf

Mae ystod o gyfleoedd addysgu cyfrwng Cymraeg ar gael yn Rhondda Cynon Taf. Mae gyda ni:

  • 13 Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg
  • 2 Ysgol Gynradd Ddwyieithog (lle mae dwy ffrwd addysg ar wahân yn yr un ysgol ac mae modd i ddisgyblion ddewis a ydyn nhw am dderbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg)
  • 2 Ysgol Pob Oed Cyfrwng Cymraeg (lle mae’r ysgolion cynradd ac uwchradd ar yr un safle)
  • 2 Ysgol Uwchradd Cyfrwng Cymraeg

Pam gweithio yn ein Hysgolion Cyfrwng Cymraeg?

Mae gweithio yn ysgolion Rhondda Cynon Taf yn cynnig profiad unigryw a chyffrous i addysgwyr newydd a phrofiadol i ddatblygu eu gyrfaoedd mewn cymuned groesawgar. Mae gweithio mewn ysgol cyfrwng Cymraeg yn rhoi’r cyfle i fod yn rhan o gymuned sy’n ymroddedig i hyrwyddo’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig. Trwy roi’r Gymraeg i blant Cymru, rydyn ni'n gobeithio adeiladu cymuned Gymraeg fywiog, agored ac amlddiwylliannol.

Datblygiad a Chyfleoedd Gyrfaol

Mae addysgu yn yrfa broffesiynol wobrwyol ble mae modd i chi wneud gwahaniaeth bob dydd a helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf. Trwy ddewis i addysgu yn Rhondda Cynon Taf, bydd gyda chi gyflog cychwynnol dda ac opsiynau hyfforddi hyblyg, a fydd yn arwain at gyfleoedd gyrfa hir dymor a datblygiad proffesiynol parhaus.

Mae ysgolion Rhondda Cynon Taf wedi'u hymrwymo i ddarparu cyfleoedd i ddatblygu, datblygiad gyrfa a chydbwysedd da rhwng bywyd gwaith a bywyd personol i’w gweithwyr. Mae datblygiad proffesiynol yn parhau trwy gydol eich gyrfa addysgu gan fod llawer o wahanol elfennau yn ymwneud â chyflwyno addysg yn ein hysgolion, felly bydd yna ddigon o gyfleoedd i chi ymgymryd â chyfrifoldebau newydd, wrth ehangu eich set sgiliau a mwynhau heriau a phrofiadau newydd. 

Mae modd i'n Consortiwm Canolbarth y De hefyd eich helpu chi gyda:

  • Cefnogaeth o Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) a dod yn Athro sydd Newydd Gymhwyso (ANG), i ddatblygiad gyrfa ar bob cam, gan gynnwys arweinyddiaeth ganol ac uwch, swydd prifathro a thu hwnt.
  • Dysgu proffesiynol i gefnogi eich datblygiad a’ch sgiliau Cymraeg eich hun.
  • Cynnig dysgu proffesiynol helaeth i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am feysydd diwygio allweddol, megis y Cwricwlwm newydd i Gymru, i ddatblygu eich ymarfer a gwella eich rhagolygon gyrfa yn y dyfodol.
  • Cyfleoedd i gydweithio a rhannu arfer da ag ymarferwyr eraill ledled yr ardal, a hynny'n rhan o'n system ysgol hunan-wella, sef yr Her Canol De Cymru

Llwybrau i gyflogaeth mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg

Er mwyn gweithio fel athro/athrawes neu Gynorthwyydd Addysgu yn ein hysgolion cyfrwng Cymraeg, rhaid i chi fod yn siaradwr Cymraeg.

Athro/Athrawes

Mae ystod o ffyrdd i ddechrau eich gyrfa addysgu. I weithio fel athro/athrawes, rhaid i chi fod yn gymwysedig. Bydd Addysgwyr Cymru yn eich helpu chi i ddeall sut beth yw addysgu ac yn eich helpu chi i archwilio'r llwybr i addysgu sydd fwyaf addas i'ch amgylchiadau a'ch cymwysterau. Mae modd i chi hefyd gael gwybod rhagor wrth fynd i'n tudalen we addysgu yn ein hysgolion.

Cynorthwyydd Addysgu

Cael gwybod rhagor am ddod yn Gynorthwyydd Addysgu.

Os hoffech chi gael gwybod rhagor am ofynion iaith Gymraeg swydd rydyn ni wedi'i hysbysebu, mae croeso i chi gysylltu â'r ysgol i gael gwybod rhagor.

Datblygu sgiliau Cymraeg

Fel awdurdod lleol, rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu ein darpariaeth Gymraeg ymhellach ac rydyn ni'n gweithio gyda phartneriaid i gynyddu nifer yr Athrawon, Cynorthwywyr Addysgu ac Arweinwyr yn y sector cyfrwng Cymraeg. Mae hyn yn cyd-fynd â strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr Llywodraeth Cymru, ac mae wedi'i ymgorffori yn ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022-32.

