Skip to main content

Adroddiad ynghylch cynnydd diweddaraf y gwaith atgyweirio ochr y mynydd ar Ffordd y Rhigos

Rhigos, October 3 Re size
Mae gwaith atgyweirio ar Ffordd Mynydd y Rhigos yn mynd rhagddo'n dda, ar y cyfan. Mae'r gwaith yn hanfodol i ddiogelu'r llwybr allweddol yma at y dyfodol. Wrth i'r gwaith atgyweirio sylweddol ar ochr y mynydd gyrraedd ei gamau olaf gyda chyfres o dasgau cymhleth, mae'r contractwr yn gwneud cynnydd cyson â'r rhaglen gymhleth mewn amgylchedd heriol.

Heb y gwaith yma, mae'r Cyngor wedi'i wneud yn glir ei bod yn bosibl y gallai wyneb y graig ddirywio ymhellach, gan olygu bod angen ei chau ar frys am gyfnod llawer hwy.

Mae'r ddau gam cyntaf ar y trywydd iawn i'w cwblhau yn unol â'r rhaglen ac mae'r prosiect cyffredinol yn parhau i fod ar y trywydd iawn i'w gwblhau erbyn y dyddiad cwblhau'r contract.

O ganlyniad i'r cymhlethdodau parhaus a brofwyd mewn un parth ers i'r gwaith atgyweirio ddechrau, mae'r contractwr wedi cynghori y bydd y ffordd yma'n parhau i fod ar gau tan ddechrau mis Tachwedd (wedi'i amcangyfrif rhwng 7 a 10 diwrnod) er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau'n ddiogel.

Cafodd ffordd y mynydd rhwng Treherbert a Rhigos ei chau o 22 Gorffennaf fel mesur angenrheidiol i sicrhau diogelwch yn ystod y cynllun adfer mawr. Mae'r gwaith yma'n hanfodol er mwyn unioni difrod o dân gwyllt blaenorol tua phen Treherbert – sydd wedi achosi difrod mawr ar draws rhan sylweddol o ochr y mynydd, ei rwydi a'i ffensys.

Cau Ffordd Mynydd y Rhigos – Cwestiynau Cyffredin

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf :

"O'r cychwyn cyntaf, mae'r Cyngor wedi bod yn glir bod gwaith adfer Ffordd Mynydd y Rhigos yn brosiect cymhleth, sy'n delio â seilwaith enfawr mewn amgylchedd heriol iawn ar ochr y mynydd gyda chontractwyr arbenigol wedi'u cyflogi. Felly, mae'n anodd rhagweld amserlenni cwblhau yn gywir. Ar ddechrau'r gwaith, roedden ni wedi gobeithio cwblhau'r gwaith erbyn diwedd mis Hydref, ond roedd modd mynd y tu hwnt i hyn pe bai angen.

"Nid yw diweddariad heddiw yn golygu oedi hir i'r cynllun. Mae'r gwaith ar y blaen i'w raglen gytundebol – ond mae'n debygol y bydd gweithgaredd y safle yn parhau tan ddechrau mis Tachwedd. Rydyn ni'n cydnabod y bydd trigolion yn cael eu siomi gan y newyddion yma. Mae ein contractwyr arbenigol yn ymroddedig iawn i'r cynllun ac wedi gweithio'n galed i wneud y cynnydd da a welwyd hyd yma.

"Mae'r amserlen cwblhau amcangyfrifedig newydd o ganlyniad i sawl ffactor, gan gynnwys y tywydd, amodau drilio cymhleth oherwydd natur y ddaeareg, maint y deunydd rhydd ar un rhan o wyneb y graig, a mynediad cyfyngedig i'r safle. Mae cynnal sefydlogrwydd wyneb y graig yn ystod gwaith drilio yn gofyn am ddull gweithredu cyson, gan sicrhau bod y risg o gwymp creigiau'n cael ei reoli'n ddiogel a bod staff y safle'n cael eu cadw'n ddiogel bob amser.

"Hoffen ni ddiolch unwaith eto i gymunedau lleol am eu hamynedd a'u cydweithrediad, ac rydyn ni'n deall yn llwyr y tarfu sydd wedi bod o ganlyniad i gau'r ffordd. Serch hynny, rhaid i ni gwblhau'r prosiect yma'n llawn i sicrhau bod y ffordd fynydd ar gael ac yn ddiogel i'r dyfodol, a dyma beth rydyn ni i gyd ei eisiau. Byddwn ni'n rhannu rhagor o fanylion am y trefniadau agor unwaith y byddan nhw'n dod yn gliriach yn yr wythnosau i ddod."

Mae crynodeb o'r gwaith parhaus, a'r hyn a gyflawnwyd ers yr adroddiad blaenorol ym mis Medi wedi'i gynnwys isod:

Diweddariad ynghylch cynnydd y gwaith – wythnos yn dechrau Dydd Llun 7 Hydref

Mae pob un o'r 28 sylfaen a physt ar gyfer y gwanwyr creigiau mawr wedi'u gosod ar draws parthau un a dau o'r safle gwaith. Yn ei hanfod, mae hyn yn golygu gosod system ffensio dechnegol fawr i ddal y graig, sy'n cychwyn o frig wyneb y graig ac yn parhau i lawr i'r gwaelod, ger y ffordd. Mae ceblau ac angorau cysylltiedig yn cael eu gosod ar hyn o bryd, tra bod cydosod y gwanhawyr yn parhau gyda phaneli rhwyll wedi'u codi'n ddiweddar.

Mae profion bollt creigiau helaeth wedi'u cwblhau ar draws parthau un a dau, tra bod mân waith a gwaith clirio hefyd yn mynd rhagddo yn yr ardaloedd yma.

O ran parth tri, mae gwaith gosod cyfres o rwyllau gweithredol a goddefol yn gyflawn. Mae'r sylfeini ar gyfer y gwanhäwr cwymp creigiau yn y lleoliad yma wedi'u gorffen, gyda gwaith adeiladu'r gwanhäwr ei hun i fod i ddilyn. Mae gwaith paratoi yn mynd rhagddo ar gyfer gosod rhwystr cwymp creigiau – tra bod gwaith ar ei sylfeini yn cael eu cynllunio ar gyfer camau nesaf y broses.

 

Wedi ei bostio ar 17/10/24