Skip to main content

Gofal piau hi wrth ddathlu Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt!

Ar ddiwedd mis Hydref, mae hwyl a sbri Calan Gaeaf rownd y gornel a lliwiau Noson Tân Gwyllt ar y gweill - cofiwch osgoi unrhyw gastiau a dathlu'r gwyliau yma'n ddiogel.

Mae Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn achlysuron hynod boblogaidd sy'n cael eu mwynhau gan lawer o drigolion - OND mae'n bwysig eich bod chi'n cadw'n ddiogel ac yn cofio nad yw'n hwyl i bawb!

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn awyddus i atgoffa trigolion nad yw pawb yn hoffi cnoc ar y drws yn ystod Calan Gaeaf, a'r ffordd fwyaf diogel o ddathlu Noson Tân Gwyllt yw mynd i achlysur cyhoeddus sydd wedi'i drefnu'n broffesiynol.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:

“Gyda Chalan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt ar y gweill, dyma gyfle da i atgoffa pobl am bwysigrwydd cadw'n ddiogel tra'n cael hwyl.

"Nid yw Calan Gaeaf at ddant pawb, ac efallai y bydd yr adeg yma o'r flwyddyn yn anodd iawn i rai trigolion. Yn ogystal â hynny, er bod y rhan fwyaf o bobl yn mwynhau tân gwyllt yn gyfrifol, mae modd iddyn nhw achosi problemau yn y dwylo anghywir.

"Rydw i'n annog trigolion i fynd i achlysuron tân gwyllt sydd wedi'u trefnu'n broffesiynol - maen nhw'n fwy o hwyl, yn rhatach ac yn fwy diogel na chynnal eu parti tân gwyllt eu hunain. Serch hynny, os ydych chi'n bwriadu defnyddio tân gwyllt ar gyfer dathliad preifat, cofiwch ddilyn y cod diogelwch tân gwyllt.

"Cofiwch brynu tân gwyllt gan fanwerthwr dibynadwy a thrwyddedig yn unig. Cyn prynu'r tân gwyllt, gofynnwch am gyngor o ran pa dân gwyllt sydd fwyaf addas ar gyfer eich gardd/safle chi, a gwnewch yn siŵr eu bod nhw'n bodloni'r safonau diogelwch presennol."

Diogelwch yn ystod Calan Gaeaf

  • Wrth brynu neu greu gwisgoedd a masgiau, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n defnyddio deunydd nad yw'n fflamadwy, neu chwiliwch am label sy'n nodi bod y dilledyn yn gwrthsefyll fflamiau.
  • Ystyriwch gyfnewid gwisgoedd gyda ffrindiau neu gymdogion i er mwyn bod yn gynaliadwy.
  • Sicrhau bod gwisgoedd yn ffitio'n gywir a'u bod wedi bod yn destun profion diogelwch ychwanegol o dan gôd ymarfer Consortiwm Manwerthu Prydain. Mae'n debygol y bydd neges debyg i hon ar y dilledyn: ‘This garment has undergone additional safety testing for flammability.’
  • Cadwch blant i ffwrdd oddi wrth fflamau agored ar bob adeg.
  • Os yw'ch dillad yn mynd ar dân, cofiwch stopio, gorwedd ar lawr a rholio i drechu'r fflamau.
  • Edrychwch yn ofalus ar y cynhwysion a ddangosir ar becynnau losin os oes gyda chi neu'ch plentyn alergedd bwyd.
  • Ystyriwch ddefnyddio canhwyllau di-fflam - naill ai gyda goleuadau LED, batri neu electronig, neu ffyn golau, fel bod modd gweld plant yn hawdd.
  • Dydy pawb ddim yn hoff o Galan Gaeaf - peidiwch â chnocio ar ddrysau os nad oes addurniadau Calan Gaeaf i'w gweld.
  • Byddwch yn ofalus iawn wrth yrru'ch cerbyd gan y bydd rhagor o blant ar balmentydd ac yn croesi'r ffordd.
  • Ailgylchwch unrhyw fwyd parti neu losin sydd dros ben yn eich cadi gwastraff bwyd – cofrestrwch ar ein gwefan www.rctcbc.gov.uk/gwastraffbwyd

Noson Tân Gwyllt

Os does dim modd i chi fynd i achlysur cyhoeddus, dyma ychydig o ganllawiau i unrhyw un sy'n cynnal arddangosfa tân gwyllt gartref:

Cyngor diogelwch ar gyfer Noson Tân Gwyllt ac achlysuron eraill lle mae angen ystyried diogelwch tân:

