Skip to main content

LANSIO GWOBRAU BUSNES ARDAL YR EISTEDDFOD

eisteddfod 2

Yn rhan o’r dathliadau ar gyfer Diwrnod Shw’mae Su’mae yn gynharach fis yma, cyhoeddodd Menter Iaith Rhondda Cynon Taf bartneriaeth newydd sbon â’r Eisteddfod Genedlaethol, Helo Blod, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac Ymbweru Bro yn rhan o waddol yr Eisteddfod a gynhaliwyd yn yr ardal eleni.

Mae’r cynllun yn gyfle i ddathlu’r Gymraeg ymysg busnesau a chwmnïau yn nalgylch yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod y flwyddyn hyd at yr Eisteddfod, ynghyd â’r cyfnod yn dilyn yr ŵyl ei hun.

Mae’n gyfle hefyd i ddiolch i fusnesau a chwmnïau’r ardal am eu cefnogaeth a rhoi ffocws i’r hyn y gall y fenter iaith leol ei chynnig i’r sector preifat er mwyn annog rhagor o ddefnydd o’r Gymraeg.

Meddai Osian Rowlands, Prif Weithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, “Roedd yr Eisteddfod eleni ymysg y goreuon ers blynyddoedd lawer, ac roedd tref Pontypridd a’r ardal gyfan yn rhan enfawr o’i llwyddiant.

“Cafodd pawb a ddaeth i’r ardal groeso ardderchog gan fusnesau a chwmnïau ar hyd a lled y dalgylch. Rydyn ni’n awyddus i ddathlu hyn drwy lansio’r cynllun gwobrau busnes cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio’r Eisteddfod fel y sbardun i annog rhagor o ddefnydd o’r Gymraeg yn y sector preifat.Diolch i’r holl bartneriaid am eu hawydd i fod yn rhan o’r cynllun sy’n rhan o waddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni.”

Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, “Pwrpas diwrnod Shw’mae Su’mae yw annog pawb i ddefnyddio pa Gymraeg bynnag sydd ganddyn nhw. Dyma pam mod i'n falch o gyflwyno'r gwobrau newydd yma sy’n dathlu awydd busnesau ardal Eisteddfod 2024 i ddefnyddio'r Gymraeg yn ystod yr ŵyl, ac ers hynny."

Ychwanegodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, “Rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect yma i ddathlu busnesau lleol yn ardal Rhondda Cynon Taf. Mae sicrhau gwaddol i’r Eisteddfod yn hanfodol bwysig, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r fenter iaith am yr holl waith a’u hawydd er mwyn sicrhau rhagor o gyfleoedd i’r Gymraeg yn lleol yn dilyn yr ŵyl.

“Rydyn ni hefyd yn falch iawn o’r cyfle i ddiolch i fusnesau a chwmnïau ar draws yr ardal am eu cefnogaeth ac am fod yn rhan hanfodol o lwyddiant y brifwyl eleni.”

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg:  "Manteisiodd llawer o fusnesau i'r eithaf ar y cyfle a gyflwynwyd gan yr Eisteddfod a dylen nhw fod yn falch o'u hunain am y croeso cynnes, cynhwysol a roddon nhw i ymwelwyr. 

"Roedd yn wych eu gweld yn ymfalchïo yn ysbryd yr ŵyl, gan ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg a dysgu rhai newydd. Yn sicr, gwnaeth yr ymdrech arbennig yma argraff dda ar ymwelwyr a gafodd amser anhygoel. Mae'r ffaith bod cynifer o fusnesau'n parhau i weithredu'n ddwyieithog yr un mor drawiadol. Mae pawb a gefnogodd Eisteddfod Rhondda Cynon Taf ac a helpodd i'w gwneud yn gymaint o lwyddiant yn haeddu cael eu cydnabod yn y gwobrau yma ac rydyn ni'n dymuno'r gorau iddyn nhw."

Mae’r gwobrau wedi’u rhannu i bum categori:

  • Defnydd o’r Gymraeg: gwobr i fusnes neu gwmni sydd wedi datblygu’u defnydd o’r Gymraeg a chreu cyfleoedd i staff a chwsmeriaid i ddefnyddio ein hiaith
  • Defnydd gweladwy o’r Gymraeg: gwobr i fusnes neu gwmni a wnaeth ddefnydd creadigol o’r Gymraeg yn y cyfnod hyd at, yn ystod ac yn dilyn yr Eisteddfod
  • Gwobr arbennig: cyfle i wobrwyo clwstwr o fusnesau sy’n cydweithio neu sydd ar un safle a ddangosodd gefnogaeth i’r Eisteddfod a’r Gymraeg
  • Gwobr diolch lleol: gwobr arbennig wedi’i chyflwyno gan wirfoddolwyr lleol i ddiolch i fusnes neu gwmni a fu’n gefnogol o’r gwaith trefnu a chodi arian yn ystod y cyfnod hyd at yr Eisteddfod.
  • Gwobr Croeso i’r ŵyl: cyfle i’r rheini sy’n byw y tu allan i ddalgylch yr Eisteddfod i enwebu busnes neu gwmni a ddangosodd groeso arbennig i Eisteddfodwyr yn ystod wythnos yr ŵyl

Mae’r manylion i gyd ar wefan y fenter iaith, https://menteriaith.cymru/enwebu-busnes-2024/. Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Gwener 8 Tachwedd, a chyhoeddir y rhestr fer ddydd Llun 18 Tachwedd, i nodi 100 diwrnod ers Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.

Bydd y gwobrau’n cael eu cyflwyno mewn seremoni frecwast arbennig yn y Lido ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd, lleoliad Maes yr Eisteddfod eleni, fore Iau 5 Rhagfyr.

Am ragor o wybodaeth ewch i https://menteriaith.cymru/ neu www.eisteddfod.cymru.

on the Eisteddfod go to www.eisteddfod.wales.

Wedi ei bostio ar 23/10/24