Skip to main content

Y Cabinet yn bwrw ymlaen gyda'r CDLl Diwygiedig gan ddefnyddio addasiadau i'r Strategaeth a Ffefrir

LDP-Logo-2022-2037

Mae'r Cabinet wedi adolygu adborth yr ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (2022-2037). Cytunodd yr Aelodau i wneud newidiadau i'r Strategaeth a Ffefrir mewn ymateb i rai o'r prif faterion a godwyd, gan gymeradwyo parhad y broses gyda'r gwelliannau yma.

Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn ddogfen statudol sy'n ymdrin â'r defnydd o dir, yn nodi gweledigaeth ar gyfer y Fwrdeistref Sirol yn y dyfodol, ac yn dyrannu tir at defnydd datblygiadau megis tai, cyflogaeth, manwerthu a thwristiaeth. Mae hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. Mae'n cynnwys polisïau pwysig i ddiogelu'r amgylchedd, creu rhagor o ardaloedd gwyrdd, lleihau allyriadau carbon, ac annog ynni adnewyddadwy – gan gydymffurfio ag ymrwymiadau newid hinsawdd y Cyngor.

Y Strategaeth a Ffefrir yw'r cam ffurfiol cyntaf i adolygu'r CDLl er mwyn cwmpasu'r cyfnod hyd at 2037. Mae'n nodi materion allweddol, gan gynnwys gweledigaeth, amcanion ac opsiynau strategaeth. Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y Strategaeth o 21 Chwefror i 17 Ebrill 2024. Mae modd i drigolion hefyd ddweud eu dweud ar y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol sy'n cynnwys safleoedd a gafodd eu cyflwyno gan y cyhoedd mewn ymarfer ymgysylltu blaenorol.

Yn y cyfarfod ddydd Llun, Medi 21, amlinellodd swyddogion yr adborth a dderbyniwyd yn yr ymgynghoriad i Aelodau'r Cabinet – gan gyflwyno Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol sy'n crynhoi'r gweithgarwch ymgysylltu, yn nodi'r prif faterion a godwyd, ac yn cynnig sut mae'r Cyngor yn mynd i'r afael â'r rhain. Mae'r ddogfen ar gael i'w gweld ar ffurf Atodiad i’r Adroddiad ar wefan y Cyngor.

Mae rhestr o’r gweithgareddau ymgynghori wedi’I chynnwys ar waelod y diweddariad hwn. Cafodd cyfanswm o 4,964 o sylwadau eu cyflwyno I’r ymgynghoriad – gydag ychydig dros 1,000 o sylwadau ar y Strategaeth a Ffefrir, a mwy na 3,900 ar y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol.

Mae'r ymatebion yn yr Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol wedi'u rhannu'n adrannau. Mae'r cyntaf yn dangos sylwadau a dderbyniwyd yn erbyn naw adran y Strategaeth a Ffefrir (Cyflwyniad, tystiolaeth gefndirol, materion, amcanion, hierarchaeth aneddiadau, opsiynau twf, opsiynau strategaeth ofodol, strategaeth ddewisol a pholisïau strategol).

Mae swyddogion wedi nodi bod llawer o faterion pwysig a pherthnasol neu 'brif faterion' wedi cael eu codi - mae rhai o'r rhain yn cael sylw boddhaol o dan gylch gwaith cam presennol y broses, tra bydd angen ystyried rhai ymhellach pan fydd swyddogion yn paratoi'r cam Adnau mwy manwl nesaf o'r CDLl Diwygiedig. Mae'r rhain wedi'u rhestru gyda chrynodeb yn yr adroddiad i’r Cabinet a'i Atodiad - yr Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol, sydd ar gael yma.

Mae wedyn 'prif faterion' mwy arwyddocaol, gan gynnwys y rhai a godwyd gan Lywodraeth Cymru - mae rhai o'r rhain wedi gofyn am gynnig rhai newidiadau i'r Strategaeth a Ffefrir ar hyn o bryd yn y broses.

Cododd un mater o'r fath bryder am yr adran Strategaeth Ofodol, gyda gofyn am fwy o esboniad a thystiolaeth ar rai elfennau o ran y cyflenwad tai a'i ddosbarthiad ar draws yr Hierarchiaeth Aneddiadau. Mae swyddogion wedi cynnig y dylid cynnwys hyn yn yr adran berthnasol. Mae newid arall yn berthnasol i'r pryder ynglŷn â'r Cydweithredu Rhanbarthol. Mae swyddogion yn nodi y bydd rhagor o waith yn cael ei gwblhau gydag awdurdodau cyfagos a'r rhanbarth wrth i'r CDLl diwygiedig fynd rhagddo.

Fodd bynnag, roedd cynrychiolaeth fwyaf arwyddocaol Llywodraeth Cymru yn ymwneud â'r Safle Allweddol 4 posibl – Llanilltud Faerdref / Efail Isaf. Adlewyrchwyd hyn hefyd gan nifer y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd gan y cyhoedd i'r safle allweddol posibl hwn, gyda 402 o sylwadau wedi'u derbyn mewn perthynas â'r Strategaeth a Ffefrir a 3,335 o ymatebion i gynnwys safleoedd yn ward Llanilltud Faerdref ar y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol (86% o gyfanswm y sylwadau a wnaed ar safleoedd ar y Gofrestr).