  • Prynwch dân gwyllt sydd â marc CE o siopau dibynadwy a thrwyddedig yn unig. Cyn prynu'r tân gwyllt, gofynnwch am gyngor o ran pa dân gwyllt sydd fwyaf addas ar gyfer eich gardd/safle chi, a gwnewch yn siŵr eu bod nhw'n bodloni'r safonau diogelwch presennol
  • Cadwch dân gwyllt mewn blwch metel caeedig.
  • Goleuwch y tân gwyllt hyd braich gyda thapr, a chofiwch sefyll yn ddigon pell i ffwrdd.
  • Cadwch fflamau agored, gan gynnwys sigaréts, i ffwrdd o dân gwyllt.
  • Peidiwch â rhoi tân gwyllt yn eich poced a pheidiwch byth â'u taflu.
  • Peidiwch byth â dychwelyd at dân gwyllt nad yw wedi ffrwydro, a pheidiwch byth â thaflu tân gwyllt neu becynnau tân gwyllt ar goelcerth.
  • Peidiwch byth ag yfed alcohol wrth gynnau coelcerth neu dân gwyllt.
  • Goruchwyliwch blant bob amser a pheidiwch â rhoi ffyn gwreichion (sparklers) i blant o dan bump oed.
  • Cadwch eich coelcerth o leiaf 18 metr i ffwrdd o dai, coed a gwrychoedd. Dylech chi osod rhwystr o amgylch y goelcerth i gadw gwylwyr bum metr i ffwrdd. Cyn cynnau coelcerth, gwiriwch ei bod hi'n sefydlog ac nad oes unrhyw blant nac anifeiliaid y tu mewn iddi.
  • Llosgwch bren sych yn unig, peidiwch byth â defnyddio paraffin na phetrol ar goelcerth, a chofiwch ystyried cyfeiriad teithio'r mwg.
  • Cadwch fwcedi o ddŵr yn agos.
  • Ystyriwch y rhai o'ch cwmpas, gan rybuddio cymdogion a allai fod ag anifeiliaid anwes neu anifeiliaid fferm.
  • Ystyriwch ble y gallai tân gwyllt a malurion gwympo, gan sicrhau bod pellteroedd diogelwch yn ddigonol er mwyn cadw pawb yn ddiogel. Nodwch y pellteroedd diogelwch sydd wedi'u nodi ar bob label neu becyn tân gwyllt.
  • Ailgylchwch unrhyw fwyd parti sydd dros ben yn eich cadi gwastraff bwyd – cofrestrwch ar ein gwefan  www.rctcbc.gov.uk/gwastraffbwyd

Oriau a ganiateir o ran cynnau tân gwyllt

  • Mae hi'n drosedd cynnau tân gwyllt rhwng 11pm a 7am ac eithrio ar 5 Tachwedd pan fydd y terfyn amser yn ymestyn i hanner nos, ac ar adeg Diwali, Nos Galan a'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd pan fydd y terfyn amser yn ymestyn i 1am.
  • Mae hi hefyd yn drosedd cynnau tân gwyllt mewn man cyhoeddus.

Cadwch anifeiliaid ac anifeiliaid anwes yn ddiogel ar noson tân gwyllt

Bydd llawer o anifeiliaid ac anifeiliaid anwes yn ofnus ar Noson Tân Gwyllt, ac mae'n aml yn achosi straen, pryder a hyd yn oed ymddygiad ymosodol. Cofiwch ystyried hyn os ydych chi'n cynnau tân gwyllt ar eich eiddo, ac ystyriwch rannu gwybodaeth ac amseroedd ar grŵp eich cymdogaeth leol ar Gyfryngau Cymdeithasol.

  • Ewch â'ch ci am dro yn gynnar yn y dydd.
  • Cadwch gathod y tu mewn.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n creu man diogel yn eich cartref.
  • Caewch ffenestri, llenni a bleindiau.
  • Trowch sŵn y teledu i fyny neu ystyriwch chwarae cerddoriaeth glasurol.
  • Rhowch wasarn ychwanegol i gwningod.
  • Arhoswch gartref a'u cysuro.
  • Rhowch ddanteithion iddyn nhw i dynnu eu sylw.
  • Sicrhewch fod manylion microsglodyn eich anifeiliaid anwes yn gyfredol.

Os ydych chi'n pryderu nad yw manwerthwyr wedi'u trwyddedu neu os yw siopau'n storio tân gwyllt yn amhriodol, yn gwerthu tân gwyllt sydd ddim yn arddangos marciau diogelwch priodol, neu'n eu gwerthu i unrhyw un o dan 18 oed, ffoniwch linell gymorth Cyngor ar Bopeth: 0808 223 1133. Fel arall, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan:  www.rctcbc.gov.uk/safonaumasnach. 

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â chadw'ch anifeiliaid anwes yn ddiogel, ewch i wefan RSPCA.

Wedi ei bostio ar 24/10/24