Skip to main content

Mae pethau'n prysuro yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty

Lido Pontypridd - Swim - Children - Summer - June 22 - GDPR Approved-53

Mae pethau'n prysuro yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, gydag wyth sesiwn BOB diwrnod yr wythnos tan ddiwedd mis Gorffennaf.

Mae amserlen haf Lido Ponty bellach ar waith sy'n golygu bydd dwy sesiwn nofio ben bore bob diwrnod yr wythnos, yn ogystal â'r chwe sesiwn arferol i'r teulu, lle bydd y teganau gwynt a'r ffynnon ar gael, a hynny ar y penwythnos, yn ystod gwyliau'r ysgol ac ar wyliau banc.

Hefyd mae sesiynau nofio yn ystod yr wythnos rhwng 9am a 3.30pm wedi'u hychwanegu at yr amserlen (mae'r tri phwll ar agor gan gynnwys y pwll sblash), yn ogystal â dwy sesiwn ar ôl yr ysgol gyda chwrs rhwystrau gwynt, peli cerdded dŵr a chychod padlo.

Mae'r sesiynau newydd yn ystod y dydd yn berffaith i'r rheiny sydd eisiau sesiwn nofio hwyrach yn ystod yr wythnos neu'r rheiny sydd â phlant cyn oed ysgol neu blant sy'n cael eu haddysgu gartref sydd eisiau mwynhau'r dŵr cynnes. Nodwch mai dim ond yn ystod dwy sesiwn olaf y dydd y bydd y teganau gwynt ar gael.

Bwriwch olwg ar yr amserlen yma:Hafan 

Mae modd prynu tocynnau yma:Hafan

 

Mae Lido Ponty bellach ar agor bob diwrnod yr wythnos tan 30 Gorffennaf, pan fydd yn cau yn rhan o drefniadau cau Parc Coffa Ynysangharad ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Mae'r Eisteddfod yn cael ei chynnal rhwng 3 a 10 Awst ond bydd dyddiad ailagor pendant ar gyfer Lido Ponty yn dibynnu ar gynnydd y trefniadau cau.

 

Wedi ei bostio ar 13/06/24