Skip to main content

Pŵer y Mawndiroedd! Dyma sut wnaeth disgyblion drosi eu haddysg amgylcheddol yn gân

welsh subtitles Peatbog Song chorus

Mae disgyblion cynradd oedd wedi cymryd rhan mewn prosiect i adfer mawndiroedd hynafol a bywyd gwyllt traddodiadol yn rhannau o Gymoedd Afan a Rhondda Fawr wedi cyfansoddi a pherfformio cân fachog am y gwaith pwysig.

Mae hi ar gael ar YouTube, ac mae modd gwrando arni yma:

https://bit.ly/PowerofthePeatbogs

https://youtu.be/UxMSSuSeUjk

Ers i Brosiect Partneriaeth Adfer Mawndiroedd, sydd wedi'i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ddechrau ym mis Gorffennaf 2021, mae disgyblion o ran uchaf Cwm Afan a Rhondda Cynon Taf wedi cymryd rhan mewn profiadau dysgu yn yr awyr agored am adfer mawndiroedd, bioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd. 

Roedd disgyblion o Ysgol Gynradd Cymer Afan, Ysgol Gynradd Pen Afan, Ysgol Gynradd Croeserw ac Ysgol Gynradd Glyncorrwg (Castell-nedd Port Talbot) ac Ysgol Gynradd Gymraeg Ynys-wen ac Ysgol Gynradd Penyrenglyn (Rhondda Cynon Taf) wedi myfyrio ar themâu allweddol y prosiect i gyfansoddi geiriau'r gân mewn gweithdy cyfansoddi  a gafodd ei gynnal gan Swyddog Addysg a Chymunedau'r Prosiect, Sarah Reed.

Cafodd cymorth ei ddarparu gan fusnes addysg cerddoriaeth Hot Jam, a oedd wedi cyfansoddi cân gefndirol gan ddefnyddio cordiau a gafodd eu cyfosod gan y disgyblion. Roedd y disgyblion yna wedi perfformio eu cân gyda fideo cefndirol yn cynnwys ffotograffau sy’n arddangos eu cyfnod gyda'r prosiect.

Mae modd i fawndiroedd mewn cyflwr da ddarparu cynefin gwlyptir, gan feddu ar y potensial i storio carbon. O ganlyniad, mae modd i fawndiroedd gynorthwyo â'r gwaith o fynd i'r afael â'r argyfyngau presennol o ran byd natur a newid yn yr hinsawdd.

Mae Prosiect Partneriaeth Adfer Mawndiroedd wedi manteisio ar y cyfle i adfer tir oedd gynt dan goed yn rhan uchaf Cwm Afan a Chwm Rhondda Fawr. Nod hyn yw ailsefydlu cynefinoedd mawndir a oedd unwaith yn nodwedd treftadaeth naturiol sylweddol yn yr ucheldiroedd, ond o ganlyniad i newidiadau amrywiol yn nefnydd y tir, dydyn nhw bellach ddim mor gyffredin. Bydd y bartneriaeth rhwng Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Rhondda Cynon Taf, Cyfoeth Naturiol Cymru, Prifysgol Abertawe a Choed Lleol yn adfer oddeutu 250 hectar o dir o fewn ardal y prosiect erbyn iddo ddod i ben ym mis Chwefror 2025.

Meddai Sarah Reed: "Trwy rannu'r gân, mae'r prosiect yn ceisio dathlu cyfranogiad yr ysgolion yn y prosiect a diolch i'r disgyblion am eu brwdfrydedd wrth weithio gyda ni.

"Mae'r gân yn esbonio pam mae mawndiroedd yn bwysig fel cynefin a hefyd er mwyn storio carbon gyda'r "pŵer" i fynd i'r afael â'r argyfyngau presennol o ran byd natur a newid yn yr hinsawdd.

"Trwy rannu'r gân, rydyn ni'n gobeithio amlygu pwysigrwydd mawndiroedd a chodi proffil y gwaith adfer mawndiroedd yn rhan uchaf Cwm Aman a Chwm Rhondda Fawr sy'n cael ei gyflawni gan Brosiect Partneriaeth Adfer Mawndiroedd, sydd wedi'i hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol."

Meddai'r Cynghorydd Christina Leyshon, Aelod o'r Cabinet ar faterion y Gwasanaethau Corfforaethol, Cyfranogiad Ieuenctid a Newid yn yr Hinsawdd:  "Mae'r prosiect wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac wedi bod yn gyfle gwych i'r disgyblion gymryd rhan a dysgu am y mawndiroedd, yr effaith amgylcheddol cyfagos, a gwneud gwahaniaeth go iawn. Bydd y gân yn ysbrydoli prosiectau tebyg yn y dyfodol ac yn ffordd dda o gofio'r gwaith caled mae'r disgyblion wedi'i gyflawni er mwyn adfer y mawndir. Mae'r Cyngor yn falch iawn o bawb oedd yn rhan o'r gwaith."

Wedi ei bostio ar 18/10/2024