Skip to main content

Llyfr coginio'r Eisteddfod yn llwyddiant ysgubol!

cook

Mae llyfr coginio cymunedol a gafodd ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod yr haf yn llwyddiant ysgubol drwy gydol y flwyddyn!

Rhannodd drigolion o bob cwr o Gwm Cynon, gan gynnwys mamau cu, tadau cu a heddwas lleol, eu hoff ryseitiau yn "Cwm Cynon: Cymuned sy'n Coginio". Mae modd ei lawrlwytho am ddim yma.

Cafodd y llyfr ei lansio ym Maes D yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym mis Awst, gyda chymorth Katie Hall o'r band Chroma a Cat Southall o Gwm Cynon, a oedd wedi cyfansoddi a pherfformio cân am y llyfr.

Yn ogystal â bod yn bleser i'w ddarllen, mae'r llyfr yn ganllaw pwysig i drigolion sydd eisiau cymorth wrth greu prydau iach a maethlon o fewn cyllideb benodol.

Syniad gweithwyr cymorth yn Strategaeth Bryncynon oedd y llyfr coginio. Mae’r Strategaeth yn cael ei hariannu gan Gyllid Ffyniant Bro'r Gronfa Ffyniant Gyffredin er mwyn mynd i'r afael â materion megis tlodi bwyd a heriau o ran byw'n iach a deietau.

Am fod yr Eisteddfod wedi'i nodi yn bartner consortiwm o ran cyllid, roedd modd iddi hi gymryd rhan a chefnogi'r fenter mewn sawl ffordd.

Roedd hyn yn cynnwys cynorthwyo â lansiad y llyfr ac annog y rheiny a oedd yn mynychu'r Eisteddfod i roddi eitemau bwyd sydd ddim yn ddarfodus, sydd bellach yn llenwi pantri bwyd Strategaeth Bryncynon. Mae modd i bobl gasglu'r bwyd y maen nhw ei angen a'i ddefnyddio yn y ryseitiau.

Yn ogystal â hyn, mae'r Eisteddfod hefyd yn cynnig cymorth hirdymor, gan annog y rheiny wnaeth wirfoddoli yn yr ŵyl i barhau i roi eu hamser yn Strategaeth Bryncynon.

Meddai Bob Harris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: "O gawl a phice ar y maen i frechdanau wedi’u crasu, mae'r llyfr coginio yn arddangos prydau iach a fforddiadwy i bawb.

"Mae'n gysur gwybod bod y ryseitiau wedi'u creu gan y gymuned, gan gynnwys rhai sydd wedi'u trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth ac yn defnyddio cynhwysion iach a syml, gan gynnwys y rheiny sy'n gallu cael eu casglu gan y rhai mewn angen o'r pantri bwyd.

"Mae'r bartneriaeth rhwng Strategaeth Bryncynon a'r Eisteddfod trwy'r Gronfa Ffyniant Bro wedi bod yn werthfawr iawn, gan gynorthwyo lansiad a hyrwyddiad y llyfr coginio a gwaith ehangach y strategaeth."

 

Lawrlwythwch y llyfr coginio yma

Dysgwch ragor am Strategaeth Bryncynon yma:

 

 

 

 

Wedi ei bostio ar 25/10/24