Skip to main content

Gwaith atgyweirio wedi'i gwblhau i bont o bwysigrwydd diwylliannol yng Nghwm Cynon

Gelli Isaf Bridge, grid - Copy

Mae'r Cyngor bellach wedi cwblhau cynllun atgyweirio sylweddol i Bont Dramffordd Gelli Isaf, sydd wedi'i lleoli oddi ar lwybr Taith Cynon rhwng Trecynon a Hirwaun. Mae’r gwaith atgyweirio wedi’i gyflawni gyda sylw i fanylion ar draws dau gam o’r gwaith, gan barchu statws Heneb Gofrestredig y strwythur.

Mae'r bont hanesyddol yn croesi Afon Cynon mewn lleoliad i'r gogledd-orllewin o hen safle Ffatri Cyw Iâr Mayhew. Mae'r gwaith wedi'i wneud heb fawr o darfu ar y gymuned oherwydd ei lleoliad i ffwrdd o ardaloedd preswyl. Nid yw prif lwybr Taith Cynon wedi cael ei effeithio chwaith.

Cwblhawyd cam un o’r gwaith yn ystod 2022/23 – roedd y gwaith yma'n cynnwys clirio'r safle, cael gwared â llystyfiant oedd ar y strwythur, ail-osod cerrig rhyddion, gosod cerrig newydd ac ailadeiladu rhan uchaf yr asgellfur a'r waliau 'spandrel'.  Gwnaed atgyweiriadau i niwed sgwrio ar yr ategwaith hefyd yn rhan o'r gwaith cam un, ynghyd ag ailosod y ffens ar frig y strwythur.

Mae cam dau o'r gwaith wedi dechrau ers hynny, ac mae wedi bod yn symud yn ei flaen drwy gydol 2023 a 2024. Roedd y gwaith yn cynnwys atgyweirio gwaith maen a gwaith ailbwyntio, yn ogystal â mesurau i amddiffyn rhag sgwrio a gwaith carreg flociau i asgellfur y gogledd-ddwyrain, ac ailbwyntio ac ailadeiladu rhan o asgellfur y gogledd-orllewin.

Mae ffensys a gatiau newydd wedi'u gosod oddi ar y rhan gyfagos o lwybr Taith Cynon. Mae gwaith draenio cysylltiedig hefyd wedi'i gyflawni ar y llwybr a rennir yma. Cwblhawyd y cynllun cyffredinol erbyn diwedd mis Medi 2024.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “O ran arwyddocâd diwylliannol pwysig Pont Dramffordd Gelli Isaf, cynlluniwyd y cynllun yma i atgyweirio’r strwythur hanesyddol, atal ei ddirywiad yn y dyfodol, a diogelu ei nodweddion gwreiddiol. Mae’n dilyn gwaith adfer ystyriol arall ar bont arall sy’n Heneb Gofrestredig enwog – Pont Tram Haearn a adeiladwyd yn y 1800au cynnar sydd wedi’i lleoli gerllaw yn Nhrecynon – a gwblhawyd y llynedd.

“Cyflawnwyd y ddau gam o gynllun Pont Dramffordd Gelli Isaf drwy Raglen Gyfalaf Priffyrdd y Cyngor, gyda buddsoddiad ar draws sawl blwyddyn ariannol. Fe’i cwblhawyd yn 2024/25 gan ddefnyddio cyllid a glustnodwyd ar gyfer Strwythurau Parciau. Mae hyn ar wahân i’r buddsoddiad o filiynau o bunnoedd eleni ar gyfer strwythurau priffyrdd, sydd wedi ein galluogi ni i symud ymlaen â chynlluniau mawr gan gynnwys atgyweirio Ffordd Mynydd y Rhigos a wal Stryd Margaret ym Mhont-y-gwaith.

“Rydyn ni hefyd yn darparu rhaglen atgyweirio Storm Dennis gwerth £3.61 miliwn yn 2024/25, a ariennir yn gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru. Mae wedi ein galluogi i gwblhau atgyweiriadau i’r Bont Wen ym Mhontypridd a Phont Droed Castle Inn yn Nhrefforest – tra bod gwaith ar Bont Droed y Bibell Gludo newydd ger Abercynon yn mynd rhagddo’n dda.

“Rydw i’n falch bod cynllun Pont Dramffordd Gelli Isaf  bellach wedi’i gwblhau. Roedd yn rhaid i'r gwaith yma gael ei wneud dros gyfnod hir o amser oherwydd roedd hi'n bwysig ein bod ni'n gwneud y cynllun yma'n iawn – yn enwedig o ystyried arwyddocâd diwylliannol y strwythur. Mae ei leoliad anghysbell hefyd wedi sicrhau bod cyn lleied â phosibl o darfu ar y gymuned ehangach. Diolch i drigolion a defnyddwyr llwybr Taith Cynon am eich amynedd wrth i'r cynllun atgyweirio pwysig yma gael ei gwblhau.”

Wedi ei bostio ar 04/10/2024