Roedd pryderon a godwyd yn cynnwys bod y safle ddim yn cyd-fynd â Pholisi Cenedlaethol, bod caniatâd cynllunio wedi ei wrthod yn flaenorol, bod perygl llifogydd, ac y byddai colled fawr o ran ecoleg. Yn ogystal â hynny, fe wnaeth yr ymatebwyr  nhw godi bod priffyrdd lleol y tu hwnt i'w capasiti a bod diffyg gwasanaethau addysg a gofal iechyd yn lleol, tra byddai datblygu o gwmpas Efail Isaf yn dyblu nifer y tai yn y pentref.

Mewn ymateb, mae swyddogion wedi ystyried y mater yn fanwl iawn - i gydbwyso twf a thai newydd mawr eu hangen yn erbyn yr angen i ddiogelu safleoedd tir glas a hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy. O ganlyniad, caiff Efail Isaf ei ddileu o Safle Allweddol 4, gan gynnwys yr holl dir sy'n eistedd i'r dwyrain o ffordd osgoi Pentre'r Eglwys. Mae'r holl Safleoedd Ymgeisiol cyfansoddol o'r ardal yma'n cael eu dileu o'r broses. Bydd safle Ystrad Barwig yn parhau yn Safle Ymgeisiol, ond nid yn Safle Allweddol.

Yn ogystal, cyflwynwyd 18 Safle Ymgeisiol newydd yn ystod y broses ymgynghori. Mae safle sylweddol o bron i 27 hectar yng Nghwrs Golff Llantrisant, a gynigir ar gyfer tai, yn arbennig o bwysig i’w nodi. Mae rhagor o fanylion am y safleoedd yma wedi'u cynnwys yn yr Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol ac yn yr adroddiad i’r Cabinet.

Dylid nodi nad yw'r Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol yn destun ymgynghoriad - ond bydd cyfle ffurfiol gan y cyhoedd i ddweud eu dweud yng nghamau nesaf y broses (Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adnau) yn 2025.  

Ar hyn o bryd, bydd cynigion yr Adroddiad yn cael eu cynnwys yn briodol yn y Strategaeth a Ffefrir a bydd yr 18 safle ymgeisiol newydd a gyflwynwyd yn cael eu cyflwyno i'w hystyried ymhellach, ac yn fwy manwl.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Datblygu a Ffyniant:  "Mae Aelodau'r Cabinet wedi ystyried diweddariad manwl ar y broses o ddiwygio'r Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer Rhondda Cynon Taf. Roedd hyn yn cynnwys Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol ,dogfen strategol, ar ôl y broses ymgysylltu helaeth yn gynharach eleni. Derbyniwyd bron i 5,000 o sylwadau yn gyffredinol, gyda thua 250 o bobl eraill yn mynychu digwyddiadau a drefnwyd gan ein carfan Polisi Cynllunio.

“Penderfynwyd ar y cyfan, bod y Strategaeth a Ffefrir arfaethedig ar gyfer y CDLl Diwygiedig yn gadarn. Pan godwyd materion perthnasol, yn y mwyafrif o achosion gellir mynd i'r afael â'r rhain yng ngham nesaf y broses. Wrth fynd i'r afael â rhai o'r sylwadau mwy arwyddocaol a'r 'prif faterion' a godwyd yn yr ymgynghoriad, mae swyddogion wedi cynnig rhai newidiadau i'r Strategaeth - sydd bellach wedi cael eu cytuno gan Aelodau'r Cabinet.

“Cynnwys Efail Isaf fel rhan o Safle Allweddol oedd y mater mwyaf pryderus i drigolion a Llywodraeth Cymru, ac felly mae'n iawn ei fod bellach wedi'i ddileu. Mae hefyd yn bwysig nodi y gallai un o'r Safleoedd Ymgeisiol newydd arfaethedig yng Nghlwb Golff Llantrisant yn rhannol liniaru'r ffaith bod tai o Efail Isaf yn cael eu dileu. Mae hwn, ynghyd â 17 Safle Ymgeisiol newydd arall, wedi'u hasesu i ddechrau a bydd yn cael ystyriaeth bellach yn y dyfodol.

"Mae'r CDLl yn chwarae rhan hanfodol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio a gyflwynwyd i'r Cyngor a sefydlu polisïau allweddol sy'n ymwneud â'n nodau newid hinsawdd. Felly, mae'n hynod bwysig bod y broses o ddiwygio'r ddogfen a'i hymestyn am y cyfnod hyd at 2037 yn cael ei chwblhau'n drwyadl - tra'n ymgysylltu â thrigolion, busnesau, datblygwyr a rhanddeiliaid eraill. Rwy'n falch bod cymaint o bobl wedi cymryd rhan yng ngham diweddaraf yr ymgynghoriad, sydd wedi llywio newidiadau allweddol wrth symud ymlaen. Bydd swyddogion yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd am y broses  gan sôn am gerrig milltir allweddol wrth iddi fynd yn ei blaen."

Roedd y gweithgarwch ymgynghori yn cynnwys hysbysu 810 o randdeiliaid a gofrestrwyd ar restr ymgynghori'r CDLl Diwygiedig (ynghyd â grwpiau perthnasol). Cafodd tudalennau gwybodaeth eu cynnwys ar wefan y Cyngor a'u hyrwyddo ar gyfryngau cymdeithasol, tra cynhaliwyd achlysuron personol mewn lleoliadau lleol fel llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol a chanolfannau hamdden. Bu swyddogion hefyd yn bresennol mewn achlysuron ymgysylltu â GIG Cwm Taf Morgannwg, cylch trafod Anabledd Taf-Elái a chylch trafod Pobl Hŷn Cwm Cynon.

Wedi ei bostio ar 25/10/2024