Skip to main content

Beicwyr yn Cychwyn ar Daith Goffa o Bontypridd i 's-Hertogenbosch

Cllr Webber and Cyclists

Ddoe, cychwynnodd pedwar o feicwyr ar eu taith heriol o Gomin Pontypridd i 's-Hertogenbosch, Yr Iseldiroedd. Bydd y beicwyr, a gychwynnodd eu taith ger Cofeb 5ed Bataliwn y Gatrawd Gymreig ym Mhontypridd, yn teithio cyfanswm o 365 o filltiroedd er mwyn cyrraedd 's-Hertogenbosch, a elwir hefyd yn Den Bosch.

Mae disgwyl i'r beicwyr gyrraedd Den Bosch ddydd Iau, yn barod i nodi 80 mlynedd ers Rhyddhau'r Ddinas.  Mae'r digwyddiad yma'n arwyddocaol iawn o safbwynt hanesyddol, bu farw 146 o filwyr Prydeinig yn ystod Brwydr 's-Hertogenbosch, ac mae dinasyddion Den Bosch bob amser wedi cydnabod eu bod nhw'n ddyledus am eu rhyddid i'r milwyr a ymladdodd yn y frwydr dros gyfnod o 5 diwrnod.

Ym 1995, sefydlwyd cysylltiad ystyrlon rhwng cangen Pontypridd o Gymdeithas Catrawd Y Cymry Brenhinol a Den Bosch. Ers hynny, mae'r Aelodau wedi cynnal cysylltiadau cryf gyda'r ddinas, gan feithrin perthynas glos.

Yn ystod y seremoni'r, fe wnaeth Gareth Pennell, ysgrifennydd Cymdeithas Catrawd Y Cymry Brenhinol ym Mhontypridd, oleuo lamp yn cynnwys y 'Fflam Rhyddid' symbolaidd. Bydd y beicwyr yn cario’r fflam hon i’r Iseldiroedd, lle bydd yn cael ei gosod yn eglwys gadeiriol y ddinas, fel symbol o'r cyfeillgarwch parhaus a’r hanes a rennir rhwng y ddwy gymuned.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Rydyn ni'n falch iawn o’r beicwyr yma am ymgymryd â thaith mor ystyrlon ac arwyddocaol o safbwynt hanesyddol.

“Mae eu hymroddiad yn anrhydeddu'r 146 o filwyr Prydeinig a gollodd eu bywydau ym mrwydr ‘s-Hertogenbosch, ond hefyd yn cryfhau’r berthynas agos rhwng Pontypridd a Den Bosch.

“Mae’r daith hon yn symbol o’r cyfeillgarwch dwfn, yr hanes a rennir, a’r diwylliant cyfoethog rhwng ein cymunedau, ac mae’r ‘Fflam Rhyddid’ y mae'r beicwyr yn eu cario yn ein hatgoffa ni o’n gwerthoedd.”

Bydd dros hanner cant o gyn-filwyr lleol ac aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog yn ymuno â'r beicwyr pan fyddan nhw'n cyrraedd s-Hertogenbosch ddydd Iau.

Mae'r pedwar beiciwr yn ariannu'r daith eu hunain. Fodd bynnag, mae peth o’r offer sydd ei angen i gwblhau’r daith, gan gynnwys llogi fan i’w dilyn a chario eu cit, yn gostus. Mae'r beicwyr felly yn anelu at godi £750 i gefnogi'r ymdrech hon. Mae amser o hyd i chi gyfrannu. Mae modd i chi gyfrannu yma: https://www.justgiving.com/crowdfunding/gareth-pennell-2 

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth y mae'r Cyngor yn ei ddarparu i Gymuned y Lluoedd Arfog, ewch i: https://www.rctcbc.gov.uk/CY/GetInvolved/ArmedForcesCovenant/ArmedForcesCovenant.aspx

Wedi ei bostio ar 22/10/2024