Skip to main content

Gwasanaeth a Gorymdaith Sul y Cofio Pontypridd

A4 Remembrance Parade Poster 2024 small

Bydd achlysur blynyddol Sul y Cofio, er mwyn coffáu Aelodau o Luoedd Arfog Prydain sydd wedi marw mewn rhyfeloedd a gwrthdaro milwrol ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, yn cael ei gynnal ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, ddydd Sul 10 Tachwedd. 

Yn unol â'r drefn arferol, mae pobl o bob rhan o Rondda Cynon Taf wedi'u gwahodd i ddod at ei gilydd a thalu teyrnged i’r dynion a'r menywod dewr sydd wedi rhoi eu bywydau wrth wasanaethu eu gwlad.

Bydd yr orymdaith yn cychwyn am 10.35am ym Mharc Coffa Ynysangharad, lle bydd pobl o bob oed ac o ystod o sefydliadau cymunedol a milwrol yn ymffurfio ac yn gorymdeithio at y Gofeb Ryfel. Yma, bydd gwasanaeth dan arweiniad y Parchedig Charlotte Rushton o Eglwys y Santes Catrin, Pontypridd, yn cael ei gynnal am 11am. Mae'r gwasanaeth yn gyfle i bawb weddïo ac ymuno â dwy funud o dawelwch i fyfyrio a chofio.

Bydd yr achlysur, sy'n cael ei gynnal mewn partneriaeth â Chyngor Tref Pontypridd. Mae'r achlysur hefyd yn gyfle i'r Cyngor a'i gymunedau ailddatgan eu cefnogaeth i aelodau Cymuned y Lluoedd Arfog ddoe a heddiw. Mae gan Rondda Cynon Taf hanes balch o gefnogi'r Lluoedd Arfog, ac mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn mynd ati’n rhagweithiol i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog.  

Mae manylion Cyfamod y Lluoedd Arfog, sy’n cynnwys gwasanaeth cyngor i gyn-filwyr am ddim, Cronfa Grant y Cyfamod a gwybodaeth mewn perthynas â chynllun Gostyngiadau'r Lluoedd Arfog am ddim, i’w gweld yma.

Mae carfan Lluoedd Arfog Rhondda Cynon Taf hefyd yn cynorthwyo â gwaith glanhau beddau rhyfel mewn mynwentydd o amgylch y fwrdeistref sirol yn rheolaidd, ar y cyd â Valley Veterans ac ar ran Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad. Mae croeso i wirfoddolwyr newydd. Am ragor o wybodaeth mewn perthynas â hyn, cysylltwch â Valley Veterans ar www.valleyveterans.org

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog:

Mae croeso i bob aelod o'r cyhoedd ymuno â Gwasanaeth a Gorymdaith Sul y Cofio Pontypridd. Mae’r achlysur yn gyfle i drigolion ddod at ei gilydd a dangos cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog wrth gofio’r aberth a wnaed gan y rhai sydd wedi marw mewn brwydrau. Mae'r achlysur yma yn un o nifer a fydd yn cael eu cynnal yn Rhondda Cynon Taf ar Sul y Cofio wrth i grwpiau lleol a chynghorau tref hefyd drefnu gwasanaethau ledled y fwrdeistref sirol. Mae modd dod o hyd i wybodaeth am y rhain mewn cymunedau lleol.

 

Wedi ei bostio ar 09/10/2024