Skip to main content

Cwblhau cynllun atgyweirio wal gynnal leol ym Mhont-y-gwaith

Brewery Road grid - Copy

Mae'r Cyngor wedi cwblhau cynllun atgyweirio waliau sylweddol yn Heol y Bragdy ym Mhont-y-gwaith, ac mae'r holl drefniadau rheoli traffig bellach wedi'u dileu.

Dechreuodd y cynllun i atgyweirio wal gynnal y gwaith maen mawr ar y safle ddiwedd mis Awst 2024, gan gontractwr penodedig y Cyngor, Kordel Civils and Building Ltd.

Mae gwaith dros gyfnod y cynllun wedi tynnu llystyfiant ymwthiol o'r wal, tra bod rhannau penodol o'r strwythur wedi'u tynnu a'u hailbwyntio.

Mae rhannau lleol o'r wal hefyd wedi'u hailadeiladu, tra bod y meini copa presennol wedi'u tynnu a'u hailosod lle'r oedd angen hynny.

Cafodd y cynllun ei gwblhau i raddau helaeth ddydd Llun, 7 Hydref, pan gafodd y trefniadau rheoli traffig dwy ffordd eu dileu.

Mae'r gwaith wedi'i ariannu drwy Raglen Gyfalaf Priffyrdd a Chludiant y Cyngor ar gyfer 2024/25.

Cynghorir trigolion y bydd canllaw newydd i gerddwyr hefyd yn cael ei osod fel rhan o'r prosiect, yn rhedeg uwchben y wal, yn y dyfodol.

Bydd y Cyngor yn rhoi gwybod am unrhyw darfu o ganlyniad i'r elfen yma o waith pan ddaw'r manylion i law.

Diolch i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad 

Wedi ei bostio ar 08/10/24