Skip to main content

Trydaneiddiwch eich PWMPEN y CALAN GAEAF HWN!

Dyma ffaith frawychus - oeddech chi'n gwybod y byddai ailgylchu croen un bwmpen yn creu digon o ynni i bweru cartref arferol am awr?

Mae hynny'n swm brawychus o bŵer posibl sy'n cael ei wastraffu!

Y newyddion gwych yw bod trigolion Rhondda Cynon Taf yn frawychus o dda am ailgylchu eu gwastraff bwyd. Mae'r ffigyrau ailgylchu diweddaraf yn dangos bod mwy a mwy ohonom ni'n ailgylchu ein bwyd anfwytadwy a bwyd dros ben - mae bron i 300 tunnell o wastraff bwyd yn cael ei gasglu bob wythnos* - mae hynny'n pwyso'r un faint ag awyren Boeing 747, sydd bellach yn gallu cael ei throi'n ddigon o ynni i bweru 27 o gartrefi!

Mae hyd yn oed mwy o newyddion gwych bod y gwastraff bwyd ddim wedi mynd i safleoedd tirlenwi i bydru - mae bwyd wedi’i wastraffu'n cyfrif am 8–10% o gyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gofyn i'w drigolion barhau â'u hymdrechion gwyrdd drwy lenwi eu cadis gwastraff bwyd gyda'u holl fwyd parti dychrynllyd a'u perfedd pwmpen llysnafeddog ar ôl i ddathliadau Calan Gaeaf ddod i ben.

Mae llawer o drigolion yn brysur yn cynllunio eu dathliadau erchyll a dyma’r amser i feddwl beth fyddwch chi’n ei wneud gyda’ch addurniadau ar ôl i chi orffen – cofiwch eu hailddefnyddio a meddyliwch am brynu eitemau y mae modd eu hailddefnyddio flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Pan ddaw hi’n amser cerfio eich pwmpenni, cofiwch ei bod hi’n debygol bod miliynau o gartrefi eraill yn gwneud yr un peth! Dyna lawer o hadau a chnawd pwmpen! Beth am ei ddefnyddio i greu’r pryd hydrefol perffaith – gallai cnawd y bwmpen fod yn brif gynhwysyn mewn pryd blasus fel cawl pwmpen, pei pwmpen neu risoto pwmpen rost. Mae modd defnyddio pwmpen hefyd fel dewis rhad a blasus yn lle tatws melys – dewch o hyd i ragor o ryseitiau yn www.lovefoodhatewaste.com

Unwaith y bydd eich pwmpen wedi dechrau colli ei gwên, cofiwch ei thorri i fyny a’i rhoi yn eich cadi gwastraff bwyd neu ei rhoi’n gyfan ar ben eich cadi gwastraff bwyd allanol i’w chasglu – cofiwch dynnu unrhyw oleuadau/canhwyllau.

Mae modd ailgylchu eich holl ddeunydd pacio bwyd parti, e.e. caniau, poteli gwydr, potiau iogwrt, potiau jam a llawer mwy, gan ddefnyddio'r bagiau ailgylchu CLIR, sydd ar gael i'w casglu AM DDIM mewn cannoedd o fannau dosbarthu ledled RhCT - dewch o hyd i'ch un agosaf yn www.rctcbc.gov.uk/bagiau

Os ydych chi am wylio ffilm arswydus dros Galan Gaeaf, cofiwch, trwy ailgylchu un croen pwmpen yn unig, gallech chi bweru teledu yn ddigon hir i wylio Hocus Pocus a'r Addams Family!

Rydyn ni'n cymryd camau MAWR yn Rhondda Cynon Taf er mwyn ailgylchu a lliniaru'r effaith newid brawychus yn yr hinsawdd. Ym mis Medi eleni newidiodd y Cyngor ei gasgliadau gwastraff i gasglu bagiau du yn unig er mwyn sicrhau bod gan Rondda Cynon Taf i gyd yr un trefniadau safonol ar gyfer casglu gwastraff a helpu i gynyddu ein cyfraddau ailgylchu.

Hyd yn hyn, mae'r arwyddion cynnar yn galonogol iawn gyda chyfraddau ailgylchu sych ac ailgylchu bwyd eisoes yn cynyddu a bod gwastraff bagiau du ar y cyfan yn lleihau. Mae hyn yn golygu bod ein trigolion ni'n mynd i'r afael â her 'CYNYDDU ein Cyfraddau Ailgylchu' er mwyn i ni 'Fwrw'r TARGED!' Os ydyn ni i gyd yn parhau â'n hymdrechion GWYCH, bydd Rhondda Cynon Taf yn ailgylchwyr heb eu hail! 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: 

"Mae Calan Gaeaf yn gyfnod gwych i deuluoedd fwynhau eu hunain. Wedi dweud hynny, mae'n bwysig ein bod ni'n cofio meddwl yn wyrdd ac ailgylchu'r holl wastraff ychwanegol.

“Mae ein preswylwyr wedi gwneud ymdrech wych i ailgylchu'u gwastraff bwyd yn wythnosol hyd yma. Hoffwn ddiolch i bawb yn ein Bwrdeistref Sirol am wneud ei ran.

"Y newyddion gwych yw bod fwyfwy o'n trigolion yn ystyried yr amgylchedd bob dydd ac mae'r ffigurau diweddaraf yn dystiolaeth o hyn. Rydyn ni'n gofyn i'r holl wrachod ac ysbrydion bach (a mawr) ailgylchu eu holl wastraff brawychus y Calan Gaeaf yma."

Mae'n haws nag erioed i chi ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf, rydyn ni'n cynnal casgliadau diderfyn ac mae gyda ni amrywiaeth o leoedd ar draws y Fwrdeistref Sirol y mae modd i chi fynd atyn nhw i gasglu eich bagiau ailgylchu! Mae modd i chi hefyd gofrestru ar gyfer ailgylchu gwastraff bwyd, gwastraff gwyrdd a chewynnau ar-lein. Yn ogystal â hyn, mae POB Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned ar draws y Fwrdeistref Sirol ar agor 7 niwrnod yr wythnos, rhwng 8.30am a 6.30pm (Mawrth - Hydref) ac 8.30am - 4.30pm (Tachwedd - Mawrth).  

Mae modd ailgylchu 80% o wastraff y cartref ar gyfartaledd - sy'n golygu bod modd ailgylchu 8 allan o bob 10 bag o sbwriel sy'n dod o gartrefi, a'u troi yn rhywbeth newydd.   

Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag ailgylchu yn RhCT, dilynwch y Cyngor ar Twitter/Facebook neu ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu

Wedi ei bostio ar 24/10/24