Skip to main content

Pwyllgor yn cymeradwyo ciosg ar gyfer ardal gyhoeddus wedi'i hailddatblygu ym Mhontypridd

Bingo hall 1 - Oct 2024

Mae caniatâd cynllunio bellach wedi'i gymeradwyo ar gyfer adeiladu ciosg bach, sy'n gwerthu bwyd a diod i'w gario, yn hen safle'r neuadd bingo sydd wedi'i ailddatblygu ym Mhontypridd. Mae bellach modd i'r Cyngor ddechrau'r broses o sicrhau tenant i weithredu'r amwynder newydd.

Rhoddodd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ganiatâd llawn ar gyfer yr uned ddydd Iau, 26 Medi. Mae safle ehangach yr hen neuadd bingo a Chlwb Nos Angharad wedi cael ei ailddatblygu'n ofod cyhoeddus bywiog ac o safon yn ddiweddar – tra bod ei ffin â Sardis Road hefyd wedi'i throi'n safle bws newydd De yr Orsaf Drenau, gyda dwy gilfach fysiau newydd.

Bydd y ciosg newydd ar lefel uchaf yr ardal sydd newydd ei hailddatblygu, yng nghornel ogledd-ddwyreiniol y safle (ger safle bws E5). Mae'r lleoliad cyffredinol i'w weld yn y ddelwedd uchod.

Bydd y ciosg yn gweithredu fel safle manwerthu Dosbarth A1/A3 a bydd yn 6.8m o hyd a 2.75m o uchder. Bydd gan y strwythur pren do gwastad, a bydd yn cynnwys man manwerthu/cegin, storfa, a thoiled ar gyfer staff. Bydd yn darparu gwybodaeth i ymwelwyr a bydd seddi symudol awyr agored ar ei gyfer.

Roedd swyddogion wedi argymell y cais am gymeradwyaeth mewn adroddiad i'r cyfarfod cynllunio ddydd Iau, gan nodi y byddai'r ciosg yn ddatblygiad priodol ar gyfer ei leoliad arfaethedig, ac y byddai'n gyfleuster buddiol i ymwelwyr canol y dref. Ychwanegodd yr adroddiad nad oedd gan swyddogion bryderon am ymddangosiad y datblygiad a bod y math yma o giosg modiwlaidd bellach yn gyffredin mewn sawl tref a'i fod yn nodwedd dderbyniol mewn lleoliadau o'r fath.

Gyda chaniatâd cynllunio bellach wedi'i gymeradwyo, bydd y Cyngor yn dechrau'r broses o sicrhau darpar denant i weithredu o'r ciosg yn barhaol. Bydd proses dendro ffurfiol yn cael ei chynnal. Bydd y ciosg ei hun yn cael ei adeiladu oddi ar y safle ac yna'n cael ei gludo i ganol tref Pontypridd. Yn seiliedig ar yr amserlenni cyfredol, bydd yn agor i'r cyhoedd ddechrau'r Flwyddyn Newydd.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Datblygu a Ffyniant: "Rwy'n falch iawn bod y ciosg bellach wedi derbyn caniatâd cynllunio er mwyn i'r Cyngor gymryd y camau nesaf tuag at sicrhau tenant i'w weithredu. Mae'r parth cyhoeddus newydd wedi darparu porth ym mhen deheuol canol tref Pontypridd, tra bod y cilfachau bysiau newydd yn gwasanaethu'r ardal yma am y tro cyntaf - mewn lleoliad delfrydol ger yr orsaf drenau i gydlynu teithiau ar y rheilffyrdd a'r bysiau.

"Mae ein buddsoddiad i adfywio Pontypridd wedi gwneud cynnydd ardderchog, gyda gwaith adfywio safle'r neuadd bingo ac agoriad Y Muni yn ddiweddar. Mae'n dilyn agoriad Llys Cadwyn, YMa a Chwrt yr Orsaf, a buddsoddiad parhaus y Loteri Treftadaeth ar gyfer Parc Coffa Ynysangharad. Ym mis Gorffennaf, cymeradwyodd y Cabinet hefyd gamau nesaf y cynllun cyffrous i ddod â'r hen safle M&S nodedig yn ôl i ddefnydd, gyda'r weledigaeth o gael 'plaza glan yr afon'.

"Roedd ciosg bach, i werthu bwyd a diod i'w gario, wedi'i gynnwys bob amser o fewn y cynlluniau parth cyhoeddus ar gyfer safle'r neuadd bingo, ac mae sicrhau caniatâd cynllunio yn garreg filltir bwysig sy'n dangos ein bod ni'n parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i hyn. Bydd swyddogion nawr yn dechrau proses dendro ffurfiol i sicrhau gweithredwr addas ar gyfer yr uned, a dylai'r lleoliad agor yn y Flwyddyn Newydd."

I gael rhagor o wybodaeth, neu i holi am weithredu'r ciosg newydd, e-bostiwch swyddogion y Cyngor: PorthyDe@rctcbc.gov.uk.

Wedi ei bostio ar 07/10/2024