Os nad ydych chi'n siaradwr Cymraeg rhugl, mae Consortiwm Canolbarth y De yn cynnig cyfleoedd datblygu proffesiynol yn rhad ac am ddim i gefnogi ymarferwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg a meithrin eu hyder i ddefnyddio'r Gymraeg yn y dosbarth. Mae'r cyfleoedd yma'n cynnwys:

Cwrs Gloywi Iaith Gymraeg

Nod y cwrs yma yw datblygu sgiliau ymarferwyr a chynyddu eu hyder i gefnogi disgyblion gyda’u Cymraeg llafar ac ysgrifenedig. Mae'r cwrs yn addas ar gyfer ymarferwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg sydd â sgiliau Cymraeg lefel Ganolradd.

Cwrs Sabothol ar gyfer Hyfforddiant Iaith Gymraeg

Os ydych chi'n gynorthwyydd addysgu ar hyn o bryd neu’n athro mewn ysgol cyfrwng Saesneg sy’n ystyried addysgu mewn ysgol cyfrwng Cymraeg, efallai y byddwch chi'n gymwys i wneud cais ar gyfer Cwrs Sabothol Cymraeg Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei hwyluso gan Gonsortiwm Canolbarth y De.

Mae'r Cwrs Sabothol ar gyfer hyfforddiant iaith Gymraeg yn cynnig cyrsiau iaith i athrawon ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd a chynorthwywyr addysgu. Caiff y cyrsiau eu hariannu gan Lywodraeth Cymru a'r nod yw cynyddu nifer yr ymarferwyr y mae modd iddyn nhw addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.

Cynigir cyrsiau ar lefelau iaith amrywiol mewn lleoliadau amrywiol ledled Cymru.

Mae'r cyrsiau ar gael yn rhad ac am ddim ac mae Llywodraeth Cymru yn darparu grant i dalu costau athrawon llanw, yn ogystal â chostau teithio.

Mae'r cynllun yn cefnogi ymarferwyr i:

  • Ddatblygu eu sgiliau ieithyddol
  • Cynyddu eu hyder i addysgu a defnyddio'r Gymraeg yn yr ystafell ddosbarth
  • Defnyddio'r Gymraeg yn effeithiol ar draws y Cwricwlwm

I fod yn gymwys i ymgeisio ar gyfer y cynllun yma, rhaid i chi fod yn gyflogedig mewn Ysgol yn Rhondda Cynon Taf. Mae gwybodaeth am sut a phryd i wneud cais am y cynllun yn cael ei rhannu'n uniongyrchol ag Ysgolion Rhondda Cynon Taf. Trafodwch gyda chymorth gweinyddol eich ysgol neu cysylltwch â Chonsortiwm Canolbarth y De yn uniongyrchol i holi ymhellach: support@cscjes.org.uk.

Rhaglen Datblygiad y Gymraeg

Mae gwahanol raglenni dysgu proffesiynol ar gael ar gyfer ymarferwyr cynradd gyda lefel sylfaen, lefel mynediad neu ddim sgiliau iaith Gymraeg, a gyflwynir trwy ddull dysgu cyfunol.

Am ragor o wybodaeth am y cyfleoedd datblygiad proffesiynol sydd ar gael i ymarferwyr, cyfeiriwch at gwefan Consortiwm Canolbarth y De.

Mae cymorth hefyd ar gael i bobl sy'n gweithio yn y sector Addysg yng Nghymru drwy'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Gan fod cydweithio mawr ymhlith y sector ysgolion cyfrwng Cymraeg, gallai hyn hefyd ddarparu cyfleoedd dysgu, er enghraifft trwy rwydweithiau rhanbarthol, megis YFfed a Gyda’n Gilydd.

Buddion eraill

A chithau'n gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf, rydych chi hefyd yn cael buddion eraill, megis:

  • Cefnogaeth iechyd a lles gyda mynediad at ein Huned Iechyd a Lles Galwedigaethol ein hunain, lle cynigir cyngor a chefnogaeth megis gwasanaethau Cwnsela, Nyrsys a Ffisiotherapydd
  • Gostyngiadau Ffordd o Fyw trwy ein cerdyn prisiau gostyngol Vectis, y mae modd ei ddefnyddio i arbed arian ar nwyddau, gwyliau, bwyta allan a llawer yn rhagor gan rai o frandiau mwyaf y DU!
  • Aelodaeth gampfa am bris gostyngol ar gyfer canolfannau hamdden sy'n eiddo i Gyngor Rhondda Cynon Taf
  • Cymorth llesiant ariannol, megis cyngor a benthyciadau a ddidynnwyd o gyflog os ydych chi'n gymwys
  • Cynllun Pensiwn