Skip to main content

Cynnal Cynllun Ffyrdd Cydnerth er mwyn ceisio lleihau perygl llifogydd ar yr A4058

A4058 Resilient Roads - Copy

Dyma roi gwybod i drigolion y bydd gwaith yn cael ei gynnal ar yr A4058, i'r gogledd o ardal Trehopcyn - er mwyn gwella cydnerthedd ffyrdd yn ystod llifogydd yn y lleoliad yma.

Bydd modd teithio i’r ddau gyfeiriad yn ystod y gwaith gan ddefnyddio lonydd wedi’u culhau, ond does dim angen gosod goleuadau traffig na chau'r ffordd.

Bydd y Cynllun Ffyrdd Cydnerth yn dechrau ddydd Llun, 28 Hydref a bydd y gwaith yn para oddeutu mis. Bydd yn cael ei gynnal gan Garfan Gofal y Strydoedd Rhondda Cynon Taf.

Bydd y gwaith yn cael ei gynnal ar y rhan o’r ffordd sydd i'r gogledd o gyffordd yr A4058 â Heol Tŷ Mawr, a bydd yn cynnwys gosod strwythur cwteri mewn man isel ar hyd y ffordd.

Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys gwella gorchuddion chwe chwter er mwyn cynyddu’u capasiti, cael gwared ar silt, a chreu llwybr ar hyd llain ymyl y ffordd er mwyn gwella mynediad wrth gynnal gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol.

Dydyn ni ddim yn rhagweld y bydd angen defnyddio mesurau rheoli traffig. Bydd cerddwyr yn cael eu dargyfeirio ar hyd y llain las wrth i'r gwter fawr gael ei gosod. Bydd matiau yn cael eu gosod ar y llawr er mwyn gwella'r mynediad dros dro yma.

Mae'r cynllun yn cael ei ariannu'n llawn gan Gronfa Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 23/10/24